Microsoft Office 365 Am Ddim

Gall yr holl fyfyrwyr presennol lawrlwytho copïau am ddim o Microsoft Office 365 ar eich cyfrifiaduron personol a dyfeisiau symudol.

Mae manteision Microsoft Office 365 yn cynnwys:

  • Fersiwn lawn Office ProPlus ar gyfer cyfrifiadur personol neu Mac sy'n cynnwys Word, Excel, PowerPoint, OneNote etc.
  • Gosod ar hyd at bum cyfrifiadur personol neu Mac.
  • Gallwch lawrlwytho apiau ar gyfer hyd at bum dyfais symudol bersonol hefyd.
  • Defnyddio OneNote i drefnu'ch ffeiliau ac i gydweithredu ag eraill.
  • Cyd-drefnu ffeiliau'n awtomatig ar draws eich dyfeisiau â OneDrive.
  • Fersiynau diweddaraf o gynnyrch Office yn cynnwys nodweddion newydd drwy ddiweddariadau rheolaidd.

Beth dylwn i ei wybod?

Bydd y meddalwedd yn ddilys drwy gydol eich cyfnod fel myfyriwr neu staff ym Mhrifysgol Abertawe. Efallai y gofynnir i chi ei gadw'n weithredol yn achlysurol. Sylwer y byddwch yn lawrlwytho o Microsoft, nid o Brifysgol Abertawe.

Sut i gael Office 365?

I gael eich copi am ddim o Office 365, dilynwch y ddolen isod a mewngofnodwch i'w lawrlwytho:

Lawrlwytho Microsoft Office 365

Meddalwedd Arall

Mae meddalwedd arall ar gael hefyd, fel MatLab for Students. Dysgwch ragor yma am y feddalwedd sydd ar gael i fyfyrwyr a staff.