Trosolwg o'r Cwrs
Mae Saesneg a'r Cyfryngau yn ymchwilio ymarfer y cyfryngau creadigol ar draws ystod eang o bynciau, gan gynnwys radio a chynhyrchu fideos, y cyfryngau cymdeithasol a digidol, newyddiaduriaeth, cysylltiadau cyhoeddus, brandio a marchnata.
Bydd astudio'r radd tair blynedd hon yn agor drws i ystod o bosibiliadau gyrfaol cyffrous drwy eich helpu i ddatblygu sgiliau y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi.
Gyda 91% o raddedigion mewn cyflogaeth neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio (DLHE 2015), bydd y radd hon mewn Saesneg a'r Cyfryngau yn eich rhoi mewn safle gwych i lwyddo mewn amrywiaeth o yrfaoedd.