Gorchwyl yr adran yw "Darparu cyngor a chanllawiau proffesiynol o'r safon uchaf ar faterion yn ymwneud ag Adnoddau Dynol wrth gefnogi amcanion y Brifysgol"
Ydych chi am ddechrau swydd newydd? Ydych chi'n edrych am waith? Oes angen cyngor arnoch ar sut i wneud y mwyaf o gynlluniau a rhaglenni'r brifysgol? Mae'r Adran Bersonél ar gael os ydych am eglurhad ar unrhyw fater ac mae hyn yn bwysig ym mywyd gwaith heddiw.
Ymysg y gwasanaethau a gynigwn y mae gwybodaeth ar swyddi gwag, tâl a phensiynau, cymorth i weinyddwyr o ran prisio a sicrhau y bod gan bawb gyfle cyfartal. Rydym yn fwy na hapus i ateb unrhyw gwestiynau a gellir cysylltu â ni drwy'r cyfeiriad isod.
Caiff swyddi newydd eu hysbysebu'n rheolaidd a gellir dod o hyd iddynt yma.
Rydym wedi ein lleoli ym mhrif adeilad yr Abaty ar Gampws Singleton.
Gobeithio y byddwch yn ystyried y wefan yn ddiddorol ac yn llawn gwybodaeth. Os oes gennych unrhyw sylwadau neu adborth yn ymwneud â naill ai'r wefan neu wasanaethau'r adran, cysylltwch â'r adran yn uniongyrchol os gwelwch yn dda.