Patagonia, pengwiniaid ac ymchwil arloesol: Biolegydd y Môr, William Kay, yn parhau i ddringo ei ffordd i fyny’r ysgol ymchwil yn llwyddiannus

Bu heddiw (dydd Mawrth 26 Ionawr) yn ddiwrnod o ddathlu i William Kay, sy’n 23 ar hugain mlwydd oed, a dderbyniodd ei MSc drwy Ymchwil mewn Gwyddoniaeth Symudiadau Anifeiliaid yn seremoni raddio Prifysgol Abertawe yn Neuadd Brangwyn Abertawe. Roedd ei rieni a’i fam-gu hynod falch yno i’w gefnogi.

Wrth astudio ar gyfer ei radd mewn Bioleg y Môr, cafodd William ei ddethol i gymryd rhan yn rhaglen Her Graddedigion Byd-eang Academi Gyflogadwyedd Prifysgol Abertawe, sydd â’r nod o roi profiad i fyfyrwyr sy’n eu herio ar raddfa sy’n newid byd. Cafodd William ei ddethol i gymryd rhan mewn taith ymchwil am fis i deithio i Benrhyn Valdes ym Mhatagonia, yr Ariannin, gyda staff o ganolfan ymchwil Labordy Symudiadau Anifeiliaid Prifysgol Abertawe.

PenguinCafodd William, sy’n dod o Fae Penrhyn, Llandudno ac a fu’n ddisgybl yn Ysgol Bryn Elian ym Mae Colwyn, brofiad ymarferol gydag ymchwil arloesol a gweithiodd gyda rhai o’r anifeiliaid mwyaf enigmatig ar y blaned, gan gynnwys morfrain ymerodrol a phengwiniaid magelanaidd. Rhoddodd y gwaith maes y cyfle iddo glymu teclynnau Dyddiadur Dyddiol- a ddatblygwyd yn Adran y Biowyddorau ym Mhrifysgol Abertawe- wrth anifeiliaid. Roedd yr ymchwil hon yn cynnwys gwaith dadansoddi manwl o ran y ffordd y byddai adar y môr yn mynd ati i ddal eu hysglyfaeth a’r egni a ddefnyddir mewn cysylltiad â gweithgarwch hela. 

Meddai William fod ei radd mewn Bioleg y Môr wedi bod hyd yn oed yn well na’r disgwyl; datblygodd wybodaeth helaeth mewn amrywiaeth eang o feysydd o fewn y pwnc, ac enillodd ystod helaeth o sgiliau morol ymarferol trwy nifer o gyrsiau maes ac yn ystod ei daith ymchwil i Batagonia.

Rhwng ei astudiaethau, teithiodd William i Mingulay, ynys anghyfannedd yn Ynysoedd Heledd, lle bu’n gwneud ymchwil ar adar y môr ar gyfer Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Alban, a bu’n gweithio fel aelod o’r criw ac fel tywysydd morol ar gyfer Gower Coast Adventures yn y Mwmbwls, fel rhan o gynllun lleoliadau gyda Go Wales.

Archwiliodd gradd Meistr William gysyniadau gwneud penderfyniadau yn ymddygiad morloi harbwr. Roedd hyn yn cynnwys ymchwiliadau uwch pellach i ymddygiad deifio a symudiadau chwilio am fwyd gan ddefnyddio recordyddion amser-dyfnder ac olrhain gogyfrif GPS i ddatgelu patrymau yn y llwybrau y mae morloi’n eu dilyn wrth nofio yn ystod teithiau allan i’r môr. 

Mae William bellach yn parhau â’i astudiaethau yn y maes ymchwil hwn drwy ymgymryd â phrosiect PhD yn archwilio sut y mae mamaliaid morol yn rhyngweithio â gosodiadau ynni adnewyddadwy’r môr a’r ffordd y maent yn symud yn eu cylch. 

Gyda phryderon cynyddol am newid hinsawdd a diogelwch ynni, mae’r galw am ynni gwyrdd yn y DU wedi dod yn amcan targed enfawr ar gyfer llywodraeth y DU, sydd wedi ymrwymo i darged y bydd 15 % o’r holl ynni a ddefnyddir yma yn dod o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2020 (ar hyn o bryd 5 % yn unig o’n pŵer sy’n dod o ffynonellau adnewyddadwy).

Dyma’r targed mwyaf heriol ar gyfer unrhyw aelod-wladwriaeth yn yr UE ond mae’r DU yn sicr yn meddu ar y gallu i fodloni’r targed hwn ac ar hyn o bryd y DU yw’r arweinydd byd-eang cydnabyddedig ym maes ynni adnewyddadwy’r môr gydag oddeutu 10 MW o ddyfeisiau ynni’r llanw ac ynni ffrwd lanw’n cael eu profi yn nyfroedd y DU; sy’n fwy na’r cyfanswm cyfunedig ar gyfer gweddill y byd!Un o’r prif resymau y tu ôl i hyn yw bod gan y DU (er enghraifft yng Nghymru ac yn Abertawe) rai o’r amrediadau llanw uchaf a’r ffrydiau llanw cyflymaf yn y byd. 

Fodd bynnag, mae gwybodaeth gyfredol ynghylch effeithiau gosodiadau ynni adnewyddadwy’r môr ar fywyd morol (yn arbennig morloi, morfilod a dolffiniaid) yn gyfyngedig ac mae angen rhoi sylw brys i fonitro gweithrediadol ynghyd ag asesiadau o effeithiau gosodiadau o’r fath. I raddau helaeth, dyma fydd gwaith William – bydd yn defnyddio recordwyr data a gaiff eu clymu wrth anifeiliaid i binbwyntio symudiadau morloi llwyd (Halichoerus grypus) o gwmpas gosodiadau ynni adnewyddadwy’r môr ac yn darparu cyfarwyddyd a dealltwriaeth i randdeiliaid ynghylch effaith y dyfeisiau hyn.

Juvenile grey seal Meddai William: “Rwyf yn hynod angerddol am bynciau fy PhD: (i) mamaleg y môr a symudiadau anifeiliaid  ac (ii) ynni adnewyddadwy’r môr. Wedi tyfu lan yng Ngogledd Cymru a byw’n agos iawn i lwyth o forloi llwyd, rwyf wastad wedi cael fy swyno ganddynt. Mae’r PhD hwn yn gyfle gwych i mi fod ar flaen y gad mewn ymchwil arloesol i effeithiau dyfeisiau llanw ar famaliaid y môr.

“Ar ben hynny, rwyf yn hynod falch o allu cynnal yr ymchwil hon yn fy ngwlad enedigol, Cymru; gwlad sy’n fodel rôl ac sy’n cymryd camau enfawr tuag at ddatblygiadau yn sector ynni adnewyddadwy’r môr.”

Y prif safle astudio ar gyfer ymchwil William fydd Swnt Dewi, Sir Benfro. Gall y ffrydiau llanw yma gyrraedd cyflymderau o hyd at 8 not ar lanwau mawr, sydd felly’n cynnig cyfle sylweddol ar gyfer creu ynni’r llanw. Yn wir mae gan Sir Benfro ar y cyfan rai o’r dwyseddau posib uchaf ar gyfer ffynonellau ynni’r môr yng Nghymru; ac mae gan Gymru fel cenedl y gallu i sefydlu gallu ynni’r môr o 6.4 GW.

Trwy gydol y prosiect bydd William yn gwirfoddoli gyda Tidal Energy Ltd (TEL), cwmni technoleg ffrwd llanw arloesol sydd wedi sefydlu’r ddyfais ffrwd llanw raddfa gyflawn gyntaf yng Nghymru a adwaenir fel y DeltaStream™yn Swnt Dewi. Bydd y gwaith gwirfoddoli hwn yn cynnwys monitro symudiadau mamaliaid y môr wrth ymyl DeltaStream gan ddefnyddio technoleg acwstig (monitro hydroffon a SONAR).

Seal interactionYchwanegodd William: “Mae gan y canlyniadau o’r monitro acwstig yn DeltaStream TEL botensial gwych i gyfuno’n ardderchog â’r gwaith tagio y byddaf yn ei wneud ar forloi llwyd yn ardal Swnt Dewi. Dydw i ddim wedi penderfynu eto ba ddata yn union y byddaf yn bwriadu ei gofnodi ond rwyf yn disgwyl y bydd yn ymwneud â mesur cyflymderau ar raddfa fân, GPS a gwybodaeth ymddygiad deifio, ac efallai yn ychwanegol at hynny, y defnydd o "pingers" acwstig a fu’n llwyddiannus mewn ymchwil ar siarcod.

“Pe byddwn yn ddigon ffodus i gyfuno’r data a gofnodwyd o’m tagiau anifeiliaid a’r derbynyddion ar fwrdd y DeltaStream, byddai’n cynnig mewnwelediad sylweddol a dylanwadol iawn i’r ddealltwriaeth o effaith amgylcheddol y dyfeisiau hyn. Mae hyn i gyd yn hynod gyffrous!”

Wrth siarad am ei brofiad ym Mhrifysgol Abertawe meddai William: “Mae fy nghyfnod yn y Brifysgol wedi bod yn hynod bwysig – dyma dair blynedd orau fy mywyd.  Rwyf wedi derbyn cefnogaeth wych trwy gydol fy holl astudiaethau yma ac rwyf yn sicr y bydd hyn yn parhau. Mae gennyf dîm ardderchog o oruchwylwyr academaidd a diwydiannol gan gynnwys Dr Jim Bull, Dr Luca Börger o Brifysgol Abertawe a Dr Thomas Stringell o Adnoddau Naturiol Cymru, ac mae fy ngoruchwylydd Meistr ac israddedig, yr Athro Rory Wilson, hefyd wrth law i gynnig ei sgiliau arbenigol a’i gyfoeth o wybodaeth am dagiau anifeiliaid.

“Byddaf yn parhau i weithio yn Labordy Abertawe ar gyfer Symudiadau Anifeiliaid - adran sydd, yn fy marn i, yn lleoliad gwych i weithio ynddo. Yno mae teimlad gwirioneddol o gyfeillgarwch a moeseg gwaith tîm, gan ddefnyddio gwybodaeth a phrofiad o nifer o ddisgyblaethau gan gynnwys biolegwyr, ecolegwyr, ffisegwyr, mathemategwyr a chyfrifiadurwyr. Ni chredaf y gallwn ddod o hyd i dîm, lleoliad neu gefnogaeth well i gynnal yr ymchwil hon.”

 

(All pictures should be accredited to William Kay, Swansea University)