- Hafan
- Israddedig
- Academi Hywel Teifi
- Cangen Abertawe o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Cangen Abertawe o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Cangen Abertawe
Fforwm staff cyntaf Cangen Abertawe
Gofod dysgu Abertawe
Lowri Morgan yn ystod lansiad y Gofod Dysgu
Cangen Prifysgol Abertawe o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Mae’r Coleg Cenedlaethol Cymraeg yn chwarae rhan bwysig mewn cynllunio, cynnal a datblygu addysg ac ysgolheictod cyfrwng Cymraeg. Mae’r Coleg yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r prifysgolion yng Nghymru. Mae gan y Coleg ganghennau ym mhob un o brifysgolion Cymru sy’n aelod o’r Coleg.
Cangen Abertawe o’r Coleg Cymraeg
Mae Prifysgol Abertawe yn gweithio ar y cyd â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac mae Cangen y Brifysgol wedi'i lleoli yn Academi Hywel Teifi. Fel aelod o’r Coleg, byddwch chi hefyd yn aelod o Gangen y sefydliad. Mae’r Gangen yn rhan allweddol o drefniadaeth y Coleg, a threfniadaeth cyfrwng Cymraeg Prifysgol Abertawe, gan dynnu at ei gilydd aelodau o staff er mwyn trafod ac ystyried materion cyfrwng Cymraeg yn sefydliadol ac yn genedlaethol.
Mae Cangen Prifysgol Abertawe yma i ddarparu cymorth a chefnogaeth i chi. Mae drws y gangen ar agor os ydych chi am fwy o wybodaeth am y cyfeoedd a’r gweithgaredd sydd ar gael yn y Brifysgol.
Tystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg y Coleg
Mae’r Dystysgrif wedi ei datblygu er mwyn galluogi myfyrwyr sy’n astudio yng Nghymru i ennill cymhwyster sy’n dangos tystiolaeth o’u sgiliau iaith a’u gallu i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg. Fel aelod o’r Coleg bydd gennych gyfle i ennill y cymhwyster
Pan fyddwch yn ymgeisio am swyddi yn y dyfodol felly, bydd gennych:
- dystiolaeth (a gydnabyddir gan y sector addysg uwch a chan gyflogwyr) o lefel eich sgiliau iaith Gymraeg
- ffordd o ddangos eich gallu i gyfathrebu yn hyderus ac yn broffesiynol yn y Gymraeg mewn amrywiaeth o gyd-destunau a sefyllfaoedd
Am fanylion pellach, ewch i www.colegcymraeg.ac.uk/myfyrwyr/cy/tystysgrifsgiliauiaith
Gofod Dysgu'r Coleg Cymraeg yn Abertawe
Gofynnwyd i sefydliadau fynegi diddordeb mewn lletya Gofod Dysgu penodedig i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Darparwyd grant o bum mil ar hugain o bunnoedd i ariannu’r offer. Mae’r ystafell ddysgu amlbwrpas ar gampws y Brifysgol yn adeilad CDS sydd du cefn i Taliesin. Bydd hwn yn adnodd defnyddiol i fyfyrwyr, yn eu galluogi i gymryd rhan mewn seminarau a darlithoedd mewn gwahanol sefydliadau. Lansiwyd yr ystafell yn swyddogol gan Lowri Morgan sy’n Gymrawd Anrhydeddus i’r Brifysgol ar Ragfur 5ed 2012. Bydd y gofod dysgu newydd yn hwb sylweddol i'r ddarpariaeth Gymraeg ac yn fuddsoddiad gwerth chweil i’r dyfodol.
Ymaelodwch NAWR - www.colegcymraeg.ac.uk/aelodaeth
Proffil myfyriwr
"Derbyniais ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n golygu fy mod i’n gallu bod yn annibynnol. Fel dysgwraig, fy athro Cymraeg ac aelodau’r Adran Gymraeg sydd wedi fy ysbrydoli i ddod yn rhugl ac anelu at fod yn athrawes Gymraeg. Fe ddewisais i ddod i Abertawe gan fod y cwrs yn un pedair blynedd, ac yn y flwyddyn gyntaf mae’r pwyslais ar wella sgiliau iaith. Mae’n galed ond rwy’n ennill mwy a mwy o hyder. Rwy wir yn mwynhau’r cwrs."
Madison Keeping, BA Cymraeg
Ysgoloriaethau Cymhelliant
£500 y flwyddyn (neu £1500 dros dair blynedd) yw gwerth y math yma o ysgoloriaeth, sydd ar gael ar gyfer myfyrwyr sy’n bwriadu astudio o leiaf traean (neu o leiaf 40 credyd y flwyddyn) o’u cwrs gradd drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae dros 40 o gyrsiau Prifysgol Abertawe yn gymwys ar gyfer Ysgoloriaethau Cymhelliant y Coleg. Mae'r rhain yn cynnwys Daearyddiaeth, Bioleg y Mor, Mathemateg, Nyrsio, Ieithoedd Modern a'r Gyfraith.
Y dyddiad cau ar gyfer Ysgoloriaeth Cymhelliant 2013-14 yw 9 Mai 2013. Cofiwch Ymaelodi â'r Coleg fel darpar fyfyriwr er mwyn medru ymgeisio!
Prif Ysgoloriaethau 2012/13
Os ydych chi’n bwriadu astudio o leiaf dwy ran o dair (neu o leiaf 80 credyd y flwyddyn) o’ch cwrs gradd drwy gyfrwng y Gymraeg, gallwch ymgeisio am un o’n Prif Ysgoloriaethau, sydd werth £1000 y flwyddyn (neu hyd at £3000 dros gyfnod eich cwrs gradd). O’r Gymraeg i Ieithoedd Modern – mae dros 25 o wahanol gyrsiau gradd bellach yn cynnwys digon o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg i fod yn gymwys i gael eu cynnwys yn yn rhan o’r cynllun hwn ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae dyddiad cau ar gyfer Prif Ysgoloriaeth 2013-14 wedi mynd heibio. Cofiwch bod angen Ymaelodi â'r Coleg fel darpar fyfyriwr er mwyn medru ymgeisio!
Ysgoloriaethau Gradd Meistr
Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig ysgoloriaethau ar gyfer myfyrwyr sydd am astudio cyrsiau gradd meistr – naill ai yn gyfan gwbl neu'n rhannol – drwy gyfrwng y Gymraeg.
£1,500 yw gwerth pob un o'r ysgoloriaethau yma, ac maent ar gael i fyfyrwyr sy'n bwriadu astudio cyrsiau lefel M penodol, sy'n cynnwys o leiaf 60 credyd o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn Rhan 1. Ynghyd ag astudio cyfran o'r cwrs ei hun drwy gyfrwng y Gymraeg, disgwylir i ddeiliaid yr Ysgoloriaethau Gradd Meistr lunio eu traethodau estynedig (neu'r hyn sy'n cyfateb i hynny) yn y Gymraeg hefyd. Bydd rhestr o'r cyrsiau Meistr cymwys ar gael cyn hir.
Er mwyn gwneud cais am Ysgoloriaeth Meistr, mae'n rhaid i chi ymaelodi gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Proffil myfyriwr
"Derbyniais Ysgoloriaeth Cymhelliant gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Dwi hefyd yn falch ofnadwy o gael y cyfle i wneud modiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg. Dw i wedi cael fy magu, ac wedi cael fy addysgu ers i mi fod yn bedair oed, trwy gyfrwng y Gymraeg."
Marc Lloyd Jones, Daearyddiaeth
Derbyniais ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n golygu fy mod i’n gallu bod yn annibynnol.
Madison Keeping, BA Cymraeg
Mae’r ddarpariaeth yn amlwg yn cynyddu, diolch i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a brwdfrydedd staff y Coleg a staff y prifysgolion.
Gethin Matthews, Darlithydd Hanes
