Gweithiodd Barbara fel Athro Cynorthwyol am y tro cyntaf ym Mhrifysgol Strasbourg, ac er 1990 mae wedi bod yn rhedeg ei labordy ei hun yn yr Amgueddfa Hanes Naturiol ym Mharis, a hi oedd yr ail fenyw yn unig mewn 300 o flynyddoedd i'w phenodi i gadair athro yno (ym 1995) a'r pennaeth adran benywaidd cyntaf (yn 2000). Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar dair agwedd ar esblygiad yr hormon thyroid.

Losing our MindsEnillodd yr Athro Barbara Demeneix (neé Jenkins) radd gydanrhydedd mewn Botaneg a Sŵoleg ym 1970.

Pan adawodd Abertawe, gweithiodd Barbara yn nwyrain Affrica (Malawi), yna teithiodd ac astudiodd ledled y byd, gan gynnwys Canada (PhD), gogledd Affrica, Ffrainc (DSc) a'r Almaen, cyn ymgartrefu yn Ffrainc.

Gweithiodd Barbara fel Athro Cynorthwyol am y tro cyntaf ym Mhrifysgol Strasbourg, ac er 1990 mae wedi bod yn rhedeg ei labordy ei hun yn yr Amgueddfa Hanes Naturiol ym Mharis, a hi oedd yr ail fenyw yn unig mewn 300 o flynyddoedd i'w phenodi i gadair athro yno (ym 1995) a'r pennaeth adran benywaidd cyntaf (yn 2000). Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar dair agwedd ar esblygiad yr hormon thyroid.

Aeth Rheolwr Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr, Sally Thurlow, i gwrdd â Barbara yn ddiweddar i glywed am ei gyrfa ers gadael Abertawe ac am ei chyhoeddiad diweddar.

 

 

ST: Pam y dewisaist astudio ym Mhrifysgol Abertawe?

BD: Roedd yn ddewis rhwng Manceinion ac Abertawe: ces i gynnig diamod gan Fanceinion (oedd yn dipyn o beth bryd hynny) ac roedd tipyn o ofynion gan Abertawe. Ond, pan es i i Fanceinion, bu'n bwrw glaw'n ddi-baid, a phan ymwelais ag Abertawe, roedd yr haul yn tywynnu, gan wneud i'r campws a'r môr edrych yn eithaf gwych. Dod o deulu Cymreig gadarnhaodd fy mhenderfyniad. Gwnaeth y ffaith iddi fwrw glaw'n ddi-baid am fy mis cyntaf yn Abertawe ddim i newid fy argraff wreiddiol o le gwych i astudio!

ST: Sut mae Prifysgol Abertawe a'r cwrs a astudiais wedi dy helpu yn dy yrfa?

BD: Athrawon cadeiriol gwych a oedd yn gwneud i chi feddwl o'r tiwtorialau cyntaf heb adael i chi gymryd unrhyw beth yn ganiataol fyth. Gwneud i ni geisio meddwl am y cwestiwn cywir, a'i ateb.

Cedwais y papurau arholiad o'r arholiadau terfynol, yna edrychais arnynt eto ychydig flynyddoedd yn ôl a chael bod rhai syniadau rwyf yn gweithio arnynt o hyd heddiw.

ST: Dyweda ychydig yn fwy wrthym am dy rôl ym Mhrifysgol Strasbourg a'r Amgueddfa Hanes Naturiol ym Mharis?

BD: Penodwyd fi'n Athro Cynorthwyol ym Mhrifysgol Strasbourg ym 1980, gan addysgu ffisioleg ac endocrinoleg ac ymuno â thîm ymchwil electroffisioleg. Caniataodd cymrodoriaeth sylfaen Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) i mi fynd i'r Labordy Niwrofioleg Foleciwlaidd yng Nghaergrawnt ym 1986, a dysgais lawer am fioleg foleciwlaidd. Arweiniodd y profiad hwn fi at drosglwyddo genynnau a ffyrdd o edrych ar drosi genynnau mewn anifeiliaid byw. Yn yr Amgueddfa Hanes Naturiol ym Mharis sylfaenais labordy ym 1990 (gan wireddu breuddwyd!) ac es i ati i geisio deall esblygiad arwyddion hormonau thyroid. Arweiniodd ymchwil i sut mae'r hormon thyroid yn llywodraethu datblygiad ymennydd mamalaidd a metamorffosis amffibiaidd fi at amhariad endocrinaidd.

Mae'r Amgueddfa Hanes Naturiol wedi bod yn sefydliad ymchwil ac addysgu am fwy na 300 o flynyddoedd - darganfu Bequerel ymbelydredd yno a, drwy weithio gyda Curies yr ochr arall i'r heol, datblygodd Mamarck y ddamcaniaeth esblygiad gyntaf. Mae gen i gadair athro yn y Labordy Ffisioleg Gymharol (a sylfaenwyd gan Claude Bernard, tad meddygaeth arbrofol, yn y 1860au) yn y labordy rwyf bellach yn ei reoli.

ST: Pa gyngor fyddet yn ei roi i fyfyrwyr presennol sydd â diddordeb mewn gyrfa mewn ymchwil?

BD: Dyna gwestiwn anodd!  Fi oedd un o enillwyr cyntaf Gwobrau Mentora Ffrainc yn 2011, felly rwy'n rhoi llawer o gyngor ac yn cael fy ngwahodd i roi llawer o sgyrsiau ar y pwnc (rwy'n rhoi cyflwyniad yn Sefydliad Karolinska ym mis Tachwedd). Y prif beth i'w nodi yw meddwl ymhell ymlaen llaw ble'r hoffech fod ac i fod yn barod i gymryd yr annisgwyl, ond ystyriwch eich opsiynau'n ofalus. A chanolbwyntiwch!

Sefydlais gwmni Watchfrog (www.watchfrog.fr) i farchnata technolegau sgrinio ar gyfer amhariad endocrinaidd. Mae'r cwmni'n cyflogi oddeutu pymtheg o bobl ar hyn o  bryd, ac mae gan chwech neu saith ohonynt PhD. Dyma'r prif reswm yr enillais CNRS medal de l'innovation eleni.

Gwnaethpwyd Barbara yn Chevalier de la Légion d'honneur yn 2004 ac yn Officier de la Légion d'honneur eleni am ei gwasanaethau i wyddoniaeth Ffrainc.

Mae bellach yn arbenigwr sy'n adnabyddus yn rhyngwladol ar weithrediad thyroid ac amhariad endocrinaidd, ac mae wedi ysgrifennu mwy na 140 o gyhoeddiadau gwyddonol, patentau a phenodau mewn llyfrau. Cyhoeddodd Barbara ei llyfr cyntaf ei hun yn ddiweddar, Losing our Minds, a gododd o'i gwaith ar amhariad endocrinaidd.

Yn y llyfr hwn, mae Barbara yn cyflwyno'r achos dros arwyddion hormonau thyroid yn pontio'r amgylchedd a'r rhaglenni genynnau y mae eu hangen ar gyfer datblygiad yr ymennydd, a bod cemegau amgylcheddol sy'n tarfu ar weithrediad arferol thyroid yn risg sylweddol i ddeallusrwydd etifeddol ac iechyd meddwl cenhedloedd y dyfodol.

Mae'r bennod gyntaf yn rhoi trosolwg hanesyddol o achosion a ddogfennwyd o lygredd amgylcheddol yn achosi colled IQ ar draws poblogaethau. Mae'r penodau dilynol yn esbonio ffisioleg gweithrediad thyroid, pwysigrwydd ïodin a seleniwm i arwyddion hormonau thyroid a datblygiad yr ymennydd, a pham fod hormonau thyroid yn darged mor sensitif i lygredd amgylcheddol. Mae'r penodau olaf yn trafod rôl rhyngweithiadau rhwng genynnau a'r amgylchedd mewn anhwylderau niwroddatblygiadol ac yn mynd i'r afael â'r hyn y gallai ac y dylai unigolion, cymdeithasau a phenderfynwyr ei wneud i atal llif yr epidemigion hyn.

Professor Barbara Demeneix Cyhoeddwyd Losing our Minds gan Barbara Demeneix gan Wasg Prifysgol Rhydychen.