O'r RAG i Ogoniant y Gemau Olympaidd

Graddiodd Claudine Ratnayake mewn Gwyddor Rheoli Americanaidd ym 1997. Ar hyn o bryd, mae'n gweithio i 'London 2012', ac mae wedi bod yn gyfrifol am gynllunio llwybr Taith y Ffagl ar gyfer y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd.

Claudine Ratnayake1 Llwyddon ni i ddal i fyny gyda Claudine cyn Taith y Ffagl, a ddaeth i Abertawe ar 26 a 27 Mai...

Ellwch chi ddweud wrthon ni sut ddechreuoch chi weithio i Lundain 2012, a beth yw'ch rôl bresennol?

Tua wyth mlynedd a hanner yn ôl, penderfynais yr ôn i eisiau gweithio ar y Gemau - a doedden ni ddim hyd yn oed wedi ennill y gystadleuaeth i gynnal y Gemau bryd hynny! Ar y pryd, rôn i'n ymgynghorydd yn Accenture, ac yn teimlo bod angen newid gyrfa arna i. Rôn i'n meddwl am ba sgiliau oedd gen i a beth fyddwn i'n mwynhau ei wneud, a phenderfynais i ôn i eisiau trefnu digwyddiadau a phrosiectau. Doedd Llundain 2012 ddim yn recriwtio ar y pryd, ond llwyddais i ddod o hyd i swydd digwyddiadau, yn gweithio i Faer Llundain. Fy mhrosiect cyntaf oedd gweithio ar elfen Llundain o Daith y Ffagl ar gyfer Gemau Olympaidd Athens. Es i'n gaeth i'r gwaith!

A minnau'n falch o fod yn Llundeinwraig, roeddwn am weithio ar y digwyddiad mwyaf y byddwn byth yn ei gynnal yn ystod cyfnod o heddwch. Roedd angen mwy o brofiad arna i, felly yn 2006 gwirfoddolais ar gyfer Gemau Olympaidd y Gaeaf yn Nhorino. Dysgais lawer iawn am y Gemau, y sefydliad, a'r effaith y gall y Gemau ei gael ar ddinas ac ar wlad. Wedyn, ceisiais am swydd gyda Llundain 2012, oedd â llai na 100 aelod o staff ar y pryd. Rôn i'n gyfrifol am rai o'r cynllunio cynnar o ran Trafnidiaeth, yn ogystal â'r rhaglen Cyraeddiadau ac Ymadawiadau, oedd yn cynnwys Ffagl y Gemau pan ddaeth i Brydain yn rhan o Daith y Ffagl ar gyfer Gemau Beijing yn 2008.

Ymunais â Llundain 2012 pan oedd, i bob pwrpas, yn sefydliad oedd yn cychwyn o'r newydd, ac ar ôl 4 blynedd, rôn i'n barod i drosglwyddo i rôl arall ar adeg pan oedd y busnes yn tyfu'n gyflym ac yn symud tuag at ei gyfnod gweithredol. Ar hyn o bryd, dwi'n Rheolwr Ymlaen Llaw, yn gyfrifol am gynllunio'r llwybr, gan gynnwys llefydd aros a logisteg bob diwrnod, yn ogystal â gweithio gyda'r Awdurdodau Lleol i gynnal y Digwyddiadau Dathlu gyda'r hwyr. Mae'r daith yn para 70 diwrnod, a dwi'n gyfrifol am 17 diwrnod yn y De-orllewin, Gorllewin Canolbarth Lloegr, a Chymru. Pan ddaw amser y daith, fy rôl i fydd i fod rhwng 5 munud a 2 awr o flaen yr orymdaith, yn gwneud yn siwr bod yr holl gynlluniau yn eu lle. Ac oes aiff rhywbeth o'i le - i oresgyn y broblem!

Beth yw elfennau mwyaf heriol eich swydd?

O'r 18 mis diwethaf, dwi wedi treulio'n agos at chwech ohonynt ar y ffordd, gan dreulio hyd at wyth wythnos ar y tro yn byw allan o fag. Ar ôl treulio wyth awr yn y car mewn diwrnod, ac yn wynebu bwyta yn f'ystafell westy unwaith eto, anodd yw dod o hyd i'r cymhelliad i wneud diwrnod o waith gyda'r hwyr.

Er bod angen bod yn gyffyrddus yn treulio llawer o amser ar eich pen eich hunain, rhaid hefyd fod yn dda gyda phobl, gan fod angen sefydlu a rheoli cannoedd o gysylltiadau. Mae'r rhain yn cynnwys ystod o sefydliadau, gan gynnwys Awdurdodau Lleol, heddluoedd a gwasanaethau tân, atyniadau ymwelwyr, ysgolion, a noddwyr. Mae rheoli disgwyliadau a llif gwybodaeth gydag ystod mor eang ac amrywiol o sefydliadau hefyd yn gallu bod yn heriol.

'Sdim modd newid yr amserlen, ac mae lefel y craffu o du'r Llywodraeth, y cyfryngau a'r cyhoedd mor uchel ag y dylai fod. Dim pwysau felly!

Beth yw elfennau mwyaf boddhaus eich swydd?

Mae Cludwyr y Ffagl yn ganolog i Daith y Ffagl. Ryn ni wedi dewis 8000 o bobl arbennig iawn i gario'r ffagl o gwmpas y wlad, i gynrychioli eu cymunedau, ac i gario'r neges o heddwch, undod, a chyfeillgarwch y mae Taith y Ffagl Olympaidd yn ei symboleiddio. Mae pob un ohonyn nhw wedi cyflawni i'r eithaf mewn rhyw ffordd neu ei gilydd, ac mae eu straeon yn gyffrous, yn emosiynol, ac yn gwneud i rywun deimlo'n ostyngedig.

Mae tîm gwych gyda ni, a dwi'n teimlo ei bod yn fraint gweithio gyda chymaint o bobl sydd â chymhelliad mor gryf, ac sydd mor angerddol ac mor ymroddedig. Mae'n waith caled, ac mae'r oriau'n hir, ond ryn ni'n cefnogi'n gilydd. Wedi'r cyfan, 'yn ni'n treulio 70 diwrnod ar y ffordd gyda'n gilydd. Dwi hefyd yn ffodus fy mod yn gweithio gydag un o fy ffrindiau gorau, Jenny Donelan (Green gynt) o Gastell Clun.

Ac, wrth gwrs, mae'r olygfa'n hardd. Mae pob un o'r Rheolwyr Ymlaen Llaw yn meddwl fod ganddo'r rhanbarth orau - ond dwi'n gwybod bod yr un gorau gen i!

Mae bod yn rhan o Daith y Ffagl wedi rhoi cyfle i chi ddychwelyd i Abertawe. Beth yw'ch meddyliau a'ch teimladau am Abertawe bellach, bymtheng mlynedd ar ôl graddio?

Dwi wedi bod yn ôl unwaith neu ddwy ers graddio, ond roedd yn wahanol y tro hwn. Rôn i mor gyffrous i gael dychwelyd yn rhan o fy ngwaith proffesiynol. Mae Abertawe wedi bod yn lle arbennig i mi, ac felly bydd hi am byth. Fy amser yn fyfyriwr yma oedd yr amser gorau i mi, ac mae gen i lawer o atgofion melys. Mae'r campws wedi newid sut gymaint - cymaint o adeiladau newydd lle'r ôn ni'n arfer gorwedd ar y glaswellt gan fwynhau'r haul!

Pam penderfynoch chi astudio ym Mhrifysgol Abertawe yn y lle cyntaf?

Y cwrs. Rôn i am astudio gradd yn ymwneud â busnes oedd yn cynnig mwy na'r cynnwys safonol o bynciau astudiaethau busnes. Rôn i hefyd am dreulio blwyddyn dramor, felly cydiais yn y cyfle i astudio yng Ngogledd America (New Brunswick, yng Nghanada). Dôn i wir ddim wedi deall bod y camps wrth y traeth, nac am y Mwmbwls, na bod Penrhyn Gwyr mor agos. Roedd hynny i gyd fel bonws pan gyrhaeddais i!

Sut mae Prifysgol Abertawe a'ch cwrs wedi'ch helpu gyda'ch llwybr gyrfaol?

Roedd y cwrs yn berthnasol iawn o ran cyrraedd lle'r ydw i nawr. Rôn i'n gallu dewis o ystod eang o gyrsiau yn fy mlwyddyn olaf, o arloesi i logisteg, o TG i reoli prosiectau. Roedd llawer o waith tîm a chyflwyniadau, gyda llawer o brosiectau i'w cyflwyno.

Ond fy ngweithgarwch all-gwricwlaidd wnaeth fy ngosod ar fy llwybr presennol; dyna le ddatblygodd fy niddordeb a fy mhrofiad o drefnu digwyddiadau. Ymunais i â RAG yn fy mlwyddyn gyntaf, gan ddod yn aelod o'r pwyllgor yn f'ail flwyddyn. Trefnon ni bob math o ddigwyddiad, a'r un ôn innau'n gyfrifol amdano oedd yr orymdaith RAG. Braidd yn addas, fel mae'n digwydd, gan fy mod yn dychwelyd gyda gorymdaith arall o fath wahanol, ac yn dilyn yr un llwybr, ond o'r cyfeiriad arall, o Ffordd y Brenin heibio'r Brifysgol.

Olympic Torch Sut fydd eich rôl yn newid ar ôl y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd eleni? Beth yw'ch cynlluniau at y dyfodol?

Mae Taith y Ffagl yn cychwyn ddydd Sadwrn 19 Mai yn Land's End, ac yn gorffen pan fudd Cludwr Olaf y fagl yn cynnau'r pair ym Mharc y Gemau Olympaidd ddydd Gwener 27 Gorffennaf. Ar ôl treulio 70 diwrnod yn olynol ar y ffordd, bydda i'n barod i gysgu!

'Sdim gen i rôl benodol yn ystod y Gemau. Fodd bynnag, bydd llawer o waith i'w wneud yn cau'r prosiect, ac yn paratoi am Daith y Ffagl Paralympaidd. Mae hynny'n gysyniad gwahanol iawn, ac yn wahanol iawn o ran graddfa ac awyrgylch hefyd. Cynhelir Gwyl y Fflam ym mhob cenedl, gan gynnwys cynnau ffagl. Deuir â'r ffaglau ynghyd yn Stoke Mandeville i greu Ffagl y Gemau Paralympaidd, a deuir â hwnna i Lundain mewn taith dros nos i gynnau'r pair a chychwyn y Gemau Paralympaidd. Cynhelir Gwyl y Fflam yng Nghaerdydd ddydd Llun 27 Awst, a dwi'n gyffrous iawn am yr hyn sydd wedi'i gynllunio.

Mae fy nghontract yn dirwyn i ben ym mis Medi, a fy mwriad yw cymryd gwyliau hir, ac ystyried fy opsiynau. Dwi'n gwybod fy mod ar fin cychwyn ar daith arbennig iawn, o'r fath sydd ond yn codi unwaith mewn bywyd. Un peth sy'n sicr - bydd yn anodd iawn gwneud rhywbeth gwell na hynny.

 

Cliciwch yma i weld mwy o straen am gyn-fyfyrwyr Abertawe a Llundain 2012