
Cliciwch yma i lawrlwytho
Cofiwch ar ôl i chi raddio, does dim rhaid dweud hwyl fawr i Abertawe!
Ein lleoliad prydferth
Cyn-fyfyrwyr Abertawe - rhwydwaith rhyngwladol o dros 55,000
Gan eich bod wedi graddio o Brifysgol Abertawe, rydych yn aelod awtomatig o Gymdeithas y Cyn-fyfyrwyr, sef rhwydwaith sy’n prysur dyfu o fyfyrwyr y gorffennol a all eich cefnogi yn broffesiynol ac yn gymdeithasol ym mhob cwr o’r byd.
Rydych hefyd yn llysgenhadon dros eich prifysgol, gan ymuno â chyn-fyfyrwyr sy’n gweithio ar bob lefel mewn diwydiant, masnach, chwaraeon, a’r sector cyhoeddus. Rydym yn gobeithio y byddwch yn cadw mewn cysylltiad â’ch gilydd, ac â ninnau.
Cadwch yn gyfoes gyda newyddion o Brifysgol Abertawe a'r Gymdeithas Cyn-fyfyrwyr. Ffeindiwch allan beth mae cyn-fyfyrwyr arall yn gwneud a beth sydd yn digwydd yn Abertawe
Cadwch yn gyfoes gyda digwyddiadau ac aduniadau sydd yn cael ei threfnu. A yw hi'n amser i gwrdd gyda ffrindiau hen?
Fel un sy wedi graddio o Brifysgol Abertawe, gallwch gael mynediad i gyngor diduedd staff sy â chymwysterau proffesiynol y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogwyedd, a hynny o fewn awyrgylch cefnogol.
Mae cyllid ôl-raddedig ar gael drwy ein cynlluniau bwrsari graddedigion y Deyrnas Unedig/yr Undeb Ewropeaidd a bwrsari graddedigion rhyngwladol
Mae'r sgiliau a'r rhinweddau y byddwch yn eu datblygu wrth astudio am radd uwch yn gwella'ch CV a'ch helpu i sefyll allan yn y farchnad swyddi graddedig hynod gystadleuol.
Liam Dutton - Cyflwynydd rhagolygon tywydd ar gyfer Channel 4 News
Nicky Wire - Aelod o Manic Street Preachers
Jason Mohammad - Cyflwynydd ar y Radio a’r teledu
Liz Johnson - Enillodd Fedal Aur mewn nofio yn y Gemau Paralympaidd yn Beijing
Alun-Wyn Jones - Chwaraewr Rygbi Rhyngwladol dros Gymru a’r Gweilch
Jonny Owen - Actor
Penny Roberts - Cyn-Gyflwynydd a Phrif Adroddwr y BBC
Robert Howley - Chwaraewr Rygbi Rhyngwladol dros Gymru a dirprwy hyfforddwr tîm Cymru ar hyn o bryd
Dave Cornthwaite - Anturiwr sy’n torri recordiau byd, awdur a siaradwr ysgogiadol
Huw Benett - Chwaraewr Rygbi Rhyngwladol dros Gymru & Richie Pugh - Chwaraewr Saith Bob Ochr Rhyngwladol dros Gymru
Dr Hywel Francis - Aelod Seneddol a sylfaenydd Llyfrgell Glowyr De Cymru.
Chris Corcoran - Comedïwr, cyflwynydd teledu a radio