Dethol rhywogaethau coed a phlanhigion yn ofalus i dirweddu Campws y Bae cynaliadwy

13 wythnos yn unig sydd i fynd tan y bydd campws newydd Prifysgol Abertawe, Campws Gwyddoniaeth ac Arloesi’r Bae, yn agor ac mae wir yn dechrau ymffurfio – ac mae’r tirweddu gofalus a chynaliadwy hefyd yn ychwanegu naws orffenedig at y datblygiad hwn sy’n gweddnewid y Brifysgol.

Bay Campus landscaping 1Yr Uwchgynllun

Prif ddatblygwr prosiect Campws y Bae yw arbenigwr adfywio blaenllaw’r DU, St. Modwen, sydd hefyd yn berchen ar y tir. Trwy St. Modwen, mae’r pensaer lleol, Stride Treglown Ltd, wedi sicrhau bod tirweddu Campws y Bae yn ategu casgliad trawiadol y datblygiad sy’n werth £450miliwn  o adeiladau fel rhan o’r uwchgynllun a gytunwyd ar gyfer y safle.

Er mwyn ehangu Ffordd Fabian i greu mynedfa ddiogel i Gampws y Bae, roedd angen cael gwared ar y llystyfiant yno, ond ers hynny plannwyd nifer helaeth o goed newydd a choetir brodorol ar hyd ffin Ffordd Fabian.

Mae Campws y Bae hefyd yn cael ei gyfoethogi gan y cynllun a’r sgwariau cyhoeddus, y mannau agored a’r iardiau wedi’u tirlunio, gan ddefnyddio cymaint o rywogaethau lleol ac amrywiaeth o rywogaethau â phosibl er mwyn sicrhau bod dail yn tyfu trwy gydol y flwyddyn.

Ar draws y datblygiad, plannwyd bron i 3,000 o goed – 200 o goed yn amrywio mewn maint adeg plannu o 12cm i 14cm o ran cwmpas, 3.0m i 4.5m o uchder, gan gynnwys gwernen, bedwen, poplysen, cerdinen, a draenen wen, yn ogystal â 2,700 o goed yn amrywio mewn maint adeg plannu o 8cm i 10cm o ran cwmpas, 2.5m i 3.0m o uchder, gan gynnwys gwernen, bedwen, poplysen, pinwydden, cerdinen a draenen wen.

Yn ogystal mae cyfanswm o 3,800 o lwyni, yn amrywio o 60cm i 80cm o uchder gan gynnwys collen, draenen wen, celyn, breuwydden, draenen ddu a rhosyn gwyllt gwyn, wedi’u plannu.

Mewn rhai ardaloedd, mae’r lleiniau ar ymylon Ffordd Fabian yn ffurfio rhan o gynefinoedd cadwraeth a reolir gan y Priffyrdd ac Awdurdod Lleol Castell-nedd Port Talbot. Yn ystod mis Gorffennaf a mis Awst 2014, casglwyd glaswelltau o ymylon cadwraeth Ffordd Fabian a gafodd eu storio yn barod i’w hau.

Wrth i waith ar safle Campws y Bae fynd yn ei flaen, cafodd yr ardaloedd tirwedd feddal eu datblygu gydag isbridd ac uwchbridd a fewnforiwyd. Cafodd proffil y pridd ei drin a chafodd y glaswellt a gasglwyd ei hau i ail-sefydlu rhywogaeth o darddiad lleol ar lain las Ffordd Fabian.

Bydd plannu coed a llwyni o uchderau amrywiol yn y coetir newydd ar Ffordd Fabian yn sefydlu strwythur llystyfiant a bydd hefyd yn ffurfio ‘byffer’ gweledol.

Bydd hyn, yn ogystal â’r twmpathau pridd, yn gwella’r gallu i gysgodi a lleihau effaith adeiladau’r campws a chydag amser bydd yn adennill y llain las sy’n gysylltiedig â llain gadwraeth Ffordd Fabian.

Bay Campus landscaping 2Safle Twyni Crymlyn sydd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)

Lleolir Campws y Bae gyferbyn â’r Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Twyni Crymlyn (SoDdGA), ardal sy’n darparu enghreifftiau o  newid cynefinoedd rhwng twyni tywod a morfeydd heli, a bydd ffin a blannwyd tuag at ddwyrain Campws y Bae’n amddiffyn y SoDdGA ac yn darparu mynediad cyfyngedig i’r rhai sy’n defnyddio’r campws.

Meddai’r Athro Iwan Davies, Dirprwy Is-ganghellor, sy’n arwain y gwaith o ddatblygu a chwblhau Campws y Bae ar gyfer y Brifysgol: “Mae’r detholiad o rywogaethau a blannwyd ar Gampws y Bae wedi’u hystyried er mwyn ymateb i amgylchedd heriol y lleoliad arfordirol hwn, er mwyn gwrthsefyll gwyntoedd cryf, lefelau uchel o law, cyfnodau o sychder a dŵr hallt.

“Cynhaliwyd ymgynghoriad â’r ecolegydd o Awdurdod Lleol Castell-nedd Port Talbot i sicrhau bod y rhywogaethau priodol o blanhigion o darddiad lleol ac na fyddent yn croesbeillio gyda’r SoDdGA  cyffiniol.

“Rhoddwyd ystyriaeth hefyd i newid tymhorol, pan fydd coed collddail yn colli eu dail yn ystod y gaeaf a lle na fydd cysgodi mor effeithiol. Mae rhywogaethau bytholwyrdd sy’n cadw eu dail trwy gydol y flwyddyn wedi’u cynnwys, megis pinwydd a chelyn, i sicrhau y bydd brigdwf o hyd yn ystod y gaeaf.”

Bydd yr ardal a blannwyd yn ddiweddar ar Ffordd Fabian a’r rhai hynny ar draws datblygiad Campws y Bae yn destun rhaglen barhaus o reoli a chynnal a chadw er mwyn sicrhau y caiff yr holl ardaloedd tirwedd feddal eu sefydlu’n llwyddiannus.

Bydd hyn sicrhau y bydd ardaloedd allanol Campws y Bae’n darparu nodwedd gadarnhaol a pharhaol i’r gymuned a’r ardal leol.

Bay Campus landscaping 3Prifysgol Werdd

Nod Prifysgol Abertawe yw bod yn brifysgol ‘werdd’ a chyhoeddodd ei Pholisi Cynaliadwyedd ym 2012 ac mae ganddi Strategaeth Gynaliadwyedd  fanwl.  

Mae’r Brifysgol wedi gwneud gwelliannau sylweddol mewn blynyddoedd diweddar diolch i waith caled ei Thîm Cynaliadwyedd .

Prifysgol Abertawe oedd y brifysgol gyntaf yng Nghymru i gyflawni’r safon ryngwladol ISO 14001. Hefyd enillodd wobr blatinwm EcoCampws am ei systemau rheoli amgylcheddol, ar ôl archwiliad allanol gan y System Rheoli Amgylcheddol genedlaethol a’r cynllun gwobrwyo ar gyfer sectorau addysg uwch a phellach.

Ym mis Ionawr eleni, dyfarnwyd Gwobr Dosbarth Cyntaf i’r Brifysgol a daeth yn 21ain allan o 151 o brifysgolion yng Nghynghrair Prifysgolion y Bobl a’r Blaned 2015 – yr unig gynghrair gynhwysfawr ac annibynnol o’i math yn y DU i restru prifysgolion yn ôl eu safle o ran perfformiad gwyrdd ym mhapur newydd y Guardian.

Am ragor o wybodaeth am raglen Datblygu Campysau Prifysgol Abertawe, gan gynnwys y lluniau a’r newyddion diweddaraf, ewch i http://www.swansea.ac.uk/campus-development/