Cynfyfyriwr a seren ffilmiau yn dychwelyd i Abertawe

Cynhyrchydd, actor ac ysgrifennydd sydd wedi ennill gwobrau yw Jonny Owen (Hanes, 1999). Ef yw ysgrifennydd a chrëwr Svengali, y gyfres cwlt ar y we sydd wedi cael ei chynhyrchu yn ffilm nodwedd erbyn hyn.

SvengaliMae Svengali yn dweud hanes Dixie (Jonny Owen), dyn di-nod â breuddwyd fawr. Mae’n gadael ei gartref mewn tref lofaol gyffredin i chwilio am oleuadau llachar dinas Llundain, yn benderfynol o ddod yn rheolwr ar fand gorau’r byd.

Mae Jonny wedi ymddangos yn rhai o raglenni teledu gorau gwledydd Prydain, gan gynnwys Shameless, Murphys Law a My Family. Enillodd Jonny wobr BAFTA Cymru am ei raglen ddogfen The Aberfan Disaster, a gyd-gynhyrchwyd ganddo yn 2006.

Mae cast Svengali hefyd yn cynnwys Martin Freeman (The Office, Sherlock) a’r actores sydd wedi ennill gwobr BAFTA Vicky McClure (This is England, Broadchurch). Bydd y ffilm yn cael ei rhyddhau mewn sinemâu ar 21 Mawrth, a bydd hefyd ar gael i’w phrynu ar DVD a Blu-Ray ar 7 Ebrill 2014. I gael rhagor o fanylion ewch i svengalimovie.com

Rydym wrth ein boddau y bydd Jonny yn dod yn ôl i Brifysgol Abertawe, ym mis Mai. Astudiodd Jonny Hanes yn Abertawe, gan raddio ym 1999, ac mae wedi dweud sawl gwaith cymaint y mwynhaodd ei gyfnod yma.

Bydd Canolfan Taliesin yn dangos Sevngali nos Fawrth 6 Mai, ac mae Jonny wedi cytuno i gymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb ar ôl y ffilm. Mae disgwyl iddi fod yn noson wych o adloniant, felly cofiwch archebu’n gynnar. Bydd tocynnau ar werth o ddydd Llun 24 Mawrth ymlaen yn www.taliesinartscentre.co.uk