Yn 2010, dechreuodd Prifysgol Abertawe raglen o newid a thrawsnewid, gan fuddsoddi i wella profiad myfyrwyr a chyfleusterau ymchwil ac academaidd. Mae datblygiadau sylweddol wedi bod, gan gynnwys adeiladu Campws y Bae ac adnewyddu adeiladau ar Gampws Singleton dros y blynyddoedd diwethaf, gan ddyblu maint y brifysgol dros nos. Mae'r rhaglen barhaus wrthi'n mwyafu potensial yr adeiladau presennol a buddsoddi yn y Brifysgol drwy ehangu ein portffolio campws.

Mae'r datblygiadau ar Gampws Singleton wedi cynnwys codi'r adeilad Sefydliad Gwyddor Bywyd II (Canolfan NanoIechyd) a'r adeilad Gwyddor Data.  Daeth y cyfleuster ymchwil Gwyddor Data â dwy Ganolfan Rhagoriaeth ynghyd, sef Sefydliad Farr ar gyfer Ymchwil Gwybodeg Iechyd a Chanolfan Weinyddu Gwyddor Data Cymru (ADRC Cymru), gan alluogi ymchwilwyr i fwyafu potensial data ar raddfa fawr i ymgymryd ag ymchwil newydd bwerus.

Mae Tŷ Fulton, Adeilad Wallace, Adeilad Grove ac Adeilad Faraday oll wedi bod yn dystion i waith adnewyddu ac uwchraddio sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, gan ddarparu lle ychwanegol angenrheidiol ar gyfer astudio a gweithio. Yn 2018, agorodd y Parth Dysgu a Chreadigrwydd Myfyrwyr ar lawr gwaelod Taliesin.  Mae'r lle hwn yn cynnig lle hyblyg i fyfyrwyr lle gallant astudio, dysgu a chwrdd.  Gwnaeth y gwaith adnewyddu fanteisio i'r eithaf ar le a golau wrth gyflwyno celfi cludadwy a sgriniau rhannu.

Cafodd Campws y Bae ei adeiladu mewn llai na 26 mis ac mae eisoes wedi arwain at effaith sylweddol ar y rhanbarth, ac mae'r Brifysgol wedi cynyddu nifer ei myfyrwyr a'i staff gan 20% a dyfarnwyd 120% mwy o brosiectau ymchwil newydd ers 2012.

Lleolir Campws y Bae ar hen safle BP Transit ar ochr ddwyreiniol y ddinas.  Er y bydd y gwaith datblygu yn parhau ar y safle hyd at Ganmlwyddiant y Brifysgol yn 2020, cwblhawyd y rhan fwyaf o'r gwaith yn ystod y cam adeiladu cyntaf, gan agor ym mis Medi 2015.

Mae'r Coleg Peirianneg a'r Ysgol Reolaeth wedi eu lleoli ar Gampws y Bae ers iddo agor yn 2015.  Eleni, ymunodd y Ffowndri Gyfrifiadol â nhw, sef cydweithrediad rhwng yr Adrannau Cyfrifiadureg a Mathemateg, a'r Coleg, sef yr enw newydd am ein partneriaeth dros ddegawd â Navitas "Coleg Rhyngwladol Cymru Abertawe (ICWS)".

Yn 2019, bydd y Coleg Peirianneg yn agor adeilad arall a fydd yn gartref i'r prosiect IMPACT, sefydliad ymchwil sy'n canolbwyntio ar Beirianneg a Deunyddiau Uwch, gan ychwanegu at alluoedd rhyngwladol blaenllaw yn y Coleg Peirianneg. Bydd y rhaglen ymchwil IMPACT (Technolegau Deunyddiau, Prosesu a Rhifiadol Arloesol) yn amgylchedd deinamig ar gyfer cydweithrediad rhwng diwydiant ac academia.

Partneriaid a Chyllid

Ariennir y prosiect amlbartner cyhoeddus a phreifat hwn drwy gyfuniad o arian y Brifysgol, Llywodraeth CymruCronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, yr Adran Busnes, Arloesi a SgiliauBanc Buddsoddi Ewrop a M&G Investments gyda St. Modwen. Roedd y contractwyr ar y safle'n cynnwys Vinci Construction, Kier, Bouygues UKWillmott Dixon a Galliford Try.

Mesurwyd safon adeiladu ar Gampws y Bae yn unol â BREEAM.  BREEAM yw'r dull asesu cynaliadwyedd blaenllaw yn y byd ar gyfer prosiectau uwchgynllunio, isadeiledd ac adeiladau. Mae'n cydnabod ac yn adlewyrchu gwerth asedau sy'n perfformio'n uwch ar draws cylch bywyd yr amgylchedd adeiledig, o adeiladau newydd i'r rhai hynny sy'n cael eu defnyddio ac sy'n cael eu hadnewyddu. Sgoriodd pob adeilad ar Gampws y Bae yn 'Dda iawn' neu'n 'Rhagorol', a dyfarnwyd 'Rhagorol' i'n Preswylfeydd i Fyfyrwyr.BREEAM

Agorodd Ei Fawrhydi Brenhinol Tywysog Cymru, Arlywydd Sefydliad y Tywysog dros Adeiladu Cymunedau Gampws y Bae ym mis Gorffennaf 2016.

Mae’r Campws yn un o brosiectau blaenllaw Sefydliad y Tywysog ar gyfer Adeiladu Cymunedau.  Yn 2009, cafodd Sefydliad y Tywysog weledigaeth i droi safle tir llwyd wedi’i esgeuluso, a oedd yn eiddo i gwmni olew BP, yn ganolfan wybodaeth ac arloesi a fyddai’n adfywio’r rhanbarth cyfan. Adeiladodd hyn ar eu gwaith ar y cyd i greu Coed Darcy ar safle llygredig yn 1999. Datblygodd Sefydliad y Tywysog y briff strategol ac arweiniodd y gweithdai i randdeiliaid ar gyfer prosiect y campws. Roedd Prifysgol Abertawe a St. Modwen yn bartneriaid yn y prosiect, a Porphyrios Associates oedd y prif gynllunwyr a dyluniwyd yr adeiladau gan Porphyrios Associates a Hopkins Architects.‌

Yn ystod yr ymweliad, cyhoeddodd Sefydliad y Tywysog hefyd ei radd Meistr newydd mewn Peirianneg Gynaliadwy ar gyfer Datblygu Rhyngwladol, a gyflwynir mewn cydweithrediad â'r Brifysgol, gan greu cysylltiadau ar gyfer y dyfodol rhwng y ddau sefydliad.

HRH meeting students
HRH opening ceremony
HRH meeting students in Prince's Foundation t-shirts