Swansea University - Cynllunio Datblygiad Proffesiynol

Cynllunio Datblygiad Proffesiynol

Ffordd dda o ddechrau yw drwy fabwysiadau'r math o ddull cam wrth gam syml a nodir isod (a gwell fyth os ydych yn cadw rhyw fath o gofnod o hyn wrth i chi fynd ymlaen):

" ASESU - pa sgiliau a thalentau sydd gennych eisoes, ac ar ba lefel o gymhwysedd?
" DADANSODDI - beth fydd ei angen arnoch (neu beth allai fod ei angen arnoch) yn y dyfodol?
" YSTYRIED - sut rydych chi'n dysgu orau? Ai drwy ddarllen ac adolygu, drwy fynd ar gyrsiau neu dderbyn hyfforddiant, neu efallai drwy gael profiad o wneud neu gyfranogi...?
" MEDDWL - pa opsiynau a chyfleoedd sydd gennych; peidiwch â dim ond meddwl am ddulliau ffurfiol o feithrin sgiliau, dylech feddwl am ddulliau anffurfiol a dulliau sy'n hwyl hefyd.Yn hanfodol, pa dystiolaeth benodol fydd yn eich darbwyllo eich bod wedi gwneud cynnydd tuag at ba nod bynnag rydych wedi ei bennu?
" NODI - dulliau posibl ac addas o gyflawni'r gwelliannau rydych wedi eu pennu fel nod i chi'ch hun.
" CYNLLUN GWEITHREDU - penderfynu sut, ac yn bwysicaf erbyn pryd, y byddwch yn gwneud hynny.
" GWEITHREDU!
" ADOLYGU - sut hwyl cawsoch?
" COFNODI a DATHLU - ychwanegwch y dystiolaeth i'ch CV, gallwch eich llongyfarch chi eich hunan.
" DAL ATI - nid dyna ddiwedd y broses; nodwch pa sgil neu faes cymhwysedd i'w wella nesaf.