Mae’r Brifysgol yn cydnabod y gall amrywiaeth eang o anawsterau/amgylchiadau effeithio ar fyfyrwyr o bryd i’w gilydd, a allai arwain at fethu paratoi a/neu gyflwyno gwaith cwrs neu sefyll arholiad. Mae’r Brifysgol wedi mabwysiadu canllawiau gyda dyddiadau cau pendant ar gyfer ystyried yr amgylchiadau hyn mewn perthynas ag asesu. Ceir manylion am y canllawiau hyn yn y Polisi ar Amgylchiadau Esgusodol s'yn Effeithio ar Asesu.
< Cymwysterau Ymadael a Chymwysterau Wrth Gefn | Fformat Gwaith i’w Asesu >