LLB y Gyfraith a Sbaeneg

Trosolwg Cwrs

Drwy astudio am LLB yn y Gyfraith a Sbaeneg ym Mhrifysgol Abertawe, byddwch yn ennill gradd gymhwyso yn y Gyfraith a addysgir gan arbenigwyr proffesiynol, mewn amgylchedd cefnogol, gan eich galluogi i feithrin dealltwriaeth o system gyfreithiol y DU ac un o brif ieithoedd y byd. Gyda'i gilydd, bydd Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton a Choleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau yn cynnig profiad neilltuol i chi fel myfyriwr, cyflogadwyedd uwch a chwricwlwm blaengar a fydd yn eich hyfforddi i ddeall y dirwedd gyfreithiol newidiol ar raddfa ryngwladol.

Nodweddion Allweddol

  • Gradd gymhwyso yn y Gyfraith ynghyd â dealltwriaeth o un o brif ieithoedd y byd, gan eich galluogi i feithrin y sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol ar gyfer gyrfa mewn meysydd sy'n ymwneud â'r gyfraith a chyfiawnder troseddol
  • Un o'r 250 o adrannau'r Gyfraith gorau (Tablau Prifysgolion y Byd QS)
  • Sgôr gyffredinol o 92% ar gyfer addysgu'r Gyfraith (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2017)
  • Mae 99% o fyfyrwyr yn cytuno bod y staff yn esbonio pethau'n dda (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2017)
  • Mae 90% o raddedigion LLB o Abertawe mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach. Roedd 75% o'r rhai mewn cyflogaeth wedi sicrhau swydd broffesiynol neu reoli chwe mis ar ôl y cwrs
  • Cyfle i dreulio blwyddyn dramor yn Sbaen neu Gran Canaria ar ddiwedd blwyddyn dau
  • Cyfle i ddatblygu eich sgiliau cyfreithiol ac ieithyddol gan ddefnyddio un o brif ieithoedd y byd
  • Mae blwyddyn 4 yn cynnwys modiwlau dewisol yn unig - rhestr helaeth i ddewis ohoni!
  • Dysgu drwy brofiad (Addysg Gyfreithiol Glinigol, Prosiect Camwedd Cyfiawnder)
  • Cyfle i gymryd rhan mewn ffug lysoedd blynyddol
  • Dysgu drwy ddarlithoedd (sy'n cael eu recordio), seminarau a thiwtorialau   

Modiwlau

Ymwadiad: Gall opsiynau dethol modiwlau yn newid.

Blwyddyn 1 (Lefel 4)

FHEQ 4 Degree / HECert

Mae myfyrwyr yn dewis 120 o gredydau o'r opsiynau canlynol:

Modiwlau Gorfodol
Cod y ModiwlSemesterCredydauEnw'r Modiwl
LAA104Semester 1 (Sep-Jan Taught)10Contract Law 1
LAA105Semester 1 (Sep-Jan Taught)10European Law 1
LAA106Semester 1 (Sep-Jan Taught)10Public Law 1
LAA107Semester 1 (Sep-Jan Taught)10Law of Tort 1
LAA112Semester 2 (Jan - Jun Taught)10Contract Law 2
LAA113Semester 2 (Jan - Jun Taught)10European Law 2
LAA114Semester 2 (Jan - Jun Taught)10Public Law 2
LAA115Semester 2 (Jan - Jun Taught)10Law of Tort 2
Modiwlau Opsiynol
Spanish Optional Modules TB1 

Dewiswch Yn union 20 o gredydau o'r Modiwlau a ganlyn:

NODER :Please select one module below (delivered in English or Welsh):

Cod y ModiwlSemesterCredydauEnw'r ModiwlCanllawiau
MLS160ASemester 1 (Sep-Jan Taught)20Spanish Language 1A
MLS160AWSemester 1 (Sep-Jan Taught)20Iaith Sbaeneg 1A
AND
Spanish Optional Modules TB2 

Dewiswch Yn union 20 o gredydau o'r Modiwlau a ganlyn:

NODER :Please select one module below (delivered in English or Welsh):

Cod y ModiwlSemesterCredydauEnw'r ModiwlCanllawiau
MLS160BSemester 2 (Jan - Jun Taught)20Spanish Language 1B
MLS160BWSemester 2 (Jan - Jun Taught)20Iaith Sbaeneg 1B

Blwyddyn 2 (Lefel 5)

FHEQ 5 Degree / HEDip

Mae myfyrwyr yn dewis 120 o gredydau o'r opsiynau canlynol:

Modiwlau Gorfodol
Cod y ModiwlSemesterCredydauEnw'r Modiwl
LAA200Semester 1 (Sep-Jan Taught)15Criminal Law 1
LAA202Semester 1 (Sep-Jan Taught)15Land Law 1
LAA203Semester 2 (Jan - Jun Taught)10Land Law 2
LAA204Semester 1 (Sep-Jan Taught)10Equity & Trusts1
LAA208Semester 2 (Jan - Jun Taught)10Criminal Law 2
LAA209Semester 2 (Jan - Jun Taught)10Equity & Trusts 2
MLS260ASemester 1 (Sep-Jan Taught)20Spanish Language 2A
MLS260BSemester 2 (Jan - Jun Taught)10Spanish Language 2B
Modiwlau Opsiynol

Blwyddyn 3 (Lefel 5 YR OUT)

FHEQ 5 Sandwich Year
Modiwlau Gorfodol
Cod y ModiwlSemesterCredydauEnw'r Modiwl
LA-S00Semester 1 and 2 (Sep-Jun Taught)120Year Abroad

Blwyddyn 4 (Lefel 6)

FHEQ 6 Degree / Honours

Mae myfyrwyr yn dewis 120 o gredydau o'r opsiynau canlynol:

Modiwlau Gorfodol
Cod y ModiwlSemesterCredydauEnw'r Modiwl
MLS300ASemester 1 (Sep-Jan Taught)10Spanish General Language 3A
MLS300BSemester 2 (Jan - Jun Taught)10Spanish General Language 3B
MLS304Semester 1 (Sep-Jan Taught)10Spanish for Professional Purposes 3
MLS310CSemester 1 (Sep-Jan Taught)10Translation Workshop (Spanish into English)
Modiwlau Opsiynol
AND
Law Optional Modules  

Dewiswch Yn union 60 o gredydau o'r Modiwlau a ganlyn:

NODER :Please choose 60 credits from the list below. N.B. It is not a requirement for you to complete either a dissertation or a work placement research module. However, if you wish to apply to do a dissertation please contact Emma Borland, and if you wish to apply for a work placement research module please contact Stuart Macdonald. Until your application has been approved you must select 60 credits from below. Please ensure that credits are balanced across both semesters.

Cod y ModiwlSemesterCredydauEnw'r ModiwlCanllawiau
LAA301Semester 2 (Jan - Jun Taught)20Family Law: Parents & Children
LAA302Semester 1 (Sep-Jan Taught)20Family Law: Adult Relationships
LAA303Semester 1 (Sep-Jan Taught)20Commercial Sales
LAA304Semester 2 (Jan - Jun Taught)20World Trade LawIf you select this module you cannot select LAA305,308,309,322,326,331,332,333,335,339,340,348 or 368.
LAA305Semester 1 (Sep-Jan Taught)20Legal History of WalesIf you select this module you cannot select LAA304,308,309,322,326,331,332,333,335,339,340,348 or 368.
LAA306Semester 2 (Jan - Jun Taught)20Criminal Procedure and Sentencing
LAA310Semester 1 (Sep-Jan Taught)20Environmental Law 1 - Regulatory Law Approaches
LAA311Semester 2 (Jan - Jun Taught)20Environmental Law 2 - Non-Regulatory Law Approaches
LAA312Semester 2 (Jan - Jun Taught)20Nature Conservation Law
LAA313Semester 1 (Sep-Jan Taught)20Planning Law
LAA314Semester 1 (Sep-Jan Taught)20Employment Law: Rights and Obligations
LAA315Semester 2 (Jan - Jun Taught)20Employment Law: Enforcing RightsYou can only choose this module if you have studied LAA314 in TB1.
LAA318Semester 1 (Sep-Jan Taught)20Competition Law: Regulation of Agreements
LAA319Semester 2 (Jan - Jun Taught)20Competition Law: Regulation of DominanceYou can only choose this module if you have studied LAA318 in TB1.
LAA320Semester 1 (Sep-Jan Taught)20Terrorism: The Legal Response
LAA321Semester 1 (Sep-Jan Taught)20Criminal Evidence
LAA322Semester 2 (Jan - Jun Taught)20Human rights-based research with childrenIf you select this you cannot select LAA304, 305,308,309,326,331,333,335,339,340,348 or 368.
LAA323Semester 2 (Jan - Jun Taught)20Criminal Evidence Law and Psychology
LAA326Semester 2 (Jan - Jun Taught)20Foundations in Legal PracticeIf you select this module you cannot select LAA304,305,308,309,322,331,332,333,335,339,340,348 or 368.
LAA327Semester 2 (Jan - Jun Taught)20Media Law
LAA328Semester 1 (Sep-Jan Taught)20Cybercrime
LAA329Semester 1 (Sep-Jan Taught)20Human Rights & Social Justice
LAA330Semester 1 (Sep-Jan Taught)20Medical Law
LAA331Semester 2 (Jan - Jun Taught)20International Dispute SettlementIf you select this module you cannot select LAA304,305,308,309,322,326,332,333,335,339,340,348 or 368.
LAA333Semester 1 (Sep-Jan Taught)20International Law - Principles and ProceduresIf you select this module you cannot select LAA304,305,308,309,322,326,331,332,335,339,340,348 or 368.
LAA335Semester 1 (Sep-Jan Taught)20JurisprudenceIf you select this module you cannot select LAA304,305,308,309,322,326,331,332,333,339,340,348 or 368.
LAA336Semester 1 (Sep-Jan Taught)20Company Law: Incorporation, Constitution and Control
LAA337Semester 2 (Jan - Jun Taught)20Company Law: Governance, Rights and LiquidationYou can only choose this module if you have studied LAA336 in TB1.
LAA338Semester 1 (Sep-Jan Taught)20Criminal Law Theory
LAA341Semester 1 (Sep-Jan Taught)20Sports Law and Liability
LAA342Semester 2 (Jan - Jun Taught)20Legal Issues in Sport
LAA343Semester 1 (Sep-Jan Taught)20Legislation
LAA344Semester 2 (Jan - Jun Taught)20Multi-level Governance
LAA348Semester 2 (Jan - Jun Taught)20Cymraeg y GyfraithIf you select this module you cannot select LAA304,305,308,309,322,326,331,332,333,335,339,340 or 368.
LAA349Semester 2 (Jan - Jun Taught)20Comparative Constitutional Law
LAA364Semester 1 (Sep-Jan Taught)20Miscarriage of Justice Project Available to a limited number of students. You may not take this and LAA365
LAA365Semester 2 (Jan - Jun Taught)20Miscarriage of Justice ProjectAvailable to a limited number of students. You may not take this module if you have chosen LAA364
LAA366Semester 1 (Sep-Jan Taught)20Clinical Legal EducationAvailable to a limited number of students. You may not take this and LAA367
LAA367Semester 2 (Jan - Jun Taught)20Clinical Legal EducationAvailable to a limited number of students. You may not take this module if you have chosen LAA366
LAA368Semester 2 (Jan - Jun Taught)20Street LawIf you select this you cannot select LAA304, 305,308,309,322,326,331,332,333,335,339,340 or 348.

Disgrifiad

Strwythur

Mae blynyddoedd 1 a 2 yn cynnwys saith modiwl craidd Gradd Gymhwyso yn y Gyfraith: Cyfraith Contract, Cyfraith Trosedd, Cyfraith Tir, Cyfraith Ecwiti ac Ymddiriedolaethau, Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd, Cyfraith Camwedd a Chyfraith Gyhoeddus.

Bydd myfyrwyr yn treulio Blwyddyn 3 yn Sbaen neu Gran Canaria, gan roi cyfle iddynt wella eu sgiliau wrth ddefnyddio un o brif ieithoedd y byd, a chael blas ar ddiwylliant Sbaen.

Bydd Blwyddyn 4 yn cynnig cyfle i ddewis eich modiwlau yn y Gyfraith a Sbaeneg eich hun. Bydd hyn yn rhoi cyfle i chi ddewis o restr helaeth, gan ganiatáu i chi lunio eich profiad dysgu eich hun.

Cymorth

Dynodir Mentor Academaidd i bob myfyriwr i helpu gyda'r canlynol:

  • Arweiniad Academaidd
  • Cynllunio Datblygiad Personol
  • Arweiniad i ddod o hyd i gymorth gyda materion personol (sy'n effeithio ar eich lles, eich presenoldeb a'ch cynnydd drwy'r Brifysgol)

Mae cynrychiolwyr myfyrwyr ym mhob blwyddyn ein rhaglen y gyfraith hefyd, yn ogystal â chynrychiolydd myfyrwyr israddedig. Ar ben hyn, mae gan yr Ysgol swyddfa gwybodaeth myfyrwyr a fydd yn gallu cynnig cymorth academaidd drwy gydol eich rhaglen astudio.

Cymdeithasau

Gallwch gwrdd â'ch cyd-fyfyrwyr a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau cymdeithasol drwy ymuno âChymdeithas y Gyfraith y Myfyrwyr, y Gymdeithas Sbaeneg a/neu Gymdeithas y y Bar Myfyrwyr, sydd i gyd yn cael eu rhedeg gan fyfyrwyr, ar gyfer myfyrwyr.

Sgiliau'r Gyfraith

250 x 250

Gofynion Mynediad

Ein cynnig safonol ar gyfer ein rhaglenni Anrhydedd Sengl a Chydanrhydedd amrywiol yw 3 Chymhwyster Safon Uwch yn amrywio o raddau AAB i BBB neu gyfwerth.

Mae gwybodaeth am ofynion mynediad amgen ar gael yma.

Cymwysterau rhyngwladol: Myfyrwyr rhyngwladol (o'r tu allan i'r UE) a Myfyrwyr yr UE.

Ar gyfer ymgeiswyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf, mae angen sgôr IELTS o leiaf 6.0 (neu gyfwerth). Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

Sut i Wneud Cais

Os ydych yn ddinesydd y DU neu'r UE, dylech wneud cais yma.

Dylai myfyrwyr o'r tu allan i'r DU neu'r UE wneud cais yma.

Ffioedd Dysgu

Y ffioedd dysgu blynyddol ar gyfer blwyddyn academaidd 2018/19 fydd:

D.U./U.E. Rhyngwladol
LLB (Hons) Llawn-amser £9,000 £13,350

Gellir codi ffioedd myfyrwyr Israddedig y DU/UE llawn amser yn chwyddiannol mewn blynyddoedd astudio i ddod. Penderfynir ar y swm gan Lywodraeth Cymru.

Bydd ffioedd ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol Israddedig yn cynyddu 3% ar gyfer pob blwyddyn ddilynol o astudio.

Yn ystod blwyddyn ryngol (e.e. blwyddyn mewn diwydiant, blwyddyn dramor neu flwyddyn lleoliad), bydd ffi is yn gymwys. Am ragor o wybodaeth ewch i'n tudalen ffioedd dysgu.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Efallai y byddwch yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd cyllido eraill sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.

Myfyrwyr presennol: Mae gwybodaeth bellach am eich costau ffioedd ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Costau Ychwanegol

Gallwch wynebu costau ychwanegol yn ystod eich amser yn y Brifysgol, gan gynnwys y canlynol (ond nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr):

  • Parcio yn y cae hamdden a theithio i’r campws ac oddi yno
  • Argraffu, llungopïo, costau deunyddiau a chyfarpar ysgrifennu (e.e. cof bach)
  • Prynu llyfrau neu destunau
  • Argraffu a rhwymo
  • Gŵn ar gyfer seremonïau graddio

Blwyddyn Dramor

Mae tri dewis ar gyfer y flwyddyn dramor: 1) astudio yn un o'n prifysgolion partner yn Sbaen - Deusto (Bilbao), León, Zaragoza, Barcelona neu Murcia; 2) addysgu fel cynorthwyydd iaith Saesneg yn Sbaen neu America Ladin drwy raglen Cynorthwywyr y Cyngor Prydeinig neu; 3) lleoliad gwaith, yn amodol ar gymeradwyaeth.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd Graddedigion

Mae Ysgol y Gyfraith a Choleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau yn ymagwedd ragweithiol tuag at wella cyflogadwyedd graddedigion ac yn cynnig ystod o leoliadau gwaith lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, cyrsiau proffesiynol a'r cyngor a chymorth i'ch helpu i ddatblygu'r sgiliau i gyflawni eich uchelgeisiau.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yma:

Ysgol y Gyfraith

Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau

Astudiaethau Pellach

Mae ein rhaglenni'r gyfraith a throseddeg ôl-raddedig yn cynnwys graddau Meistr a addysgir mewn troseddeg, hawliau dynol a'r gyfraith, ynghyd â graddau ymchwil a chymwysterau proffesiynol ôl-raddedig yn y gyfraith (Diploma yn y Gyfraith i Raddedigion a Chwrs Ymarfer y Gyfraith).

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

Manylion Cyswllt

Ymholiadau

Am ragor o fanylion am astudiaethau LLB israddedig (ymholiadau gan fyfyrwyr o'r Deyrnas Unedig), cysylltwch â:

  • Ms Gemma Champion (Swyddog Recriwtio) Rhif Ffôn: +44 (0)1792 606341
  • Dr Patrick Bishop (Pennaeth Derbyn Myfyrwyr Israddedig)+44 (0)1792 513586
  • Katy Vaughan (Tiwtor Derbyn LLB)+44(0)1792 602012

 E-bost: study@abertawe.ac.uk

Dylai ymgeiswyr o'r Undeb Ewropeaidd neu fyfyrwyr rhyngwladol ddilyn y ddolen ganlynol : 
http://www.swan.ac.uk/international/contactus/makeanenquiry/

E-bost: international@abertawe.ac.uk 
Ffôn: 00 44 (0) 1792 602600

Fideo LLB