Alumni Profile – Dr Amy Brown

Athro Cydymaith mewn Seicoleg sy'n arbenigo mewn astudio maeth babanod a bwydo ar y fron.

Amy BrownSbardunodd fy ngradd israddedig mewn seicoleg angerdd ynof am iechyd a lles a diddordeb i ganfod pam bod pobl wedi gwneud y dewisiadau a wnaethant. Roeddwn wedi bwriadu canolbwyntio fy ngwaith ymchwil ar faeth plant hn ac oedolion, o bosibl o amgylch anhwylderau bwyta a delwedd y corff, sef ffocwstraethawd hir fy MSc. Ond fel gyda phob cynllun da; aeth bywyd yn y ffordd, a phan roeddwn yn dechrau fy PhD, roeddwn hefyd yn feichiog gyda fy maban cyntaf. Ychydig a wyddwn bryd hynny, ond roedd y penderfyniad hwnnw yn ddechrau ar ddegawd a agorodd fy llygaid wrth ymchwilio i benderfyniadau o ran bwydo babanod.

Roedd dod yn fam tra'n academydd â diddordeb mewn ymddygiad iechyd wir wedi agor fy llygaid i faes newydd o ymchwil. Sylweddolais yn fuan nad oedd bwydo ar y fron a dyfnu yn ddewisiadau syml, ond yn hytrach roeddynt wedi'u hymsefydlu'n ddwfn mewn cyd-destun seicogymdeithasol ehangach. Gwelais hefyd fod hwn yn faes nad oedd llawer o waith wedi'i gyhoeddi amdano a magodd yr hyn a ddechreuodd fel syniad ar gyfer traethawd ymchwil fomentwm yn sydyn iawn a throi i mewn i rywbeth sy'n ymddangos fel oes o waith!

Y cwestiwn canolog a aeth â'm bryd oedd y lefelau bwydo ar y fron isel iawn yn y DU a pham bod hyn yn digwydd. Bellach, ni sydd â'r cyfraddau isaf yn y byd, sy'n golygu cost uchel i iechyd a lles y babanod a'u mamau, ond hefyd yn economaidd drwy'r baich cynyddol oherwydd salwch.
Ar yr olwg gyntaf ymddengys fod gennym broblemau ffisiolegol sy'n effeithio ar ein gallu i fwydo ar y fron. Dywedodd llawer o ferched straeon wrthyf am gyn lleied o laeth oedd ganddynt, fel nad oedd eu babi wedi'i fodloni ac yn bwysig, pa mor anhapus oeddynt yngl ^ yn â hyn. O ddarllen y llenyddiaeth fodd bynnag, roedd yr hyn a gyflwynwyd yn gyferbyniad llwyr: roedd yr amcangyfrifon o ran anallu i gynhyrchu digon o laeth yn amrywio rhwng 0.1 a 2%. Felly beth oedd yn digwydd?

Mae fy ngwaith ymchwil yn ystod y deng mlynedd ganlynol wedi ateb hyn: yr hyn sy'n digwydd yw bod cymdeithas wedi creu diwylliant lle, er gwaethaf y ffaith ei fod yn hysbysebu bwydo ar y fron, nid yw'n ei gefnogi mewn gwirionedd ac mewn rhai achosion mae'n annog mamau i beidio â gwneud hynny. Nid yw sawl problem bwydo ar y fron yn un ffisiolegol ond yn hytrach maent wedi eu hachosi gan gymdeithas nad yw'n deall ymddygiad normal babanod ac, yn ogystal, mae'n gosod rhwystrau yn ffordd merched sydd am fwydo ar y fron, gan wneud i fformiwla ymddangos fel y dewis hawsaf.

Anogir mamau i geisio cael eu babi i gysgu drwy'r nos a bwydo'n llai aml, a gall y ddau fod yn niweidiol i gyflenwad llaeth. Gwerthir fformiwla fel datrysiad yn aml er mwyn cael gorffwys oddi wrth y baban, yn hytrach na chefnogi'r fam gyda phopeth arall, felly mewn gwirionedd mae'n teimlo ei bod yn cael llai o orffwys.

Mae cymdeithas yn blaenoriaethu mamau newydd yn cael eu bywydau yn ôl yn hytrach na threulio amser yn gofalu am eu baban newydd yn unig. Ymddengys fel bod stori arall yn y wasg bob yn ail wythnos am ddynes yn cael ei hatal rhag bwydo ar y fron yn gyhoeddus.
Yn olaf, mae diwydiant yn ceisio hyrwyddo cynnyrch sy'n amharu â'r fwydo ar y fron, neu'n cymell merched rhag gwneud. Does dim rhyfedd, er bod dros 90% o ferched am fwydo ar y fron, bod mwy na hanner y babanod wedi cael rhywfaint o fformiwla erbyn diwedd eu hwythnos gyntaf o fywyd.

Yn y dyfodol, mae fy ngwaith ymchwil yn ceisio deall sut y gallwn newid y sefyllfa hon, ac rwy'n gweithio'n agos gyda'r llywodraeth, llunwyr polisi a sefydliadau bwydo ar y fron i geisio gwireddu hyn. Sut y gallwn wella ein dealltwriaeth a derbyn ymddygiad normal babanod? Sut y gallwn ddiogelu mamau fel eu bod yn bwydo ar y fron? Yn y pen draw, sut y gallwn ddod yn gymdeithas fel y rhai yn Sgandinafia lle mae bron pob mam yn bwydo ar y fron?

Mae fy llyfr newydd, Breastfeeding Uncovered, yn cynnyws fy holl waith ymchwil i fwydo ar y fron dros y deng mlynedd diwethaf. Mae'n ystyried y dystiolaeth y tu ôl i ffisioleg bwydo ar y fron, ond mae hefyd yn ystyried sut y gall yr amryw o broblemau seicogymdeithasol hyn niweidio bwydo ar y fron. Mae wedi ei anelu at y cyhoedd yn hytrach na chynulleidfa academaidd yn unig, ac rwy'n gobeithio y bydd yn un o'r camau y byddwn yn gallu eu cymryd i wneud gwahaniaeth i iechyd, lles ac economi ein poblogaeth.

Llinell amser:

2003: BSc Seicoleg, Prifysgol Abertawe
2005: MSc Econ Dulliau Ymchwil Cymdeithasol, Prifysgol Abertawe
2010: PhD Seicoleg, Prifysgol Abertawe
2003 – 2004: Cynorthwyydd ymchwil rhanamser, Prifysgol Abertawe
2005 – 2007: Darlithydd rhan-amser mewn seicoleg ac iechyd, Prifysgol Fetropolitan Abertawe
2007 – 2012: Tiwtor/darlithydd rhan-amser, yna ymchwilydd ôl-ddoethurol i'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), Astudiaethau Plentyndod, Prifysgol Abertawe
2012 – presennol: Uwch ddarlithydd, yn Athro Cydymaith, Iechyd cyhoeddus, Prifysgol Abertawe