Dathlu cyn-fyfyrwyr Abertawe ar Diwrnod Rhyngwladol Menywod

Bob blwyddyn ar draws y byd, dathlir Diwrnod Rhyngwladol Menywod ar Fawrth 8. Mae Diwrnod Rhyngwladol Menywod yn darparu diwrnod cyffredin i gydnabod a chymeradwyo llwyddiannau menywod.

Mae nifer o fyfyrwragedd blaenorol Prifysgol Abertawe wedi symud ymlaen i lwyddiant mawr ar bob lefel mewn diwydiant, masnach, chwaraeon a'r sector cyhoeddus. Gallwch ddarllen am ychydig o'r menywod llwyddiannus sydd wedi graddio o Brifysgol Abertawe a chael gwybod am yr hyn y maen nhw wedi'i gyflawni ers gadael y Brifysgol.

  • Sharon Bishop (Peirianneg Defnyddiau, 1998) Cyfarwyddwr, Gŵyl Wyddoniaeth Cheltenham y Times
  • Charlotte Holland (Rheoli Busnes Rhyngwladol, 2012) Dadansoddwr Cymorth Prosiect, Gwasanaethau Menter Hewlett-Packard
  • Rhian Jones (Ffrangeg ac Almaeneg gydag Astudiaethau Busnes, 2001) Prif Swyddog Gweithredol, Canolfan Cymry Llundain
  • Catherine Lumb (Eifftoleg ac Anthropoleg, 2005) Cydlynydd Ysgolion Uwchradd ac addysg wedi 16 ar gyfer y Dyniaethau, Amgueddfa Manceinion
  • Catrin Parry-Jones (Hanes ac Astudiaethau Americanaidd, 2007) Rheolwr Busnes, Fusionworkshop
  • Claudine Ratnayake (Gwyddor Rheoli Americanaidd, 1997) Yn gyfrifol am gynllunio taith y Fflam o amgylch Prydain ar gyfer y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd
  • Elin Rhys (Biocemeg, 1978) Cyfarwyddwr Rheoli'r cwmni cynhyrchu Teledu ac Amlgyfrwng, Telesgop
  • Sally Robinson (Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg Uwchradd 1984) Cyfarwyddwr y Wlad, y Cyngor Prydeinig
  • Zoe Rushton (Cymraeg, 2000) Cynhyrchydd y BBC
  • Sue Smart (Ffrangeg, 1976) Ymgynghorydd Delwedd
  • Debbie Walpole (Gwyddor Reoli Americanaidd, 2004) Perchennog a Chyfarwyddwr Rheoli, The Borrowers Club
  • Delyth Williams (Peirianneg Gemegol a Biocemegol, 2004) Cydlynydd Cynhyrchu, Phillips 66

Os oes stori gennych i'w rhannu, hoffem glywed gennych felly cysylltwch â ni. Gallwch ddarllen mwy am hanesion llwyddiant ein cyn-fyfyrwyr a chael gwybod am ein cyn-fyfyrwyr nodedig.