Croeso

Mae'r Gwasanaeth Archwilio Mewnol yn uned annibynnol sy'n darparu gwasanaeth archwilio mewnol i reolwyr a Chynghor Prifysgol Abertawe.

Gwneir hyn trwy adolygu gweithrediad effeithiol systemau ariannol a systemau rheoli gweithredol.

Datganiad Cenhadaeth

Darparu gwasanaeth archwilio o safon ar sail lefel uchel o broffesiynoldeb ac arbenigedd o ran darparu gwasanaethau, ac derbyn cydnabyddiaeth am hyn o fewn y sector addysg uwch.

Cod Moeseg

Bydd pob aelod o'r tîm archwilio yn dangos:

    1. Gonestrwydd
Mae gonestrwydd archwilwyr mewnol yn adeiladu ffydd, ac felly'n sail i allu dibynnu ar eu barn. Bydd archwilwyr mewnol yn:
• 1.1. Cyflawni eu gwaith gyda gonestrwydd, diwydrwydd, a chyfrifoldeb.
• 1.2. Cydymffurfio â'r gyfraith, a datgelu'r hyn a ddisgwylir gan y gyfraith a'r proffesiwn.
• 1.3. Ymatal rhag bod, yn ymwybodol, yn rhan o unrhyw weithgarwch anghyfreithlon, a rhag gwneud unrhyw beth a allai ddwyn anfri ar y proffesiwn archwilio mewnol neu ar y sefydliad.
• 1.4. Parchu, a helpu i gyflawni, amcanion cyfreithlon a moesegol y sefydliad.
    2. Gwrthrychedd
Mae archwilwyr mewnol yn dangos gwrthrychedd proffesiynol ar y lefel uchaf wrth iddynt gasglu, gwerthuso, a chyfathrebu gwybodaeth am y gweithgarwch neu'r broses dan sylw. Mae archwilwyr mewnol yn gwneud asesiad cytbwys o'r holl amgylchiadau perthnasol, ac nid ydynt yn cael eu dylanwadu'n ormodol gan eu buddiannau eu hunain na chan bobl eraill wrth ddod i gasgliadau. Bydd archwilwyr mewnol yn:
• 2.1. Ymatal rhag cymryd rhan mewn unrhyw weithgarwch neu berthynas a allai amharu ar, neu y gellir tybio y gallai amharu ar, eu hasesiad diduedd. Mae hyn yn cynnwys gweithgarwch neu berthynas a allai wrthdaro â buddiannau'r sefydliad.
• 2.2. Ymatal rhag derbyn unrhyw beth a allai amharu ar, neu y gellir tybio y gallai amharu ar, eu barn broffesiynol.
• 2.3. Datgelu'r holl ffeithiau perthnasol sy'n hysbys iddynt a allai, o beidio â'u datgelu, wyrdroi'r adroddiad am y gweithgarwch dan sylw.
    3. Cyfrinachedd
Mae archwilwyr mewnol yn parchu gwerth a pherchnogaeth gwybodaeth a roddir iddynt, ac nid ydynt yn datgelu gwybodaeth heb awdurdod priodol oni bai bod gofyniad cyfreithiol neu broffesiynol i wneud hynny. Bydd archwilwyr mewnol yn:
• 3.1. Gochelgar wrth ddefnyddio a diogelu gwybodaeth a gesglir wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau.
• 3.2. Ymatal rhag defnyddio gwybodaeth er lles personol neu mewn unrhyw fodd a fyddai'n groes i'r gyfraith neu'n niweidiol i amcanion dilys a moesegol y sefydliad.
    4. Cymhwysedd
Mae archwilwyr mewnol yn defnyddio eu gwybodaeth, eu sgiliau, a'u profiad fel bo angen wrth ddarparu gwasanaethau archwilio mewnol. Bydd archwilwyr mewnol yn:
• 4.1. Cyfyngu eu gwaith i'r gwasanaethau hynny y mae ganddynt yr wybodaeth, y sgiliau, a'r arbenigedd perthnasol i'w cyflawni.
• 4.2. Cyflawni gwasanaethau archwilio mewnol yn unol â'r Safonau Rhyngwladol ar gyfer Ymarfer Archwilio Mewnol Proffesiynol.
• 4.3. Gwella eu hyfedredd, ac effeithiolrwydd ac ansawdd eu gwasanaethau, yn barhaus.

Lleoliad
Mae ein swyddfeydd yn yr Adeilad Cyllid ar ffin ogledd-ddwyreiniol y campws; Adeilad 1 ar y map o gampws y Brifysgol.

Manylion Cyswllt

Gwasanaeth Archwilio Mewnol
Prifysgol Abertawe
Parc Singleton
Abertawe
SA2 8PP

Ffôn: +44 (0)1792 295431

Ffacs: +44 (0)1792 295771