Ffioedd ar gyfer myfyrwyr rhan-amser

Ffioedd ar gyfer myfyrwyr rhan-amser

Y ffi safonol ar gyfer myfyrwyr israddedig rhan-amser o'r DU a'r UE ar gyfer blwyddyn academaidd 2011-2012 yw £335 am bob cwrs 30 credyd.

Cyllid ar gael i israddedigion rhan-amser o'r DU a'r UE

  • Grant Rhan Amser (PTG): Os ydych yn astudio o leiaf 50% o gwrs cyfwerth â llawn-amser gallwch wneud cais am PTG gan eich Awdurdod lleol. Mae'r  PTG yn grant ar sail prawf moddion ac yn cynnwys hyd at uchafswm grant ffioedd o £670 yn ogystal â grant cwrs hyd at £1095 tuag at gostau teithio a deunydd cwrs. Nid oes angen i chi ad-dalu'r grant am unrhyw flwyddyn academaidd a gwblhewch.
  • Cymhwysedd PTG: Mae'r grant a ddyfernir yn dibynnu ar incwm eich cartref. Os yw'r cyfanswm incwm yn llai na £16,865 neu os ydych yn derbyn budd-daliadau wedi'u hasesu ar sail incwm, er enghraifft Budd-dal Tai neu Fudd-dal y Dreth Gyngor, byddwch yn gymwys i dderbyn yr uchafswm grant. Bydd cymorth rhannol ar gael os yw'ch incwm yn fwy na £16,865 ond yn llai na £25,436.00.  
  • Cymorth ychwanegol: Mae'n bosib hefyd y byddwch yn gymwys i wneud cais am grantiau eraill os oes gennych berthynas sy'n ddibynnol arnoch yn ariannol. Er enghraifft, Grant Oedolion Dibynnol (ADG), Grant Gofal Plant (CCG), Lwfans Dysgu ar gyfer Rhieni (PLA)
  • Nid yw fyfyrwyr sydd eisoes â gradd baglor yn gymwys ar gyfer y grantiau.
  • Bydd angen i chi gwblhau'ch astudiaethau o fewn chwe blynedd i ddechrau gan fod y cyllid dim ond ar gael am chwe blynedd a chi fydd yn gyfrifol am dalu am unrhyw gyfnodau ychwanegol.

Categorïau ffioedd eraill:

  • Codir £1,680 ar fyfyrwyr sydd ar leoliadau cwrs rhyngosod am flwyddyn neu brofiad astudio/addysgu dramor am Flwyddyn Academaidd 2011-2012 (Nid oes ffioedd dysgu'n daladwy am fyfyrwyr Cartref/UE ar leoliad cyfnewid ERASMUS/SOCRATES am y flwyddyn gyfan).
  • Y ffi i fyfyrwyr llawn-amser o'r DU a'r UE am ail-wneud modiwlau israddedig yw £274 am bob modiwl 10 credyd.
  • Mae'r ffioedd am arholiadau i ymgeiswyr israddedig allanol llawn-amser o'r DU a'r UE fel a ganlyn:- hyd at 30 credyd = £170; hyd at 60 credyd = £340; hyd at 90 credyd = £510 a hyd at 120 credyd = £680.