Bioamrywiaeth

Gwella bioamrywiaeth ar y campws...

Mae gan Brifysgol Abertawe gyfoeth o gynefinoedd, o draeth a thwyni tywod y Bae i goetir a gerddi Singleton. Mae'r cynefinoedd hyn yn gartref i amrywiaeth gyfoethog o fywyd gwyllt ac yn adnodd gwych i'r Brifysgol ddysgu sgiliau hanfodol i'r genhedlaeth nesaf o ecolegwyr a chynnig cyfleoedd iddynt wneud gwaith ymchwil neu gynnig amgylchedd iach ac ymlaciol i staff, myfyrwyr a thrigolion lleol gael eu cefn atynt.

Mae anifeiliaid eiconig megis dyfrgwn, ffwlbartiaid a glas y dorlan yn ymweld â Champws Singleton yn rheolaidd ac mae hebog tramor preswyl a chlwydfan ystlumod yn adeiladau'r Abaty. Mae'r Brifysgol hefyd yn gyfrifol am y gwylltir olaf sydd wedi goroesi ar hyd arfordir Bae Abertawe – sef y 600 erw o dwyni tywod, morfa heli a thraeth Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Twyni Crymlyn ger Campws newydd y Bae ac mae'r ddau gampws ar agor i bawb eu mwynhau.

Wrth wraidd y gwaith o ddiogelu a hybu bywyd gwyllt yn y Brifysgol mae'r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth (CGB). O dan y fersiwn gyntaf o'r CGB, a luniwyd yn 2012, mae'r Brifysgol wedi gwneud cryn dipyn o waith i wella a hybu bioamrywiaeth ar bob un o'i safleoedd. Mae hyn yn cynnwys ymgorffori technegau garddio bywyd gwyllt yn y ffordd rydym yn gofalu am ein tiroedd – gan adael ardaloedd garw heb eu trin, torri gwair yn llai aml mewn ardaloedd o laswelltir blodeuog er mwyn gadael i blanhigion osod hadau, creu pentyrrau o foncyffion ar gyfer infertebratau a ffyngau a defnyddio compost cartref fel taenfa er mwyn lleihau'r defnydd o blaleiddiaid. Mae blychau nythu a gwestai bygiau wedi'u gosod o amgylch y campws ac mae Llwybr Natur wedi'i sefydlu (a lansiwyd gan y naturiaethwr a'r cyflwynydd teledu Iolo Williams).

Yn ystod haf 2016 cafodd yr CGB ei ailysgrifennu'n llwyr er mwyn ei ddiweddaru ac adlewyrchu'r ffaith bod gennym bellach ddau gampws i ofalu amdanynt – mae pwyntiau allweddol yn cynnwys nodi ardaloedd addas i greu cynefinoedd bywyd gwyllt newydd, gan roi cyfle i bawb ddysgu am y bywyd gwyllt rydym yn rhannu ein Prifysgol gydag ef a chymryd rhan mewn gweithgareddau cadwraeth, a sicrhau bod y gwaith o ddatblygu'r Brifysgol yn ystyried natur fel y byddwn yn gweld cynnydd yn ein bywyd gwyllt o flwyddyn i flwyddyn.

Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth 2016-2020 (BAP Cym)

Cychod gwenyn

Please accept our appologies, the Welsh translation to be uploaded shortly.

Dôl blodau gwyllt brodorol y DU

Dôl blodau gwyllt brodorol y DU

Mae dôl blodau gwyllt brodorol yn cael ei blannu ar y campws fel ffynhonnell bosib o neithdar ar gyfer y gwenyn ac er mwyn gwella a hybu amrywiaeth y pryfed ar y campws. Dewiswyd y cymysgedd o hadau sy'n cael ei blannu'n benodol ar gyfer gwenyn ac ieir bach yr haf ac mae'n cynnwys rhywogaethau sy'n cael eu cydnabod gan y Gymdeithas Garddwriaeth Frenhinol fel rhai perffaith i bryfed peillio megis pabïau (Papaver rhoes), tafod yr ych (Borago Officinalis), blodau'r ŷd (Cenaurea cyanus) a barf yr afr (Aruncus dioicus). Mae'r cymysgedd yn cynnwys 26 o rywogaethau blodeuol, o uchder amrywiol, sy'n blodeuo rhwng mis Mai a mis Hydref. Mae safle wedi cael ei neilltuo y tu ôl i Adeilad Penmaen ar gyfer y dôl blodau gwyllt i staff a myfyrwyr ei fwynhau yn y dyfodol.

Y Gymdeithas Gwenyn

Y Gymdeithas Gwenyn

O ganlyniad i'r gwenyn newydd ar y campws a'r diwrnod gwenyn, gobeithiwn sefydlu cymdeithas gwenyn Prifysgol Abertawe newydd. Mae'r ymateb cadarnhaol a'r diddordeb o ganlyniad i gyflwyno gwenyn ar y campws yn fwy nag yr oeddem yn disgwyl. Ein gobaith yw hybu'r brwdfrydedd a'r diddordeb drwy sefydlu gweithgor lle gall ceidwaid gwenyn a'r rhai sy'n ymddiddori mewn gwenyn ddod ynghyd, cyfnewid syniadau ac awgrymiadau, cynyddu ymwybyddiaeth a chynnal y gwenyn ar y campws yn y dyfodol.

I gael mwy o wybodaeth am ymaelodi â chymdeithas y gwenyn e-bostiwch: sustainability@abertawe.ac.uk

Cychod gwenyn

Cychod gwenyn

Gosodwyd dau gwch gwenyn ar y campws i ddechrau ym mis Ionawr 2014. Ers hynny mae'r nifer wedi cynyddu i bedwar yn gyntaf ac wedyn chwech ac mae'n dal i dyfu. Gellir gweld y cychod y tu ôl i Adeilad Wallace sy'n darparu man tawel a neilltuedig lle gall y gwenyn gael llonydd i wneud eu mêl. Mae'r gwenyn a'r cychod yn perthyn i unigolion ar y campws ac oddi arno ac mae rhwydi diogelwch yn rhwystro staff a myfyrwyr rhag mynd yn rhy agos, ond gellir eu gweld o hyd. Os ydych yn mynd i weld y gwenyn neu i'r gerddi botanegol, gwnewch yn siŵr eich bod yn gyfarwydd â'r rhagofalon iechyd a diogelwch ar y dudalen hon cyn eich ymweliad.

Diwrnod y Gwenyn: Gweithdy gwenyn

Diwrnod y Gwenyn: Gweithdy gwenyn

Ddydd Mercher 20 Awst, cynhaliwyd diwrnod gwych i godi ymwybyddiaeth o wenyn ymhlith staff a myfyrwyr ar y campws gan dîm Effaith Werdd BeeCAMS. Roedd y diwrnod yn cynnwys sgyrsiau a chyflwyniadau anffurfiol llawn gwybodaeth gan geidwaid gwenyn profiadol a chymdeithasau, ynghyd â sesiwn ymarferol a oedd yn cynnwys cychod arddangos ac arsylwi ac ymweliad â chychod y brifysgol. Amcan y digwyddiad oedd cynyddu ymwybyddiaeth ac addysgu staff am y prosiect i gyflwyno gwenyn i'r campws, gwenyn yn gyffredinol a'r gostyngiad yn eu niferoedd, effaith werdd a materion bioamrywiaeth. 

Darganfyddwch fwy...

Gwybodaeth Iechyd a Diogelwch

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gyfarwydd â sut i ymddwyn ger y cychod a'r wybodaeth iechyd a diogelwch isod.

Ger y cychod

Peidiwch â mynd yn agos at y cychod. Mae'r rhwydi wedi eu codi o gwmpas y cychod er mwyn diogelwch myfyrwyr a staff. Ni fydd gwenyn yn pigo fel rheol os nad ydynt yn cael eu pryfocio, felly peidiwch â gwneud unrhyw symudiadau sydyn neu sŵn uchel. Os bydd gwenyn yn eich poeni, cerddwch i ffwrdd gan sefyll o dan goed os yw hynny'n bosib. Dylai pobl sy'n alergaidd i wenyn osgoi'r ardal yn llwyr.

Gweithdrefnau brys

Gall pigiad gwenynen achosi alergedd a sioc anaffylactig.  Os yw hyn yn digwydd, ceisiwch gymorth meddygol ar unwaith. Ewch i'r ffôn agosaf (cyntedd Adeilad Wallace) a deialwch 333. Neu, ewch i swyddfa ddiogelwch Tŷ Fulton. Mae rhestr o staff Adeilad Wallace sy'n gymwys i ddarparu cymorth cyntaf a'u manylion cyswllt drwy'r ddolen isod.

Gofalu am gychod gwenyn a'u cynnal a'u cadw.

Ar hyn o bryd nid yw Prifysgol Abertawe'n berchen ar unrhyw gychod gwenyn, er ein bod yn gobeithio cael gafael ar rai yn y dyfodol. Drwy gytundeb â pherchnogion y cychod gwenyn, cyfrifoldeb ceidwad y gwenyn yw cynnal a chadw'r gwenyn, y cychod a chasglu eu mêl eu hunain. Ni ddylai neb heblaw am geidwaid gwenyn profiadol fynd i mewn i ardal gaeedig y gwenyn a dylent wisgo siwt gwenyn hyd llawn.

Ffeithiau am wenyn

Yn y cwch

  • Ceir 3 math o wenyn mewn cwch: y frenhines, miloedd o weithwyr benywaidd a dronau gwrywaidd yn yr haf.
  • Yn ystod yr haf, gall gwenynen weithgar ddisgwyl byw hyd at 40 o ddiwrnodau a gall brenhines ddisgwyl byw oddeutu 5 mlynedd.
  • Mae gwaith yn y cwch yn seiliedig ar oedran: Dyletswyddau Gwenyn Gweithgar

1-2 ddiwrnod - Glanhau'r celloedd a chadw'r deor yn gynnes

3-5 niwrnod - Bwydo'r larfae hŷn

6-11 diwrnod - Bwydo'r larfae ieuengaf

12-17 diwrnod - Cynhyrchu cwyr, adeiladu crwybr, cludo bwyd, ymdrin â gwenyn meirw

18-21 diwrnod - Gwarchod mynedfa'r cwch

22+ diwrnod - Dechrau hedfan o'r cwch, peillio planhigion, casglu paill, neithdar a dŵr.

  • Gall cwch cyfartalog ddisgwyl cynhyrchu tua 25 pwys (11kg) o fêl bob tymor.

Ymddygiad gwenyn

  • Gall gwenyn gasglu paill tua 5 milltir o'u cwch ond, fel arfer maent yn ei gasglu o fewn milltir i'w cwch.
  • Ni fydd gwenyn yn pigo oni bai i warchod y gytref neu pan fyddant dan fygythiad.
  • Y frenhines a'r benywod gweithgar yn unig sy'n gallu pigo.
  • Nid yw gwenyn yn cysgu ond maent yn aros yn llonydd er mwyn cadw eu nerth am y diwrnod gwaith nesaf.
  • Wrth adael eu cwch, bydd gwenyn yn hedfan yn gyflym am i fyny gan hedfan dros unrhyw rwystrau.
  • Mae gwenyn yn hedfan tua 55,000 o filltiroedd am bob pwys o fêl sy'n cael ei gynhyrchu.

Heidio

  • Heidio yw'r ffordd naturiol y mae gwenyn yn atgenhedlu.
  • Mae hyn yn digwydd pan fydd brenhines newydd - mae'r frenhines a'r gwenyn hedegog yn gadael eu cwch i chwilio am drigfan newydd.
  • Gall haid o wenyn aros mewn mannau anghyffredin. Os ydych yn gweld haid lonydd, peidiwch â mynd yn agos ond cysylltwch â chymdeithas cadw gwenyn leol.

Gostyngiad yn niferoedd gwenyn

Yn y blynyddoedd diweddar, awgrymwyd bod niferoedd gwenyn yn gyffredinol yn gostwng o'u cymharu â'r gorffennol. O ganlyniad, mae gwenyn wedi dod yn achos pryder poblogaidd ac yn bwnc llosg oherwydd sylw yn y cyfryngau. Felly, mae gwir angen cynyddu a chynnal niferoedd gwenyn er mwyn osgoi canlyniadau trychinebus. Os bydd niferoedd yn parhau i ostwng, gallwn wynebu prinder bwyd, oherwydd bod gwenyn yn cyflawni diben hanfodol, sef cludo paill o un planhigyn i'r llall i ganiatáu i ffrwythau a hadau ddatblygu. Mae ymchwil yn awgrymu bod gwenyn yn darparu chwarter yn unig o'r peillio sy'n angenrheidiol yn y DU. http://www.theguardian.com/environment/2014/jan/08/uk-food-security-honeybees 

Mae sawl ffactor wedi cael ei nodi i esbonio'r gostyngiad ond rhestrir rhai ohonynt isod:

  • Gwiddon Varroa
  • Afiechydon
  • Esgeulustod
  • Plaladdwyr megis pryfleiddiaid. O ganlyniad i'w natur niweidiol, ym mis Ebrill 2014, cyfyngodd y Comisiwn Ewropeaidd ar y defnydd o blaladdwyr sy'n cynnwys imidacloprid a thiamethoxam.

Dyma rai awgrymiadau i ddiogelu niferoedd yn y dyfodol:

  • Dechrau cadw gwenyn
  • Darparu nythod ar gyfer gwenyn unig
  • Darparu nythod ar gyfer cacwn, h.y. blychau nythu i gacwn
  • Plannu rhagor o flodau sy'n llesol i wenyn
  • Defnyddio llai o blaladdwyr

I annog rhagor o wenyn i ddod i'ch gardd:

  • Mae tudalen ardderchog ar wefan y Gymdeithas Garddwriaeth Frenhinol sy'n awgrymu planhigion ar gyfer pryfed peillio: https://www.rhs.org.uk/science/conservation-biodiversity/wildlife/encourage-wildlife-to-your-garden/plants-for-pollinators
  • Cadwch lygad am y logo ar blanhigion a hadau sy'n llesol i wenyn

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ar y gostyngiad ar: (ymddiheuriadau mai ond tudalennau cyfrwng Saesneg yw'r rhain)

http://bumblebeeconservation.org/about-bees/why-bees-need-help/

http://www.foe.co.uk/sites/default/files/downloads/bees_report_briefing.pdf

Cymerwch ran

Oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â chymdeithas cadw gwenyn Prifysgol Abertawe?

Bydd mwy o wybodaeth yn dilyn felly cadwch lygaid allan.