Annwyl Ymchwilydd,
Mae Prifysgol Abertawe yn cydnabod eich cyfraniad pwysig a sylweddol i'w llwyddiant ym maes ymchwil, ac yn gwerthfawrogi'n fawr iawn yr ymdrech, y sgil a'r arloesedd a gyfrennir gennych i'r sefydliad. Rydym hefyd yn cydnabod pwysigrwydd creu a chynnal amgylchedd lle y gallwch ffynnu, yn bersonol ac yn broffesiynol, a lle rydych yn mwynhau gweithio.
Felly mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i feithrin eich talentau a gwella amgylchiadau pob un o'i staff ymchwil. Mae'n benderfynol o wneud hyn drwy ymateb er mwyn goresgyn unrhyw ffactorau sy'n cael effaith andwyol ar eich rôl, ac yn benodol drwy gefnogi'r broses o ehangu ac ymestyn eich galluoedd proffesiynol a datblygiad eich gyrfa.
Gan ystyried yr amcanion hyn, anogir staff ymchwil i gymryd rhan weithredol yn y broses o ddatblygu ac ehangu eu sgiliau a'u cymwyseddau drwy fabwysiadu argymhellion Adroddiad Roberts, ac ymgorffori 10 diwrnod y flwyddyn o weithgareddau datblygiad personol fel rhan o'u hethos ac amcanion gwaith. Mae amrywiaeth eang o weithgareddau a
chyfleoedd ar gael i chi yma. Hefyd fe'ch anogir i fanteisio ar y
cymorth a deilwrwyd yn bersonol sydd ar gael gan
Dr Rosie Plummer, a benodwyd yn benodol i hyrwyddo'r agenda hon, ac i roi gwybod iddi am unrhyw beth y gellid ei wella, yn eich barn chi, er mwyn gwella eich boddhad yn eich swydd a'ch llwyddiant.
Yr Athro Nigel Weatherill, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil a Chadeirydd Pwyllgor Ymchwil y Brifysgol
Mr David Williams, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol