BA Cymraeg ac Almaeneg (ail iaith / 4 blynedd)

Clirio ac Addasu UCAS 2018

Disgwylir nifer gyfyngedig o lefydd gwag ar gyfer ymgeiswyr Hwyr, Clirio ac Addasu 2018 ar nifer o raglenni.  Gall gofynion mynediad amrywio o’r rhai a nodir isod.  Am yr wybodaeth ddiweddaraf ar lefydd gwag ac ymgeisio drwy Glirio ac Addasu, ewch i'n tudalennau Clirio ac Addasu 2018.

Trosolwg Cwrs

Os am astudio'r Gymraeg mewn adran gyfeillgar ac iddi enw rhagorol am safon ei dysgu a'i gwaith ymchwil, yna Abertawe yw'r lle i chi. Gyda’r pwyslais ar ddatblygu sgiliau craidd mewn darllen, ysgrifennu, gwrando a siarad, mae gradd BA Cymraeg a Ffrangeg yn Abertawe yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth fawr o lwybrau gyrfa.

Addysgu ac Asesu

Mae’r cwrs gradd wedi ei fapio’n ofalus, o ran cynnwys pob modiwl ac o ran y sgiliau y bydd ein myfyrwyr yn eu datblygu.  Ceir ystod eang o ddulliau asesu: cyflwyniadau, trafodaethau, creu podlediadau, creu tudalennau gwe, projectau, arholiadau a thraethodau.  

Nodweddion Allweddol

Cymraeg: 

  • Addysg o’r safon uchaf gan staff brwdfrydig, profiadol
  • Dosbarthiadau bychain ac oriau dysgu dwys
  • Cefnogaeth ariannol ychwanegol am astudio drwy'r Gymraeg a chyfleoedd gwerthfawr am brofiad gwaith
  • 86% o'n graddedigion mewn swydd broffesiynol neu reolaethol o fewn 6 mis i raddio - y cyfartaledd uchaf o blith prifysgolion Cymru!
  • Dwy iaith, dau ddiwylliant; dwywaith y cyfleoedd, dwywaith yr hwyl!

Almaeneg:

  • Mae'r cynllun gradd yn cynnwys dosbarthiadau iaith dwys ynghyd â modiwlau dewisol yn ymwneud ag ystod eang o agweddau ar gymdeithas a diwylliant rhannau o'r byd ble siaredir Almaeneg. 

 

Disgrifiad

Bydd myfyrwyr yn astudio chwe modiwl y flwyddyn, 3 yn y Gymraeg a 3 yn Almaeneg

Gofynion Mynediad

Ein gofynion mynediad fel arfer yw BBB neu gyfwerth (neu 120 o bwyntiau UCAS) gyda B mewn Almaeneg, a gyda B mewn Cymraeg Safon Uwch.  Gwneir cynigion ar sail y ffurflen gais, graddau tebygol/graddau a gafwyd eisoes, eich pynciau, eich datganiad personol a sylwadau eich athrawon.  Rydym hefyd yn derbyn ystod o gymwysterau uwch gan gynnwys Diploma BTEC DMM-DMM; Y Fagloriaeth Ryngwladol; Bagloriaeth Cymru; Cymwysterau Addysg Uwch a'r Brifysgol Agored, a'r Project Estynedig.

Sut i Wneud Cais

Gwnewch gais yma

Ffioedd Dysgu

Y ffioedd dysgu blynyddol ar gyfer blwyddyn academaidd 2018/19 fydd:

D.U./U.E. Rhyngwladol
BA (Hons) Llawn-amser £9,000 £14,600

Gellir codi ffioedd myfyrwyr Israddedig y DU/UE llawn amser yn chwyddiannol mewn blynyddoedd astudio i ddod. Penderfynir ar y swm gan Lywodraeth Cymru.

Bydd ffioedd ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol Israddedig yn cynyddu 3% ar gyfer pob blwyddyn ddilynol o astudio.

Yn ystod blwyddyn ryngol (e.e. blwyddyn mewn diwydiant, blwyddyn dramor neu flwyddyn lleoliad), bydd ffi is yn gymwys. Am ragor o wybodaeth ewch i'n tudalen ffioedd dysgu.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Efallai y byddwch yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd cyllido eraill sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.

Myfyrwyr presennol: Mae gwybodaeth bellach am eich costau ffioedd ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Costau Ychwanegol

Nid yw'r ffioedd dysgu yn talu am brynu llyfrau nac offer swyddfa, argraffu, rhwymo traethodau na chostau llungopïo.

Ni phennwyd costau ychwanegol gorfodol ar gyfer y cwrs hwn.