Eich Cyfrif E-bost Prifysgol Abertawe
Rydym yn rhoi cyfrif e-bost i bawb yn y Brifysgol y gallwch ei ddefnyddio drwy Outlook ar gyfrifiaduron y Brifysgol, drwy borwr gan ddefnyddio'r we a thrwy ddyfeisiau symudol megis ffôn symudol neu lechen.
Ymholiadau ynghylch E-bost
Rydym yn rhoi cyfrif e-bost i bawb yn y Brifysgol y gallwch ei ddefnyddio drwy Outlook ar gyfrifiaduron y Brifysgol, drwy borwr gan ddefnyddio'r we a thrwy ddyfeisiau symudol megis ffôn symudol neu lechen.
Dylai cyfrif e-bost staff newydd fod yn barod erbyn eu dyddiad dechrau. Os nad ydych wedi derbyn eich manylion, cysylltwch â'r Gwasanaethau Cwsmeriaid am gyngor. Caiff cyfeiriad e-bost staff ei greu yn awtomatig ar sail data Adran Adnoddau Dynol y Brifysgol.
Gall staff ddefnyddio'u cyfrif e-bost:
Bydd eich cyfrif cyfrifiadura myfyrwyr llawn (gan gynnwys e-bost) ar gael pan fydd eich cwrs yn dechrau, a fydd yn eich galluogi i gael mynediad at eich e-byst yn https://myuni.swan.ac.uk neu https://mobile.swansea.ac.uk.
Mae eich cyfeiriad e-bost wedi'i seilio ar eich rhif myfyriwr.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch e-bost, chwiliwch yn ein Cwestiynau Cyffredin. Gallwch hefyd wirio statws eich gwasanaeth e-bost yma. Os oes angen cymorth pellach arnoch â'ch cyfrif e-bost Prifysgol Abertawe, e-bostiwch y Gwasanaethau Cwsmeriaid.
Cadwch eich cyfrif yn ddiogel:
Os ydych yn derbyn e-bost rydych yn bryderus yn ei gylch, anfonwch ymlaen i spam@abertawe.ac.uk.
Sylwer y gellir defnyddio cyfrifon e-bost ar ddyfeisiau personol unigolion, ond bydd rhaid i'r dyfeisiau hynny gydymffurfio â Rheoliadau Cyfrifiadura'r Brifysgol.
Mae gennym gyfarwyddiadau ar gyfer gosod cyfrif e-bost y Brifysgol ar ddyfeisiau symudol a chleientiaid e-bost.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch e-bost, chwiliwch yn ein Cwestiynau Cyffredin. Os ydych dal angen cymorth ynglŷn ag ymholiad e-bost, os gwelwch yn dda cysylltwch â’n Tîm Gwasanaeth Cwsmer.