Academi Hywel Teifi

  • Croeso

    AHT logo

    Mae Academi Hywel Teifi yn sefydliad arbennig iawn a sefydlwyd gan Brifysgol Abertawe yn 2010 er cof am gyn-Athro Cymraeg y brifysgol.

    Y mae tair elfen i waith Academi Hywel Teifi - mae'n ganolfan ragoriaeth ar gyfer astudio'r iaith Gymraeg a'i llenyddiaeth, mae'n hybu addysg ac ymchwil cyfrwng Cymraeg ar draws y pynciau a gaiff eu dysgu yn y brifysgol ac mae'n gweithio i sicrhau lle amlycach i'r iaith ym mhob agwedd o fywyd y brifysgol a rhanbarth de-orllewin Cymru.

    Tra bod yr Academi'n gartref i dîm creiddiol o staff mae hefyd yn darparu cymuned ar gyfer pawb sy'n cynnig addysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn y brifysgol ac i'r 3,500 o fyfyrwyr sy'n siarad Cymraeg yma. At hynny, mae Cangen Prifysgol Abertawe o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi'i lleoli o fewn yr Academi.

    Trwy amrywiol weithgareddau mae'r Academi yn cefnogi, cynyddu a chyfoethogi darpariaeth addysg ac ymchwil cyfrwng Cymraeg Prifysgol Abertawe gan hybu cydweithio, mentergarwch a chreu cyfleoedd trwy gyfrwng y Gymraeg. Y nod yw sicrhau y bydd myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn cael y gorau o ddau fyd - profiad Cymreig a Chymraeg mewn prifysgol ag iddi gysylltiadau amlddiwylliannol a rhyngwladol.

  • Welcome

    Academi Hywel Teifi is a unique institute established by Swansea University in 2010 in memory of Professor Hywel Teifi Edwards, a former Professor of Welsh at the university.

    There are three elements to the work of Academi Hywel Teifi - it is a centre of excellence for studying the Welsh language and its literature, it promotes Welsh-medium teaching and research across the subjects offered by the university and it works to ensure a greater status for the language in all aspects of the university's life and in south-west Wales.

    Whilst the Academi is home to a core team of staff, it also provides a community for all those offering Welsh-medium provision across the university and to the 3,500 Welsh speaking students on campus. Furthermore, the Swansea University Branch of the Coleg Cymraeg Cenedlaethol is situated within the Academi.

    Through various activities the Academi supports, increases and enriches the Welsh-medium provision and research at Swansea University and encourages collaboration, entrepreneurship and opportunities through the medium of Welsh. The aim is to ensure that Swansea University students have the best of two worlds - a Welsh and Welsh-medium experience in a university with multicultural and international connections.

    AHT logo

  • Yr hyn sydd gan Academi Hywel Teifi i'w gynnig

    Cymraeg

    Cyfleoedd arbennig i astudio iaith a llenyddiaeth Gymraeg ar lefel israddedig neu olraddedig. Llwybrau iaith gyntaf ac ail iaith.

    Mwy...

     

    Cyfryngau

    Astudiaethau'r Cyfryngau trwy gyfrwng y Gymraeg. Darpariaeth israddedig ac olraddedig gyffrous.

    Mwy…

    Cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg

    Gwybodaeth am y cyfleoedd sydd ar gael i astudio amrywiol bynciau trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe.

    Mwy … Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg

    Canolfan Cymraeg i Oedolion

    Mae Canolfan Cymraeg i Oedolion y De-Orllewin yn gwasanaethu siroedd Castell-nedd Port Talbot, Abertawe, Sir Gâr a Sir Benfro gan gynllunio a datblygu cyrsiau dysgu Cymraeg i oedolion o'r radd flaenaf. Mwy…

    Centre for Adults