Trosolwg o'r Cwrs
Y rhaglen BA Astudiaethau Canoloesol integredig pedair blynedd hon yw'r cyflwyniad delfrydol i addysg uwch os ydych yn dychwelyd at eich astudiaethau ar ôl blwyddyn i ffwrdd neu os nad ydych yn teimlo'n barod i ddechrau cwrs gradd yn syth.
Bydd y flwyddyn sylfaen yn rhoi sylfaen gadarn i chi mewn sgiliau ymchwilio ac astudio yn ogystal â chyflwyno themâu allweddol hanes a llenyddiaeth ganoloesol i chi.
Wrth i chi fynd yn eich blaen drwy'r cwrs, byddwch yn archwilio'r cyfnod canoloesol yng nghyd-destun llenyddiaeth, athroniaeth, y gyfraith, crefydd, gwleidyddiaeth a gwrthdaro.
Byddwch yn meithrin sgiliau ymchwil a dadansoddi ardderchog ac yn dysgu sut i gyflwyno eich syniadau'n effeithiol yn ysgrifenedig ac ar lafar.