Cyfarfu Anne Doherty a Mary Schultz (Mahtani gynt) ym Mhrifysgol Abertawe ym 1968, gan ddod yn gyfeillion agos. Graddiodd Mary ym 1970, a graddiodd Anne flwyddyn yn hwyrach, ym 1971. Dyma'u stori...

Anne...

"Ym 1968, cwrddais â Mary yn Neuadd Breswyl Mary Williams ym Mhrifysgol Abertawe. Roedd y ddwy ohonom yn fyfyrwyr ifainc, ac roeddem ni'n gymdogion yn y Neuadd. Gwnaethon ni gyd-dynnu â'n gilydd yn syth, dod yn gyfeillion, a dod yn agosach dros y ddwy flwyddyn nesaf. Graddiodd Mary yn yr haf, 1970, tra'r oeddwn i'n gweithio mewn swydd a drefnwyd gan f'adran yng Nghasnewydd.

Daeth i'm gweld cyn iddi ddychwelyd i Zambia. Dwi'n cofio ei gweld hi'n cerdded i fyny'r bryn, gan feddwl 'ys gwn i - a wela i hi eto?'. Graddiais i'r flwyddyn ganlynol, ac, am gyfnod, roeddem ni'n ysgrifennu at ein gilydd. Fodd bynnag, wrth i amser fynd heibio, aeth y llythyrau'n llai mynych, ac, fel pobl ifanc ym mhob man, dwi'n credu yr oeddwn i'n ddiofal, gan dderbyn ein bod wedi colli cysylltiad. Ond ni anghofiodd yr un ohonom ni.

Aeth amser heibio, a symudon ni ymlaen. Yn 2009, roeddwn i'n ddifrifol wael, ac wrth feddwl am beth allai ddigwydd, roedd 'cysylltu â Mary' yn rhif un ar fy rhestr o bethau i'w gwneud. Roeddwn i wedi ceisio dod o hyd iddi o'r blaen trwy ddefnyddio'r rhyngrwyd, ond heb lwyddo. Wedyn, daeth cylchgrawn y Gymdeithas Cyn-fyfyrwyr trwy'r drws, gan f'ysbrydoli i ofyn iddyn nhw fy helpu. Ffoniais i'r swyddfa, gan siarad â menyw gymwynasgar iawn, a addawodd geisio helpu er gwaetha'r bwlch o 40 mlynedd!"

Mary...

"Roedd y Swyddfa Cyn-fyfyrwyr yn wych! Ysgrifennodd ataf yn fy hen gyfeiriad yn dweud bod Anne yn chwilio amdana i. Felly, ysgrifennais at Anne, gan rannu fy llawenydd am adnewyddu'r cysylltiad rhyngom ni. Hoffwn ddiolch i 'r Swyddfa Cyn-fyfyrwyr am beidio ag esgeuluso cais Anne; rydych chi wedi ein galluogi i barhau'n taith gyda'n gilydd, a chyfoethogi'n bywydau."

Anne...

"Yn gwbl annisgwyl, ces i lythyr o Ganada. Oddi wrth Mary oedd e, a rhaid cyfaddef i fi eistedd i lawr ac wylo i ddechrau. Doeddwn i erioed wedi meddwl y byddai modd dod o hyd iddi ar ôl cymaint o amser, er i mi ddal i obeithio. Ysgrifennais yn ôl, ac wedyn derbyn galwad ffôn ganddi - rhagor o ddagrau.

Am ddeunaw mis, roeddem ni'n cadw mewn cysylltiad a cheisio gweld ein gilydd, ond digwyddodd rhywbeth bob tro. Rhagfyr 2011 oedd hi, ychydig cyn y 'Dolig, a dywedais yr oeddwn i'n mynd i anwybyddu'r 'Dolig y flwyddyn honno. Dywedodd Mary, "Dewch i Ganada", a dwi'n credu i mi ddweud y byddwn i'n meddwl amdano. Oddeutu dwy awr yn ddiweddarach, dyma hi'n ffonio'n ôl gyda manylion hedfan i Ganada, rhif ffôn, a chyfarwyddiadau i drefnu hedfan i Toronto. Fe wnes i! Wedyn, anodd oedd credu beth oeddwn i newydd ei wneud. Ymhen 10 niwrnod, roeddwn i'n mynd i groesi'r Iwerydd a chwrdd â rhywun nad oeddwn i wedi'i gweld ers 41 o flynyddoedd! A fyddem ni hyd yn oed yn adnabod ein gilydd?

Wel, do, fe wnaethon ni. Roeddem ni'n adnabod ein gilydd yn syth, ac ail-gydio yn ein sgwrsio lle'r oeddem ni wedi gadael pethau cymaint o flynyddoedd ynghynt. Roedd yn anhygoel. Dwi ddim yn credu i ni stopio siarad am ddyddiau. Cefais i Nadolig nad oeddwn erioed wedi breuddwydio amdano, a dechreuodd 2012 i mi yng Nghanada."

Mae'r stori'n parhau...