Sut allwn ni helpu?

Os ydych yn edrych am gymorth i ddatblygu sgiliau iaith Gymraeg eich gweithle, mae ein gwasanaeth yn cynnig cyngor cynhwysfawr i’ch helpu i gynllunio rhaglen hyfforddi addas. Cynigir yr hyfforddiant yn eich gweithle. 

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Safonau Iaith Gymraeg newydd; mae’r rhain wedi cymryd lle’r cynlluniau iaith Gymraeg. Bydd rhaid i sefydliadau cyhoeddus a rhai sefydliadau preifat a thrydedd sector gydymffurfio â’r Safonau hyn. Bydd rhaid i weithleoedd ddarparu hyfforddiant iaith Gymraeg i’w gweithlu, rydym yma i’ch helpu chi.

Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau gweithle Cymraeg ar lefelau gwahanol sy’n cael eu:

  • Teilwra at anghenion eich gweithle
  • Trefnu ar amser sy’n gyfleus i chi
  • Cynnig yn eich gweithle
  • Cynnig am gost resymol iawn
  • Darparu ar gyfer grŵp o unrhyw faint, mawr neu fach, hyd yn oed hyfforddiant i unigolion
  • Dysgu gan diwtoriaid sydd wedi’u hyfforddi i’r radd uchaf, yn brofiadol ac yn ymroddedig

Mae rhoi’r cyfle i’ch gweithle ddysgu Cymraeg yn creu ewyllys da ymhlith eich gweithwyr; bydd hyn hefyd yn eich gwneud yn fwy cystadleuol fel busnes. Mae cael gweithlu dwyieithog yn eich galluogi i:

  • Gael mantais gystadleuol
  • Derbyn ewyllys da a theyrngarwch gan gwsmeriaid
  • Gwella ansawdd eich gwasanaeth
  • Tyfu ac ennill mwy o gwsmeriaid.

 Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Emyr Jones, Swyddog Datblygu, emyr.jones@abertawe.ac.uk  / 01792 602643

Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe - lefel Mynediad (a thu hwnt!)

Yr Haf hwn, mae’r Brifysgol yn cynnig gwersi Cymraeg am ddim, er mwyn cefnogi academyddion a staff gweinyddol/ cefnogi i ddysgu Cymraeg.  Trwy nawdd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a chyda chefnogaeth Prifysgol Abertawe a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol mae’r cynllun ar gael am y bedwaredd flwyddyn o’r bron.

Mae’r cynllun yn cael ei weithredu gan staff o uned Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe. Bydd y dosbarthiadau yn cael eu dysgu ar-lein – o leiaf tan y gallwn ystyried ail-ddechrau addysgu wyneb yn wyneb yn ddiogel. Dylai staff sydd â diddordeb drefnu gyda’u rheolwr llinell er mwyn cael eu rhyddhau am 2 awr yr wythnos ar gyfer y gwersi ar-lein yn ogystal ag ymrwymo i 2 awr o waith annibynnol yr wythnos dros 30 wythnos  (rhwng mis Ebrill 2021 a mis Mawrth 2022).

Rydym yn bwriadu rhedeg dau ddosbarth Mynediad, dydd Mawrth a dydd Iau 12-2 NEU 2-4 o’r gloch - mae rhywfaint o hyblygrwydd yn dibynnu ar eich anghenion chi.

Eleni, mae’r cynllun yn cynnig datblygiad newydd cyffrous..

Bydd dysgwyr Mynediad sydd o bosib yn ei chael yn anodd ymrwymo i amser penodol ar gyfer sesiwn ddosbarth wythnosol yn gallu astudio’n annibynnol ar-lein gyda chymorth cyson oddi wrth diwtor.  (Fydd hyn ddim mor ddelfrydol na chwaith yn gymaint o hwyl ag ymuno gyda dosbarth rheolaidd – search hynny, mae’n cynnig cyfle gwych i ddysgu.)

Os oes gennych ddiddordeb, ac os hoffech fanteisio ar y cyfleoedd arbennig yma ar lefel Mynediad, e-bostiwch Emyr Jones, Swyddog Datblygu yn Academi Hywel Teifi cyn gynted â phosib er mwyn cadw lle ar y cwrs.

Cyfleoedd ychwanegol

Mae’r cynllun hefyd yn cynnig cyrsiau dilynol dwys ar lefelau Sylfaen, Canolradd ac Uwch, gan anelu at gwblhau lefel gyfan o ddysgu o fewn blwyddyn. 

Os ydych wedi dechrau dysgu Cymraeg, neu’n siaradwr Cymraeg sydd eisiau mireinio sgiliau, megis gramadeg ac ysgrifennu, gallwch ymuno ag un o’n cyrsiau dilynol. 

O bosib, bydd y dosbarthiadau’n rhedeg ar y dyddiau yma:

  • Sylfaen – dydd Mawrth 2-4
  • Canolradd  – dydd Llun  1:30-3:30
  • Ac Uwch – dydd Mawrth 12-2 &  2-4

Am fwy o wybodaeth, neu i gofrestru eich diddordeb, cysylltwch ag emyr.jones@swansea.ac.uk

Fwy am y cynllun

Mae’r cynllun yma, ynghŷd â chyrsiau eraill a gynigir gan uned Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe, yn cefnogi amcanion strategol y Brifysgol trwy:

  • wella sgiliau iaith Gymraeg staff y brifysgol;
  • ehangu’r ddarpariaeth Gymraeg;
  • ehangu profiadau i fyfyrwyr a rhanddeiliaid; a
  • hybu a dathlu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle. 

Mae rhai o’ch cyd-weithwyr eisoes wedi elwa’n fawr o’r cynllun hwn dros y tair mlynedd ddiwethaf – dyma sydd gyda nhw i’w ddweud:

“…ffordd wych i fynd i’r afael â’r iaith o fewn grŵp mawr…”   

“mae’r cyrsiau wedi’u strwythuro’n dda… llawer o ryngweithio a chwestiynau, mewn awyrgylch gyfeillgar …”

“mae’r cwrs wedi fy helpu i gyfieithu cynnwys cyfryngau cymdeithasol dw i’n ei greu ar gyfer yr adran….a rhoi’r hyder i mi ddechrau siarad Cymraeg gyda fy ngwraig hefyd”

“Mae astudio Cymraeg ar-lein wedi rhoi hyder i mi ddechrau cyfathrebu gyda chyd-weithwyr yn Gymraeg trwy e-bost.  Er nad ydym gyda’n gilydd ar hyn o bryd, mae’r cwrs wedi cynnig y cyfle i mi wireddu fy mreuddwyd o ddysgu’r iaith , gan ddechrau cynnal sgyrsiau syml y gallwn ‘mond wedi breuddwydio eu cael y llynedd.  Alla i ‘mond canu clod i’r cwrs yma.”

“Mae'r cwrs wedi gloywi'n iaith sydd wedi fy ngalluogi i deimlo'n fwy cyfforddus a hyderus i'w defnyddio'n swyddogol gan gynnwys ysgrifennu yn y Gymraeg.”   (siaradwr Cymraeg)

Edrychwn ymlaen at helpu mwy o staff y Brifysgol i fwynhau dysgu’r Gymraeg a’i defnyddio o fewn y gweithle.