Rhwydwaith ar gyfer cartrefi gofal ac ymchwilwyr.

 

Mae rhwydwaith ENRICH Cymru yn cael ei gyd-gynnal gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a'r Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia, ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae rhwydwaith ENRICH Cymru yn gysylltiedig â rhwydweithiau rhanbarthol ENRICH cenedlaethol ledled Lloegr a'r Alban. Am fwy o wybodaeth ymwelwch â gwefan ENRICH.

Bwriad ENRICH Cymru yw gwella bywydau preswylwyr a staff mewn Cartrefi Gofal ar draws Cymru trwy ddatblygu a hwyluso rhwydwaith o Gartrefi Gofal ‘parod i ymchwil’. Bydd y rhwydwaith yn hyrwyddo cyfnewid syniadau a gwybodaeth ymchwil, ac yn meithrin cyd-greu ymchwil sy'n berthnasol i'r materion cyfredol yn y sector Cartrefi Gofal. Gwahoddir Cartrefi Gofal ac Ymchwilwyr ledled Cymru i ymuno â'r rhwydwaith i ddarparu mwy o gyfleoedd i brosiectau ymchwil newydd ac arloesol gael eu cynnal.

Mae ENRICH Cymru yn ystyried rheolwyr a staff cartrefi gofal fel yr arbenigwyr mewn ymchwil. Yn aml, fe fydd staff yn nodi meysydd i'w gwella, yn rhoi cynnig ar ffordd wahanol o weithio ac yn newid arfer. Yn y bôn, dyma sylfaen ymchwil. Caiff ymchwil ei wella pan fydd staff cartrefi gofal yn ymwneud â gosod cwestiynau, penderfynu sut mae casglu gwybodaeth a gwneud dewisiadau ynghylch yr hyn sy'n wybodaeth bwysig i'w chylchlythyru o ganlyniadau'r astudiaeth.

Mae lle yn y rhwydwaith ar gyfer yr holl Gartrefi Gofal sydd â diddordeb ymuno, p'un a ydych chi am gael y wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau diweddaraf mewn ymchwil neu os ydych chi'n barod i gynorthwyo i ddarparu ymchwil yn eich cartref.

I ymuno â'n rhwydwaith o gartrefi gofal yng Nghymru, cofrestrwch yma.

Cysylltwch â ni

enrich-cymru@swansea.ac.uk
01792 602034