Swansea University - Meithrin eich Talentau Proffesiynol

Personél

Meithrin eich Talentau Proffesiynol

Mae datblygiad proffesiynol yn agwedd ac yn broses. Ceir cynifer o ffyrdd o ddatblygu eich sgiliau a'ch talentau ag y mae ffyrdd o ddysgu. Yr hyn sy'n allweddol yw awydd i wella!

Mae dulliau gwahanol yn addas ar gyfer sefyllfaoedd a phobl wahanol, a'r amrywiaeth wahanol iawn o sgiliau y gallai fod angen i chi eu datblygu.
Peidiwch â chymryd yn ganiataol, gan eich bod yn ymchwilydd deallus sydd wedi arfer â dysgu technegau neu ddulliau newydd, y gellir caffael pob sgil yn yr un ffordd.

Darllenwch y cymwyseddau y mae Cynghorau Ymchwil y Deyrnas Unedig a chyflogwyr masnachol/diwydiannol o'r farn y dylai pob ymchwilydd fod yn ceisio'u datblygu, ac ystyriwyd sut rydych yn cymharu â hwy.

Ymhlith y rhain, mae'r technegau 'meddal' rhyngbersonol, gwaith tîm a rheoli pobl hollbwysig ymysg y rheini y gellir eu dysgu'n fwyaf effeithiol drwy gyfuniad o lwybrau gwahanol. Mae'r cymysgedd delfrydol yn cynnwys rhywfaint o ddamcaniaeth gefndirol, hyfforddiant a ddatblygwyd yn arbennig, ac yn anad dim rhoi'r dysgu ar waith.