Am y GwyddonLe, Eisteddfod yr Urdd

Mae Prifysgol Abertawe’n falch o noddi’r GwyddonLe yn Eisteddfod yr Urdd unwaith eto eleni.

Y GwyddonLe yw un o atyniadau mwyaf poblogaidd y maes, gan ddenu miloedd o ymwelwyr bob dydd.

Bydd modd i ymwelwyr i’r Eisteddfod, sy’n cael ei chynnal ym Mae Caerdydd rhwng 27 Mai a 2 Mehefin, fwynhau arlwy amrywiol o weithgareddau o fyd gwyddoniaeth, technoleg a’r digidol dan arweiniad gwyddonwyr Prifysgol Abertawe. 

Ymhlith y gweithgareddau eleni, bydd llong ymchwil newydd Prifysgol Abertawe, yr RV Mary Anning, wedi’i hangori yn y Bae a chaiff ei lansio’n swyddogol ar fore Llun 27 Mai. Bydd cyfle i ymwelwyr fynd am daith o amgylch y llong er mwyn gweld y math o waith ymchwil a’r math o deithiau bydd y llong yn gallu eu gwneud.

Bydd gwyddonwyr o Brifysgol Abertawe yn arwain rhaglen sy’n llawn gweithgareddau i’r teulu, a gweithdai difyr i bobl o bob oed. Gall ymwelwyr gymryd rhan mewn digwyddiadau rhyngweithiol megis y cyfle i godio robotiaid, cael tro ar y beic hydrogen, dysgu am effaith plastig ar lygredd yn yr amgylchedd, helpu seryddwyr proffesiynol i ymchwilio i ryfeddodau’r bydysawd a llawer mwy.  Bydd cyfle hefyd i ymwelwyr ennill gwobrau mewn cystadlaethau dyddiol a chanfod mwy am y cyrsiau a’r cyfleoedd y gall Prifysgol Abertawe eu cynnig.   

Bydd sefydliadau eraill yn ymuno â ni i ddarparu’r doreth o weithgareddau, gan gynnwys: sef Gweld Gwyddoniaeth,  Sefydliad Ffiseg yng Nghymru, Finning LTD, IBERS Prifysgol Aberystwyth ac AstroCymru a llawer mwy!

Bydd cyfle hefyd i bobl sgwrsio â chynrychiolwyr y brifysgol am gyrsiau a’r cyfleoedd sydd ar gael ym Mhrifysgol Abertawe.

Gobeithio y gwelwn ni chi yno!

Amserlen y GwyddonLe 2019