Bethyciadau Ôl-raddedig ar gael nawr

O ganlyniad i'r amrywiaeth o ddewisiadau ariannu sydd ar gael, nid oes amser gwell i astudio ar gyfer gradd ôl-raddedig

PG loans - marinaMae gan Brifysgol Abertawe ysgoloriaethau ymchwil ar gael ar gyfer rhaglenni a addysgir a rhaglenni ymchwil ar draws pob maes pwnc academaidd gan gynnig ysgoloriaethau ymchwil ôl-raddedig gwerth dros £7 miliwn y llynedd.

Mae benthyciadau ôl-raddedig amhyd at £10,280 hefyd ar gael ar gyfer myfyrwyr cymwys o'r DU/UE sy'n dechrau ar eu cyrsiau Meistr yn Abertawe ym mis Medi 2017.

Fel sefydliad ymchwil sydd ymhlith y 30 gorau yn y DU (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014), mae Abertawe'n darparu awyrgylch astudio gwych ar gyfer ein myfyrwyr ôl-raddedig.

Mae Abertawe wedi'i henwi'r Brifysgol y Flwyddyn Cymru 2017 gan Good University Guide The Times and Sunday Times ac rydym hefyd yn falch o gael ein coroni'n enillwyr y categori 'Astudiaethau Ôl-raddedig' yng Ngwobrau Dewis Myfyrwyr WhatUni 2017.

Am ragor o wybodaeth am fenthyciadau i fyfyrwyr ôl-raddedig, ewch i: www.swansea.ac.uk/cy/ol-raddedig/ffioedd-ac-ariannu