Mae gan Abertawe Swyddog Datblygu Gyrfa ar gyfer Staff Ymchwil sy'n rhoi'r cyfle am sesiynau personol a chyfrinachol sy'n addas at eich anghenion chi. P'un a oes angen rhywun arnoch i drafod eich rôl bresennol a'ch rhagolygon ar gyfer y dyfodol, help penodol o ran llunio cais am swydd, neu efallai ffug gyfweliad cyn un go iawn, mae cymorth ar gael.
Mae gan Dr Rosie Plummer gefndir ym maes gwyddoniaeth gymhwysol, ac mae ganddi lawer o brofiad o weithio mewn adrannau gwyddoniaeth o'r radd flaenaf (gwyddoniaeth ffisegol a biowyddoniaeth) ym maes personél, cyllid a materion grantiau ymchwil. Mae ganddi brofiad helaeth ym maes recriwtio a gall roi adborth cadarnhaol a chyngor i'ch helpu i gynllunio eich datblygiad proffesiynol a gyrfaol.
Cysylltwch â hi
drwy e-bost i drefnu apwyntiad.