Cymorth i gynnal ymchwil mewn cartrefi gofal

Mae’n hanfodol cynnal ymchwil ym maes heneiddio mewn cartrefi gofal gan fod perygl y gallai’r boblogaeth hon gael ei hamddifadu o’r cyfle i gymryd rhan.

Mae disgwyl i’r boblogaeth heneiddio mwyfwy dros y blynyddoedd nesaf, felly mae cartrefi gofal yn chwarae rôl hollbwysig drwy gynorthwyo pobl hŷn a gofalu amdanynt. Er eu bod yn bartneriaid hanfodol, mae cartrefi gofal yn aml yn cael eu hepgor o waith ymchwil.

Bydd ENRICH Cymru yn trefnu i ddod â staff cartrefi gofal, preswylwyr cartrefi gofal ac ymchwilwyr ynghyd i gynnal ymchwil a fydd yn gwella bywydau staff a phreswylwyr cartrefi gofal Cymru.

Nod ENRICH Cymru yw gwella bywydau preswylwyr a staff cartrefi gofal Cymru drwy ddatblygu a hwyluso rhwydwaith o gartrefi gofal sy’n barod i gynnal ymchwil drwy eu hannog i gyfnewid gwybodaeth a syniadau ymchwil a thrwy fynd ati ar y cyd i lunio astudiaethau ymchwil sy’n berthnasol i’r sector cartrefi gofal ar hyn o bryd. Byddwn yn gwahodd cartrefi gofal ac ymchwilwyr o bob rhan o Gymru i ymuno â’r rhwydwaith i greu mwy o gyfleoedd i gyflawni prosiectau ymchwil newydd ac arloesol.

Bydd y rhwydwaith yn gallu darparu:

  • Cyngor a chymorth i oresgyn yr heriau sy’n gysylltiedig â chynnal ymchwil mewn cartrefi gofal
  • Cymorth i bennu cartrefi gofal a phreswylwyr i gymryd rhan mewn astudiaethau
  • Diweddariadau rheolaidd am y datblygiadau diweddaraf o ran ymchwil a datblygu ym maes cartrefi gofal

Nod ENRICH Cymru yw cynyddu swm yr ymchwil a gynhelir mewn cartrefi gofal a gwella mynediad preswylwyr a staff at ymchwil.

Pam gweithio gyda chartrefi gofal?

Mae’n hollbwysig cynnal ymchwil mewn cartrefi gofal am bum prif reswm:

  • Gwella ansawdd bywyd

Mae preswylwyr cartrefi gofal a’u teuluoedd am gymryd rhan mewn ymchwil er mwyn gwella ansawdd eu bywydau ac ansawdd y gofal a ddarperir iddynt. Drwy gydweithio â chartrefi gofal, mae ymchwilwyr yn cael cyfle i weithio gyda phreswylwyr sydd wedi cyrraedd camau penodol salwch.

  • Amgylchedd a phoblogaeth cartrefi gofal

Mae llawer o’r bobl â phroblemau iechyd ac anhwylderau niwroddirywiol yn byw mewn cartrefi gofal. Gall fod yn hawdd mynd at y gymuned hon a gall fod yn barod i gefnogi gwaith ymchwil.

  • Gwella mynediad at ymchwil

Nid yw preswylwyr cartrefi gofal yn cael eu cynrychioli’n ddigonol mewn ymchwil glinigol. O ehangu’r cyfleoedd iddynt gymryd rhan mewn astudiaethau o’r fath, gall wella’r gyfradd recriwtio.

  • Darparu tystiolaeth a llywio arferion gorau

Oherwydd nad yw preswylwyr yn cael eu cynrychioli’n ddigonol mewn ymchwil, mae’r dystiolaeth sydd ar gael i gefnogi arferion gorau yn wan mewn rhai meysydd. Oherwydd nad yw’r dystiolaeth yn ddigonol, mae cyfleoedd ar gael i ddatblygu ymchwil newydd.

  • Codi safonau

Mae tystiolaeth sy’n deillio o waith ymchwil yn hollbwysig i helpu i godi safon y gofal a ddarperir mewn cartrefi gofal. Er enghraifft, bu un astudiaeth yn darparu hyfforddiant a chymorth i staff cartref gofal ac, o ganlyniad iddi, cafwyd gostyngiad o 50% yn y defnydd o gyffuriau niwroleptig ymhlith preswylwyr â dementia, a hynny heb i’w symptomau ymddygiadol ddirywio.

Ewch i http://enrich.nihr.ac.uk/pages/research-community i gael hyd i adnoddau defnyddiol pan fyddwch yn cynllunio ac yn cynnal ymchwil mewn cartrefi gofal.

Gwersi ynghylch cynnal ymchwil mewn cartrefi gofal – o safbwynt ymchwilydd

Prifysgol Caerdydd

Bu ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn pwyso a mesur barn rhanddeiliaid ynghylch yr heriau moesegol ac ymarferol sy’n gysylltiedig â recriwtio preswylwyr cartrefi gofal i gymryd rhan mewn astudiaethau ymchwil. Mae’r astudiaeth yn pennu gwersi ac ystyriaethau pwysig ar sail cyfweliadau gyda phreswylwyr cartrefi gofal, eu perthnasau ac ymarferwyr cyffredinol, a grwpiau ffocws gyda staff cartrefi gofal.

Yn y cyfweliadau, bu’r ymchwilwyr yn canolbwyntio ar faterion sy’n ymwneud ag oedolion hŷn yn cydsynio i gymryd rhan mewn ymchwil mewn cartrefi gofal, gan gynnwys cydsyniad ymlaen llaw, a hynny yn gyffredinol ac mewn perthynas ag astudiaeth benodol ynghylch y modd y mae probiotigau’n cael eu defnyddio i atal dolur rhydd sy’n gysylltiedig â gwrthfiotigau.

Cafodd y data eu dadansoddi gan ddefnyddio dull thematig. Defnyddiwyd themâu a bennwyd ymlaen llaw a themâu a ddaeth i’r amlwg o’r data. Bu’r ymchwilwyr yn trafod tystiolaeth ar gyfer y themâu, gan ddod i gonsensws ar y themâu terfynol. Cliciwch yma i ddarllen y papur cyfan.

 Prifysgol Abertawe

Ym mis Gorffennaf 2016, dechreuodd Caitlin Reid, BSc mewn Seicoleg o Brifysgol Reading ac MSc mewn Seiciatreg o Brifysgol Caerdydd, ar PhD yn y Ganolfan Heneiddio Arloesol. Mae’r ymchwil, ‘Deall a gwella lles meddwl oedolion hŷn mewn gofal preswyl’, yn cael ei hariannu gan yr Ymddiriedolaeth Rheoli Gofal Iechyd a’i chynnal o dan oruchwyliaeth y Dr Charles Musselwhite a’r Dr Michael Coffey.

Cliciwch yma i ddarllen am brofiad Caitlin o gynnal ymchwil mewn cartrefi gofal a rhai o’r gwersi y mae wedi’u dysgu ar hyd y daith.

 Prifysgol Bangor

Mae gan y Dr Carys Jones PhD mewn Economeg Iechyd o Brifysgol Bangor. Ar ôl iddi gwblhau ei PhD ar fesur ansawdd bywyd gofalwyr teuluol sy’n gofalu am berthnasau â dementia, mae Carys wedi aros yn y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME), gan weithio ar nifer o brosiectau sy’n gysylltiedig â’i phrif ddiddordebau ymchwil, sef dementia a heneiddio. Cliciwch yma i ddarllen am brofiad Carys o gynllunio ymchwil mewn cartrefi gofal a rhai o’r gwersi y mae wedi’u dysgu ar hyd y daith.

Cadwch lygad ar y dudalen hon am ragor o astudiaethau achos ynghylch ymchwilwyr sy’n gweithio yn y maes. Dilynwch @EnrichCymru ar Twitter i gael diweddariadau rheolaidd.