Andy Wright (Daearyddiaeth, 1998)
Llysgennad Llundain
"Symudais i Lundain ar ôl graddio o Abertawe ym 1998, a chês fy nhynnu i mewn i gyflymdra'r ddinas. Dwi wrth fy modd! Pan glywais i am y Gemau, meddyliais i am fod yn un o "Gwneuthurwyr y Gemau" (sef un o'r gwirfoddolwyr) ac yn Llysgennad Llundain. Mae rôl y Llysgennad yn golygu mwy i mi gan fy mod yn dwlu ar rannu fy ngwybodaeth o'r ddinas fawr 'ma.
"Dyna mae Llysgenhadon yn ei wneud - rhannu gwybodaeth am Lundain. Byddwn ni'n gwisgo dillad pinc llachar a phorffor, fel bod y rheini sy eisiau gwybodaeth, ac o bosib ysbrydoliaeth, am Lundain yn ein hadnabod yn rhwydd. Bydd eu cwestiynau'n cynnwys: tocynnau, trafnidiaeth, adloniant, bwyd, awgrymiadau diwylliannol - unrhyw beth, a dweud y gwir!
"Mae wedi bod yn dipyn o ymrwymiad i bob gwirfoddolwr; 'dyn ni ddim yn cael ein talu, dim hyd yn oed gyda thocyn. Rhaid i ni hyfforddi am dridiau cyn y digwyddiad, ac ryn ni fel arfer yn gorfod ymrwymo i wirfoddoli am chwe diwrnod yn olynol. Ond pam lai! Dwi'n caru Llundain, a dwi wastad wedi cyffroi am y Gemau Olympaidd, felly dwi'n hapus i anghofio holl oblygiadau negyddol y digwyddiad, ac i fod yn rhan o dîm sy'n sicrhau mai Gemau eleni yw'r Gemau mwyaf a gorau erioed.
"Dwi'n falch o fod yn gynrychiolydd Llundain i bobl leol, ymwelwyr, a chystadleuwyr fel ei gilydd. Bydd yn galed, ond bydd fel un parti mawr, a fydd e byth yn digwydd eto tra byddaf fyw. Beth fydda i'n ddweud wrth y plant? 'Mod i heb wneud dim? Na. 'Mod i wedi gwneud rhywbeth bach. Dim llawer, ond 'mod i wedi helpu ychydig o bobl i gael amser gwell yn y ddinas 'ma."