O Brifysgol Abertawe i’r sgrin arian

Gwnaeth Jonny Owen, a raddiodd o Brifysgol Abertawe, ymweld â’i hen goleg ar gyfer dangosiad ei ffilm newydd Svengali, yng Nghanolfan y Celfyddydau Taliesin ar 6 Mai.

Jonny Owen and Svengali posterMae Jonny a anwyd ym Merthyr yn gynhyrchydd, yn actor ac yn ysgrifennydd sydd wedi ennill gwobr BAFTA Cymru. Fe yw awdur a seren Svengali (Tyst. 15), y gyfres cwlt ar y we sydd wedi’i chynhyrchu’n ffilm erbyn hyn.  

Disgrifiodd awdur Trainspotting, Irvine Welsh, Svengali fel “Un o ffilmiau mwyaf cŵl a doniol i ddod mas o Brydain ers oesoedd”. Mae Svengali yn adrodd hanes Dixie (Jonny Owen), dyn y post o Dde Cymru, ac yn ffanatig am gerddoriaeth. Trwy’i holl fywyd mae wedi breuddwydio am ddarganfod band gwych ac yna un dydd, tra ei fod yn treillio trwy YouTube, mae’n dod o hyd i’r band - ‘The Premature Congratulations’. Ar ôl cael hyd i’r band, mae Dixie yn cynnig ei wasanaethau rheoli iddynt. Gyda’i gariad hirdymor, Shell (Vicky McClure), mae Dixie yn gadael y cymoedd ac yn dilyn ei freuddwyd i Lundain, lle mae’n rhaid iddo berswadio’r band mai fe yw’r dyn i’w helpu i gyrraedd y brig.

Gyda chast o actorion sydd wedi ennill canmoliaeth y beirniaid, mae Svengali yn serennu Martin Freeman (The Office, Sherlock), yr actores Vicky McClure sydd wedi ennill gwobr BAFTA (This is England, Broadchurch) Katy Brand, a Matt Berry, ynghyd â ffigurau blaenllaw eraill mewn cerddoriaeth megis Alan McGeeand, Carl Barât a Jake Bugg.

Mae Jonny Owen, a ddechreuodd ar ei yrfa actio tra oedd yn dal i fod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, wedi ymddangos yn rhai o raglenni teledu gorau’r DU, gan gynnwys Shameless, Torchwood, Murphy’s Law, a My Family. Yn 2006, enillodd Jonny wobr BAFTA Cymru am ei raglen ddogfen ar drychineb Aberfan, a gyd-gynhyrchwyd ganddo. 

Wrth siarad am ei amser ym Mhrifysgol Abertawe, meddai Johnny: “Mynd i Brifysgol Abertawe oedd un o’r penderfyniadau gorau a wnes i erioed yn fy mywyd. Roeddwn i wir yn dwlu bod yno. Bydd Prifysgol Abertawe bob amser â lle mawr yn fy nghalon.”.

Meddai Sally Thurlow, Rheolwr Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe: “Rydym wrth ein boddau i Jonny ddod yn ôl i’w hen goleg ar gyfer dangosiad ei ffilm ddiweddaraf, a’i fod wedi rhoi’r amser i gwrdd â myfyrwyr ar y campws cyn i’r ffilm gael ei dangos ac i gymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb wedi hynny.”

Arweiniwyd y sesiwn holi ac ateb gyda Jonny Owen gan yr Athro John Spurr, Pennaeth Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau ym Mhrifysgol Abertawe, yn dilyn dangosiad Svengali yng Nghanolfan y Celfyddydau Taliesin.

Gallwch wylio cyfweliad gyda Jonny Owen yma.