Profiad bythgofiadwy i un o ddarlithwyr yr Academi

Profiad bythgofiadwy i un o ddarlithwyr yr Academi

Dyma hanes profiad bythgofiadwy Dr Llyr Gwyn Lewis, Darlithydd Cymraeg yn Academi Hywel Teifi, yn ymweld â’r Wladfa Gymraeg ym Mhatagonia.

Wedi blynyddoedd o freuddwydio, profiad bythgofiadwy oedd cael ymweld â’r Wladfa Gymraeg ym Mhatagonia fis Mai eleni. A gyda dathliadau canmlwyddiant a hanner y Wladfa ar y gorwel, roedd y cyfle i wneud cyfeillion newydd a chreu amryw gysylltiadau tra oeddwn yno yn un rhy dda i’w golli, yn enwedig o ystyried y berthynas arbennig sydd rhwng y Gwladfawyr a ninnau yma yn Abertawe.

Roeddem ni eisoes wedi gweld cryn dipyn ar y Gaiman a’r cyffiniau, ac wedi cyfarfod amryw o’r trigolion, yn ystod ein dyddiau cyntaf yno. Felly roedd ymgynnull ym mwyty Gwalia Lân ar nos Iau, 15 Mai yn teimlo’n beth cwbl gartrefol, a nifer o wynebau cyfarwydd wedi dod i roi cynnig ar ychydig o farddoni. Does dim amheuaeth gen i nad oedd y pizza a’r gwin a oedd ar y fwydlen wedi denu ambell un hefyd!

Mi fûm yn darllen ambell gerdd o’r gyfrol newydd, cyn i Iwan Madog, sy’n gweithio i Fenter Iaith Patagonia, gynhesu’r dorf gyda gemau geiriol. Yna cyflwyno’r gweithdy, trwy ddarllen cerdd Twm Morys, ‘Darllen y map yn iawn’, ac ymateb iddi drwy wneud tyllau pin mewn map o Ddyffryn Camwy! Holl bwynt darllen map, yn ôl y gerdd, yw nodi’r holl leoedd sy’n bwysig i ni – boed oherwydd rhyw chwedl neu hanes sy’n perthyn i’r lle, oherwydd y bu’n teuluoedd a’n cyndeidiau yn byw neu’n gweithio yno, neu hyd yn oed oherwydd ei fod yn lle na ŵyr neb ond ni amdano.

Mynd ati wedyn i lunio’n cerddi’n hunain, yn seiliedig ar y lleoedd sy’n bwysig i ni. Cyrhaeddodd y pizza i roi egni i’r beirdd, a bu pawb wrthi’n ddygn. Cafwyd amrywiaeth o themâu, lleoliadau a mesurau, cerddi doniol a dwys, a phob un yn wych. Mae’n hen bryd i’r Gaiman godi tîm Talwrn, dd’wedwn i, ac mi awgrymais hynny hefyd mewn sgwrs â Luned Gonzalez ar Radio Chubut yn ddiweddarach yr wythnos honno.

Yn gynharach y diwrnod hwnnw, roeddwn i wedi ymweld ag Ysgol yr Hendre, Trelew, lle cafwyd croeso mawr gan ddisgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6. Fe gyfansoddwyd cerdd ar y cyd gennym ni, a sôn am deithio a gafwyd – doedd fiw i ni anghofio unrhyw le, a rhaid oedd sôn am Dde America gyfan a’r croeso sy’n aros unrhyw un a ddaw yno. Rhaid oedd cofio pengwiniaid Punta Tombo hefyd! Roedd y disgyblion yn llawn syniadau ac yn hoff iawn o odli – a chefais i ddim cyfle i gyfrannu’r un gair at y gerdd. Roedden nhw mor falch o’u cerdd nes iddynt benderfynu y bydden nhw’n gosod copi ohoni ar ddrws ffrynt yr ysgol. Diolch hefyd i Sioned Jones, Ana Chiabrando a gweddill staff yr ysgol am eu croeso twymgalon.

Rai dyddiau’n ddiweddarach, roedd Lowri a minnau’n croesi’r paith ac yn anelu am Esquel a Threvelin. Ac ar ôl wythnos braf yno hefyd, daeth yn amser gweithdy arall ar ein noson olaf yn y Wladfa. Allen ni ddim bod wedi gofyn am noson fwy cyfeillgar a chroesawgar cyn gadael – sôn am wneud i ni fod eisiau aros! Bu’r criw yma hefyd yn gwrando’n astud cyn dechrau arni. Cymysgedd o pizza ac empanadas a gafwyd i finiogi’r awen y tro hwn – rhywbeth a’m plesiodd i’n fawr gan fy mod wedi magu tipyn o flas am y pasteiod blasus hyn erbyn hynny. Mae’n rhaid eu bod yn llawn maeth oherwydd fe gafwyd cerddi gwerth chweil eto yma. Y tro hwn cawsom ddringo Gorsedd y Cwmwl yng nghwmni’r gauchos, a theithio i Nant y Pysgod a dros y paith i chwilio am ddeinosoriaid.

Braf hefyd oedd dysgu rhagor am ein cysylltiadau ni yma yn Abertawe â’r Wladfa. Mawr yw’r hiraeth hyd heddiw am gwmni Dr Rhian Jones ar ôl ei chyfnod hi’n dysgu Cymraeg yn yr Andes, a phawb yn llawenhau dros ei phriodas ddiweddar – roedd fy mag ar y ffordd adref yn drymlwythog o anrhegion priodas iddi. Roedd y chwiorydd, Mary ac Alwen Green, hefyd yn dal i sôn ag awch am eu cyfnod hwythau yn astudio am radd yn y Gymraeg yn Abertawe – profiad y mae’n amlwg y maent yn dal i’w drysori hyd heddiw.

Gorchwyl anodd oedd ei chychwyn hi am Bariloche a’r maes awyr y bore canlynol. Bydd pawb a aiff draw i’r Wladfa y flwyddyn nesaf fel rhan o’r dathliadau yn siŵr o gael croeso twymgalon gan y trigolion hynaws, caredig hyn. Wrth feddwl am y dathliadau hynny a’r cysylltiadau sydd wedi bod rhwng Abertawe a thrigolion Patagonia dros y blynyddoedd, byddai’n braf meddwl y bydd y dathliad hwn yn cynnig cyfle i ailgydio yn y cysylltiad hwnnw a’i aildanio. Er mor anhygoel yw tirwedd a golygfeydd talaith Chubut, y bobl eu hunain sy’n sicrhau bod lle arbennig i’r Wladfa yng nghalonnau nifer yma yng Nghymru. Mae’n bwysig nad ydym yn anghofio hynny wrth ddathlu – y rhai sydd yn dal yno’n gweithio ac yn ymlafnio i gadw’r Gymraeg yn fyw a ddylai fod wrth galon unrhyw ddathliad. Gobeithio hefyd y bydd unrhyw gysylltiadau a grëir neu a adnewyddir yn parhau’n iach am flynyddoedd ar ôl 2015.