Sail 2016 Croeso

Ym mis Medi, cynhaliwyd un o ddigwyddiadau mwyaf anrhydeddus y DU gan Brifysgol Abertawe. Gŵyl Wyddoniaeth Prydain yw'r digwyddiad cenedlaethol sydd wedi para hiraf yn Ewrop ac mae’n cysylltu pobl â gwyddonwyr, peirianwyr, technolegwyr a gwyddonwyr cymdeithasol. Fe’i cynhaliwyd i ddechrau (fel cyfarfod cyntaf a blynyddol bryd hynny o Gymdeithas Prydain ar gyfer Hyrwyddo Gwyddoniaeth) yn 1831 ac mae’r Ŵyl wedi bod yn llwyfan ar gyfer llawer o ddigwyddiadau eiconig mewn hanes – fel y drafodaeth enwog ar theori esblygiad dadleuol Darwin rhwng Thomas Huxley ac Esgob Rhydychen yn 1860. Yma hefyd y defnyddiwyd y gair ‘gwyddonydd’ am y tro cyntaf yn 1834. Mae’r cyfarfod blynyddol wedi cael ei gynnal yn Abertawe bedair gwaith o’r blaen: 1848; 1880; 1971 ac 1990, fodd bynnag, 2016 yw’r tro cyntaf i Gymru gynnal yr ŵyl ar ei ffurf bresennol.

Yn ystod yr Ŵyl a’r Penwythnos i’r Teulu, daeth miloedd o bobl at ei gilydd i ddathlu’r datblygiadau diweddaraf mewn gwyddoniaeth ac i gymryd rhan mewn trafodaeth agored ar faterion sy’n effeithio ar ein diwylliant a’n cymdeithas.

Roedd yr ŵyl yn cynnwys nifer o ddigwyddiadau, fel parti traeth gydag arddangosfa tân gwyllt, ‘Llwybr Diwylliant’ yn Uplands a phrif siaradwyr disglair oedd yn cynnwys cyn-fyfyriwr o Brifysgol Abertawe, Lyn Evans o CERN, a’r Cymrawd Anrhydeddus, George, Abbey o NASA.

Rydw i’n falch bod yr ŵyl hefyd wedi cynnwys dathliad o ferched mewn gwyddoniaeth ac fe wnes i gadeirio trafodaeth banel gyda gwyddonwyr benywaidd blaenllaw, Dr Alison Rust, Jacqueline Rosette a Dr Selina Orr.

Fi yw arweinydd y Brifysgol ar gyfer ATHENA SWAN, felly mae’r pwnc yma’n agos iawn at fy nghalon i. Fis Mawrth eleni, ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched, cafodd adroddiad a luniais ar y cyd ei gyhoeddi, “Merched Talentog ar gyfer Cymru Lwyddiannus”. Mae denu mwy o ferched at wyddoniaeth yn allweddol i ddyfodol economaidd Cymru ac mae’r adroddiad yn argymell canfod ffyrdd i annog mwy o ferched a genethod yng Nghymru i astudio pynciau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg) a chael gyrfaoedd yn y sector gwyddoniaeth. Mae’r adroddiad yn datgan angen am newid ar raddfa fawr yn yr agweddau ar draws cymdeithas, i oresgyn rhwystrau presennol a chreu’r gweithlu medrus sydd ei angen i gefnogi twf economaidd Cymru yn y dyfodol.

Roedd yr Ŵyl yn gyfle perffaith i fynegi bwrlwm a bywiogrwydd cymuned ymchwil y Brifysgol, a thynnu sylw at y gwaith ymchwil rhyfeddol sy’n cael ei gynnal ledled y campws.

Gobeithio eich bod wedi gallu ymweld ag Abertawe ar gyfer Gŵyl Wyddoniaeth Prydain. Os na fuoch yno, bydd y rhifyn yma o Sail yn rhoi blas ar yr achlysur i chi.

Yr Athro Hilary Lappin-Scott
Uwch Is Ganghellor (Ymchwil a Chydnabyddiaeth Allanol)


Ymunodd yr Athro Hilary Lappin Scott â Phrifysgol Abertawe yn 2010 ac mae’n arweinydd y Brifysgol ar Ymchwil ac Arloesi.