Swansea University - Swyddi

Swyddi ym Mhrifysgol Abertawe

Mae gweithio ym Mhrifysgol Abertawe yn brofiad gwerth chweil ac mae'r ystod o gyfleoedd yn eang eu cwmpas.  Yma cewch restr o swyddi gweigion a phecynnau ymgeisio y gallwch eu llwytho i lawr.

Mae'r pecynnau (ar gael ar fformat Word neu PDF) yn cynnwys yr hysbyseb, swydd ddisgrifiad, ffurflen gais berthnasol a ffurflen cyfleoedd cyfartal ar gyfer bob swydd.  Gwnewch yn siwr eich bod yn darllen y wybodaeth a'r ffurflenni cyn i chi fynd ati i'w cwblhau.  Mae'n bwysig i chi gwblhau'r ffurflenni mor drwyadl â phosib.

Dylid anfon y ffurflenni cais wedi eu cwblhau drwy'r post ac nid drwy'r e-bost gan fod yn rhaid eu harwyddo.  Dyma gyfeiriad y Brifysgol: Yr Adran Adnoddau Dynol, Prifysgol Abertawe, Parc Singleton, Abertawe SA2 8PP

O ran swyddi nad ydynt yn academaidd, os na chewch ateb ymhen chwech wythnos o'r dyddiad cau, dylech gymeryd na fu eich cais yn llwyddiannus.

O.N. Dylai myfyrwyr Prifysgol Cymru Abertawe sydd am wneud cais am swydd fod yn ymwybodol y gellir cyfyngu y nifer o oriau y cânt weithio bob wythnos.  Os nad ydych yn siwr o'ch sefyllfa, edrychwch ar ganllaw'r Brifysgol, sef dogfen L1033.

Os y cewch anawsterau wrth chwilio gwybodaeth neu os oes gennych ymholiad ynglyn â swydd wag, peidiwch oedi wrth gysylltu â ni: personnel.mailbox@swansea.ac.uk