Trosolwg o'r Cwrs
Darganfyddwch sut mae newidiadau cymdeithasol a thechnolegol y cyfnod canoloesol wedi dylanwadu ar gymdeithas a diwylliant modern ar y cwrs gradd BA hwn.
Byddwch yn archwilio'r cyfnod canoloesol yng nghyd-destun rhyfel, crefydd, llenyddiaeth, athroniaeth, y gyfraith a gwleidyddiaeth, gan astudio themâu a chyfnodau allweddol yr oes hynod ddiddorol hon.
Byddwch yn meithrin sgiliau ymchwil a dadansoddi ardderchog ac yn dysgu sut i gyflwyno eich syniadau'n effeithiol yn ysgrifenedig ac ar lafar.
Mae gan ein staff academaidd gryfderau penodol mewn ymchwilio i hanes a llenyddiaeth yr Oesoedd Canol, gan ymdrin â themâu megis pŵer a gwrthdaro, archaeoleg a thirweddau, rhywedd a rhywioldeb, crefydd a diwylliant, a meddygaeth.