DylanEd

"My education was the liberty I had to read indiscriminately and all the time, with my eyes hanging out" - Dylan Thomas

Mae Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas wedi gweithio'n helaeth dros nifer o flynyddoedd gyda myfyrwyr ysgol, coleg a phrifysgol. Sefydlwyd Rhaglen DylanED i sicrhau bod yr agwedd hon ar y Wobr yn datblygu ac er mwyn gweithio law yn llaw ag ysgrifenwyr dawnus Abertawe a Chymru.

Nid oes ffiniau i greadigrwydd a dychymyg. Holl fwriad DylanED yw cyflwyno pobl ifanc i fyd llenyddiaeth a'u hannog i ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu creadigol eu hunain. Rydyn ni'n gweithio gydag awdurdodau lleol, ein noddwyr, ysgolion, colegau, a darlledwyr i sicrhau bod ysgrifenwyr ifanc a myfyrwyr ledled Cymru'n gweld Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas yn rhywbeth y maen nhw'n rhan ohono. Mae'r Wobr yn dod ag ysgrifenwyr ifanc o bob rhan o'r byd i Gymru a'r DU. Mae'n eu hannog i roi dosbarthiadau, darlleniadau, gweithdai ac i weithio gyda phobl ifanc. Mae DylanED yn ffynhonnell ysbrydoliaeth fawr i bobl ifanc dalentog ein rhanbarth ac mae wedi'i drefnu i gyd-fynd â'r rhaglen sydd gan Brifysgol Abertawe ei hun i ymgysylltu ag ysgolion lleol.