Mae'r safle hon yn anelu at ddarparu canllaw i chi ar faterion cydraddoldeb ac ymrwymiad y Brifysgol yw hyrwyddo cydraddoldeb ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae gan y Brifysgol nifer o bolisïau a chynlluniau gweithredu cydraddoldeb, pwyllgorau a gweithgorau cydraddoldeb, rhaglenni hyfforddiant, adroddiadau blynyddol a thargedau cydraddoldeb. Mae pob un o'r rhain ar gael mewn manylder drwy ddilyn y cysylltiadau perthnasol.
Lleolir y tîm cydraddoldeb yn yr adran Adnoddau Dynol. Mae'r aelodau o staff canlynol yn y Tîm Cyfle Cyfartal:
Mrs Bethan Lewis
Uwch Swyddog Cyfle Cyfartal
+44 (0)1792 513687
b.s.lewis@abertawe.ac.uk Mr Alan Kerfoot
Hyfforddwr Cydraddoldeb
+44 (0)1792 295351
a.kerfoot@abertawe.ac.uk
Ms Derya Kul
Swyddog Cyfle Cyfartal Adnoddau Dynol / Gwasanaethau Myfyrwyr
+44 (0)1792 602367
d.kul@abertawe.ac.uk
Mae gan y Brifysgol Bwyllgor Cyfle Cyfartal sefydledig sy'n anelu at fonitro ac ystyried ffyrdd o ehangu cyfle cyfartal mewn cysylltiad â staff a myfyrwyr. Mae'r pwyllgor hwn yn adrodd yn ôl yn uniongyrchol i Fwrdd Rheoli'r Brifysgol. Mae'r Pwyllgor Cyfle Cyfartal (PCC) yn cwrdd tair gwaith y flwyddyn (unwaith bob term academaidd) ac mae'n cynhyrchu cofnodion ar ôl pob un o'r cyfarfodydd hyn.
Pob blwyddyn, mae'r PCC yn cynhyrchu crynodeb o'r gwaith a'r cynnydd a wnaed o ran hil, cenedl, anabledd ac oedran. Mae'r wybodaeth hon hefyd yn cynnwys ystadegau manwl am staff a myfyrwyr. Drwy ddefnyddio'r wybodaeth hon, mae targedau cydraddoldeb gweithredu cadarnhaol yn cael eu pennu a'u monitro'n flynyddol.