- Llety
- Gwneud cais i'r Brifysgol
- Gyrfaoedd a Swyddi
- Arlwyo
- Costau bob dyddFAQs
- Ffioedd a chyllid
- Hanes
Peidiwch รข phoeni. Fe fyddant mewn dwylo da.
I'r rhan fwyaf o fyfyrwyr, dechrau yn y brifysgol fydd un o'r heriau pwysicaf a mwyaf cyffrous iddynt ei hwynebu. Mae hi felly'n ddealladwy y byddwch chi, fel rhieni a gwarcheidwaid, yn poeni ychydig wrth i'ch plentyn baratoi i adael gartref.
At hynny, mae cymaint o gwestiynau! Beth fydd fy mab/merch yn ei astudio? Ble bydd ef/hi'n byw? Beth sydd i'w wneud? Faint y bydd yn ei gostio? Pa gymorth sydd ar gael os aiff rhywbeth o'i le? Sut y bydd mynd i'r brifysgol yn helpu rhagolygon gyrfa fy mhlentyn? Pa mor ddiogel y bydd ef/hi?
Nod y tudalennau hyn yw'ch cysuro ac ateb ychydig o gwestiynau cyffredin. Yn benodol, byddwch yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y dylai'ch mab/merch ei ystyried cyn mynd i'r brifysgol, a'r cymorth y byddant yn ei dderbyn.
Bydd bod â gradd yn gwella'n sylweddol y rhagolygon gyrfaol y gall eich mab/merch ddisgwyl eu mwynhau.
Canllaw i rai o'r pethau y dylech eu hystyried wrth helpu eich mab neu ferch i ddewis beth a pha le i astudio.
Gallwch fod yn sicr y bydd eich mab neu ferch yn derbyn y gefnogaeth orau sy'n bosib.
Mae'r lle y bydd eich mab neu ferch yn byw yn debyg o fod yn ran bwysig o'u profiad o fod yn y brifysgol. Mae'r cyfan ar gael yma.