Dyfodol crwbanod môr mewn byd sy’n cynhesu

Mae gwyddonwyr o Brifysgol Abertawe wedi arwain astudiaeth ryngwladol a gyhoeddwyd yn Nature Climate Change yr wythnos hon, yn archwilio’r posibilrwydd y gallai crwbanod môr ddod yn rhywogaeth ddiflanedig o achos newid yn yr hinsawdd.

Sea TurtleArweiniwyd yr astudiaeth gan yr Athro Graeme Hays sy’n Gadeirydd Bioleg Ddyfrol ym Mhrifysgol Abertawe ac ar hyn o bryd yn Gadeirydd Gwyddor Môr ym Mhrifysgol Deakin, Warrnambool, Awstralia, a myfyriwr PhD, Jacques-Olivier Laloë a leolir yng Ngholeg Gwyddoniaeth  Prifysgol Abertawe. Roedd ymchwilwyr yn ynysoedd Cape Verde yn yr Iwerydd hefyd yn ymwneud â’r astudiaeth.

Meddai’r Athro Hays: “Nid yw’r posibilrwydd y gallai crwbanod môr ddiflannu am byth yn senario annhebygol. Beth sy’n anghyffredin gyda chrwbanod môr yw y caiff rhyw’r cywion ei benderfynu nid gan y cromosomau rhyw, fel yn achos pobl a mamaliaid eraill, ond yn hytrach gan y tymheredd deor, ffenomen a adwaenir fel rhyw’n cael ei benderfynu gan dymheredd.

“Dros dymheredd deor arbennig, fel arfer yn agos at 29°C, bydd y rhan fwyaf o wyau crwbanod môr yn cynhyrchu cywion benyw ac i’r gwrthwyneb. Felly gallai’r ffaith bod tymereddau’n cynhesu, fel rhan o newid yn yr hinsawdd fyd-eang, achosi i boblogaethau crwbanod môr gael eu dominyddu gan grwbanod môr benyw gan mai dim ond cywion benyw gaiff eu cynhyrchu.”

Er ein bod yn ymwybodol ers nifer o flynyddoedd o’r bygwth hwn y gallai poblogaethau crwbanod môr gael eu dominyddu gan grwbanod môr benyw, ychydig iawn o gynigion a wnaed i ragweld sut y gallai cymhareb ryw’r poblogaethau newid yn y dyfodol a’r risg y bydd y rhywogaeth yn marw o ganlyniad.   

Yn yr astudiaeth a arweiniwyd gan Abertawe, amcangyfrifwyd cymarebau rhyw yn y gorffennol, yn bresennol ac yn y dyfodol ar gyfer un o’r nythleoedd mwyaf yn y byd i grwbanod môr, Ynysoedd Cape Verde yn yr Iwerydd, lle mae niferoedd uchel o grwbanod pendew yn bridio.  

Cofnodwyd y tîm tymereddau’r tywod dros sawl blwyddyn gan ddefnyddio cofnodwyr data bach. Yna cyfunwyd y cofnodion tywod hyn â mesuriadau a wnaed yn y gorffennol o’r amodau amgylcheddol ar yr ynysoedd ers 1850, a’r rhagolygon ar gyfer yr hinsawdd am y 100 mlynedd nesaf a wnaed gan y Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd (IPCC).

Yn y ffordd hon, lluniwyd cyfres amser 250-mlynedd gadarn ar gyfer tymereddau deor, cymarebau rhyw’r cywion a chymarebau rhyw bridio’r oedolion.    

Dywed yr Athro Hays: "Am y tro cyntaf rydym wedi cynnwys data ar gyfnodoldeb bridio a gasglwyd gan dagio lloeren i ddangos y bydd y ffaith bod crwbanod môr gwryw yn tueddu i fridio’n amlach na’r rhai benyw yn helpu i wneud iawn am gymarebau rhyw’r cywion a ddominyddir gan gywion benyw."

Ychwanega "Dengys hyn fod y gwrywod yn fwy tebygol na’r benywod i fridio mewn blynyddoedd olynol, gan fod benywod yn buddsoddi cymaint mewn cynhyrchu wyau a chan fod cyflwr eu corff yn dioddef gymaint ac felly mae’n cymryd nifer o flynyddoedd iddynt wella."

“Golyga hyn er bod cymarebau rhyw’r cywion yn anghyfartal ac yn ffafrio’r benywod, mae’r gymhareb ryw weithredol yn llawer mwy cytbwys gyda mwy o fenywod yn barod i fridio mewn blwyddyn benodol sydd felly’n golygu ein bod yn gweld budd cadwraethol annisgwyl o ran y cynnydd yn nifer y benywod sy’n bridio ac o ganlyniad maint y boblogaeth ar y cyfan.”

“Mae canlyniadau’r gwaith hwn yn newyddion da i grwbanod môr. Er gwaethaf y cynhesu rhagweledig a’r cymarebau rhyw sy’n cael eu dominyddu’n fwyfwy gan y benywod, ni fydd y boblogaeth yn cael ei dominyddu’n llwyr gan fenywod yn yr ychydig ddegawdau nesaf.”

Cyhoeddwyd ‘Effects of rising temperature on the viability of an important sea turtle rookery’ yn gyntaf yr wythnos hon gan Nature Climate Change. Awduron: Jacques-Olivier Laloë, Jacquie Cozens, Berta Renom Parareda, Albert Taxonera Amorós a Graeme Hays (2014): http://www.nature.com/nclimate/journal/vaop/ncurrent/full/nclimate2236.html

 

Lluniau trwy garedigrwydd BS a RD Kirkby