Mae'r Brifysgol yn talu teyrnged i wyddonydd "eithriadol" o Abertawe Yr Athro Brian Wilshire OBE FREeng

Mae Prifysgol Abertawe wedi talu teyrnged i'r Athro Brian Wilshire OBE FREeng o Abertawe, dyfeisiwr 'Hafaliadau Wilshire', yn dilyn ei farwolaeth ar 5 Tachwedd, yn 78 oed.

Prof Brian WIlshireDrwy yrfa aruthrol, bu'r Athro Wilshire yn gwasanaethu Prifysgol Abertawe  am fwy na phedwar degawd fel Pennaeth Deunyddiau (1985-1999); Dirprwy Is-ganghellor: Ymchwil (1969-1999); a Chyfarwyddwr Deunyddiau, Canolfannau Rhagoriaeth Technoleg a Chydweithio Diwydiannol (CETIC) a noddwyd gan Lywodraeth Cymru.

Meddai'r Athro Richard B Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, "Roedd yr Athro Brian Wilshire yn wyddonydd ac yn gymeriad eithriadol sydd eisoes wedi gadael etifeddiaeth gref yn y Brifysgol.  Bydd yn golled fawr ac rydym yn cydymdeimlo â'i deulu a'i ffrindiau."

Meddai'r Athro Steve Brown, Pennaeth Coleg Peirianneg Prifysgol Abertawe: "Roedd George yn ysbrydoliaeth i gynifer o bobl, mae'n anodd iawn derbyn ei fod wedi mynd.

"Yn ddiamau, mae cannoedd o gyn-fyfyrwyr ledled y byd a gafodd eu hysbrydoli gan ei arddulliau addysgu, mentora a rheoli dihafal. Mae llawer o'r myfyrwyr hyn bellach wedi cyrraedd uwch swyddi yn y byd academaidd a diwydiannol ac mae llawer ohonom sy'n parhau i weithio yn Abertawe'n ddyledus i George am ein gyrfaoedd.  Yr holl bobl hyn yw ei wir etifeddiaeth.

"Diolch George, roeddet ti'n un o'r cewri."

Ganed yr Athro Wilshire ym 1937 ac fe'i haddysgwyd yn Ysgol y Sir Rhondda cyn dechrau astudio ym Mhrifysgol Cymru, Abertawe ar y pryd (Prifysgol Abertawe erbyn hyn), lle enillodd radd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Meteleg, PhD, ac yna dyfarnwyd DSc iddo ym 1983 i gydnabod ei gyfraniadau rhagorol.

Cydnabuwyd ei alluoedd eithriadol yn gynnar pan gafodd ei benodi i'r staff darlithio cyn iddo gwblhau ei astudiaethau PhD.

Dringodd yr Athro Wilshire yr ysgol academaidd yn gyflym cyn cael ei benodi'n Athro yn ei rinwedd ei hun ym 1982 ac yn Bennaeth Peirianneg Ddeunyddiau ym 1985.  Oherwydd ei alluoedd arwain arbennig, bu'n dal y swydd hon tan 1999 pan ymddeolodd o'i wirfodd.

Yn ystod y cyfnod hwnnw, tyfodd cryfder a gallu Peirianneg Ddeunyddiau Abertawe'n sylweddol a dynodwyd y Brifysgol yn Ganolfan Ymchwil Rhyngddisgyblaethol ac yn Ganolfan Doethuriaeth Technoleg Dur (dan gyfarwyddyd yr Athro Wilshire) gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC), ac yn Ganolfan Technoleg Prifysgol Rolls-Royce.

Bu hefyd yn Ddirprwy Is-ganghellor y Brifysgol rhwng 1996 a 1999.

Drwy gydol ei yrfa hir a hynod llwyddiannus, bu'r Athro Wilshire, yr oedd ei gydweithwyr a'i ffrindiau yn ei alw'n George, yn ymgymryd ag ymchwil a oedd yn arwain y byd ym meysydd meteleg, gwyddor deunyddiau a pheirianneg ddeunyddiau.  

Fe'i cydnabyddir yn benodol am ei gyfraniadau pwysig ym maes ymgripiad a thorri ar dymheredd uchel, sydd wedi bod o fudd sylweddol i'r diwydiannau generadu pŵer ac awyrofod.  Datblygodd fodelau newydd ar gyfer y prosesau a'r modelau rhifyddol a oedd ynghlwm wrth y gwaith hwnnw er mwyn asesu'r mecanweithiau anffurfio a methu cysylltiedig.

Bu'n parhau â'r gwaith hwn tan y blynyddoedd diweddar, gan ddatblygu a chyhoeddi 'Hafaliadau Wilshire'.  Disgrifiodd yr hafaliadau sut mae deunyddiau'n perfformio o dan bwysau uchel, gan newid y farn safonol am sut mae deunyddiau'n anffurfio ac yn achosi methiant mecanyddol; o ganlyniad i hyn, cyflwynwyd newidiadau sylweddol i dechnolegau gweithgynhyrchu.

Roedd y gwaith yn arbennig o bwysig i Rolls-Royce, gan ddarparu cyfraniad technolegol hollbwysig i brosesau gweithgynhyrchu peiriannau tyrbin nwy effeithlon a chadarn.  Mae ei gyflawniadau arbennig yn cynnwys cysyniad rhagamcaniad Theta ar gyfer rhagfynegi oes ymgripiad ac asesu oes weddilliol.

Yn ogystal â hyn, dyfeisiodd yr Athro Wilshire fath newydd o dechnoleg cofnodi olion bysedd drwy fflochiau magnetig - powdr ôl bys magnetig. Mae'r powdr hwn, a ddatblygwyd yn Abertawe, yn darparu canlyniadau mwy eglur ar amrywiaeth ehangach o arwynebau na'r deunyddiau blaenorol. Mae'n cynnwys fflochiau haearn mân iawn  â chaen organig sy'n helpu'r powdr i lynu wrth olion seimllyd bys. Mae hyn yn cael gwared ar yr angen i frwsio ac mae'n helpu i gadw llinellau brau'r gwrymiau sy'n gwneud pob ôl bys yn unigryw.

O ganlyniad i'r llwyddiannau hyn, etholwyd yr Athro Wilshire yn Gymrawd yr Academi Peirianneg Frenhinol ym 1993; cyflwynwyd Medal Platinwm y Sefydliad Deunyddiau iddo ym 1995 a derbyniodd OBE ym 1998.

Cydnabuwyd ei arbenigedd ymchwil hefyd drwy ei benodi'n ddarlithydd Acta Metallurgica ym 1991.  Ffrwyth yr arbenigedd hwnnw oedd mwy na 200 o gyhoeddiadau a adolygwyd gan gymheiriaid a sawl llyfr, gan gynnwys ‘Technological and Economic Trends in the steel industries’, ‘Creep of Metals and Alloys’, ac ‘Introduction to Creep’.

Yn ogystal â'i weithgareddau ymchwil a rheoli, roedd yr Athro Wilshire yn ddarlithydd ardderchog, rhywbeth a gydnabuwyd yn eang gan yr holl fyfyrwyr y bu'n ymwneud â nhw.  Roedd hyn yn cael ei werthfawrogi hefyd gan Rolls-Royce (awyrofod) a chyflwynodd gyfres o gyrsiau technoleg i'r cwmni ynghylch Ymgripiad, Technoleg Gweithgynhyrchu a Deunyddiau dros 25 mlynedd. Bu hefyd yn darlithio'n helaeth i fyfyrwyr a oedd yn astudio am Ddoethuriaeth Peirianneg Dur.

Y tu allan i'w waith academaidd, roedd yr Athro Wilshire yn frwdfrydig iawn am chwaraeon, gan chwarae pêl-fasged i Gymru a Phrifysgol Cymru yn ei ieuenctid, a bu'n gefnogwr brwd pêl-droed yn y blynyddoedd diweddarach.

Mae'r Athro Wilshire yn gadael ei wraig, Marion, ei ddau fab, Neville a Ralph, a nifer o wyrion a gorwyrion.  Bydd yn golled fawr i'w deulu, ei ffrindiau a'i gyn-gydweithwyr. 


 Hoffai'r Brifysgol ddiolch i Jonathan Paul Curtis a'r Athro John Evans am eu cyfraniadau at y deyrnged hon.