Yr Anrhydeddus Shekhar Dutt, a raddiodd o Brifysgol Cymru Abertawe yn 1984 gyda Diploma mewn Polisi a Chynllunio Datblygu, oedd y prif siaradwr yn yr aduniad cyn-fyfyrwyr a gynhaliwyd yn Goa, India ar 4ydd Chwefror 2017.
Roedd Shekhar Dutt yn Llywodraethwr Gwladwriaeth Chhattisgarh rhwng 2010 a 2014. Ysgrifennodd y llyfr “Reflections on Contemporary India” a lansiwyd gan Arlywydd India yn 2014. Y llynedd cyflwynwyd Gwobr Paul H Appleby iddo am wasanaethau i weinyddiaeth gyhoeddus.
Trefnwyd aduniad Goa, gan gynnwys cinio gala, gan Nirmal Choubey, Kamelesh Gupta ac Arun Shanghavi sy’n gyn-fyfyrwyr Peirianneg. Roedd y Dirprwy Is-ganghellor Iwan Davies o Brifysgol Abertawe yno hefyd, ynghyd â Dr Mahaboob Basha, Swyddog Datblygu a Ms Shelley Matthews, Uwch Swyddog Rhyngwladol. Gyda chanmlwyddiant y Brifysgol yn dynesu yn 2020 roedd llawer o hel atgofion ynghyd â myfyrio ar lwyddiannau’r sefydliad a thrafod syniadau ar gyfer y dyfodol.
Ceir lluniau o’r digwyddiad yma.
- Dydd Gwener 24 Chwefror 2017 15.00 GMT
- Dydd Gwener 24 Chwefror 2017 14.45 GMT
- DARO