Cyflwyno cyfrol Ysgrifau Beirniadol i ysgolhaig blaenllaw

Cyflwyno cyfrol Ysgrifau Beirniadol i ysgolhaig blaenllaw

Bydd cyfrol Ysgrifau Beirniadol XXXI yn cael ei chyflwyno i’r Athro M. Wynn Thomas, deilydd Cadair Emyr Humphreys yn Llên Saesneg Cymru ym Mhrifysgol Abertawe.

Bydd y gyfrol newydd yn cael ei chyflwyno i’r awdur toreithiog nos Iau 21 Mawrth er mwyn cydnabod ei ddylanwad mawr ar ddiwylliant Cymraeg yn ogystal â’i wasanaeth i ddwy lenyddiaeth Cymru dros y blynyddoedd.

Dyma’r gyfrol gyntaf o dan olygyddiaeth yr Athro Tudur Hallam o Brifysgol Abertawe a’r Dr Angharad Price o Brifysgol Bangor a bydd yn cael ei chyflwyno i’r cyhoedd mewn digwyddiad a fydd yn cyd-daro yn y ddau le am 5yh.

Yn lansiad y de, bydd yr Athro Tudur Hallam yn cyflwyno copi o’r llyfr i’r Athro M. Wynn Thomas, a cheir cyfweliad dadlennol rhwng y ddau academydd yn y gyfrol.

Yn lansiad y gogledd, bydd y Dr Angharad Price a rhai o’r cyfranwyr yn trafod eu gwaith a’u gobeithion ar gyfer y gyfres.

Mae’r gyfrol yn cynnwys darnau gan nifer o gyfranwyr newydd ac mae’r ysgrifau amrywiol yn adlewyrchu eu hawydd i drafod amrywiaeth o destunau Cymraeg mewn modd gwreiddiol a chreadigol, a hynny’n aml mewn cyd-destun rhyngwladol.

Un o’r rheiny yw Hannah Sams, myfyrwraig ôl-radd gydag Academi Hywel Teifi. Testun ei hysgrif yw ‘Ailymweld â Theatr yr Absurd’ sy’n deillio’n rhannol o'i thraethawd ymchwil MA ar waith Gwenlyn Parry a Theatr yr Absurd.

Ceir ynddi drafod difyr ar bob math o lenorion o Gymru a thu hwnt, gan gynnwys Taliesin, Dafydd ap Gwilym, Daniel Owen, Saunders Lewis, Kate Roberts, Dic Jones, Eurig Salisbury, Hywel Griffiths ac Aneirin Karadog heb anghofio Gustave Flaubert a Georges Sand.

Meddai Tudur Hallam, Athro’r Gymraeg a Chyfarwyddwr Ymchwil Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe: ‘‘Cymaint ei gyfraniad i lên Saesneg Cymru, fel y mae’n hawdd anghofio am sut y mae’r Athro M. Wynn Thomas wedi ysbrydoli awduron a beirniaid llenyddol Cymraeg i feddwl yn greadigol yn eu hiaith. Mae’n dda iawn gennym gyflwyno’r gyfrol hon iddo, yn gydnabyddiaeth fechan o fesur ei ddylanwad mawr ar y diwylliant Cymraeg.’’

Ychwanegodd yr Athro M. Wynn Thomas: ‘‘Wnes i ddim erioed dychmygu’r fath anrhydedd. Cariad at yr iaith, yn unig, a’m symbylodd i ymdrechu i lunio ysgrifau a chyfrolau yn y Gymraeg, ac felly mae cael fy nghydnabod fel un sydd wedi gwneud cyfraniad o ryw fath i ddiwylliant deallusol cyfoethog fy mamiaith yn rhoi’r boddhad mwyaf posib i mi.’’