Prof. Raymond Walters

Enw:  Yr Athro Raymond Walters     

Cwrs a astudiwyd:  B.Sc. (Anrh) Botaneg & Ph.D. Geneteg                                    

Blwyddyn raddio: 1969 & 1972

Pam dewisoch chi astudio ym Mhrifysgol Abertawe?

Pennaeth yr adran Fotaneg oedd yr Athro Street, arweinydd byd-eang ar ddiwylliant celloedd planhigion ac a oedd yn ymgymryd ag ymchwil drawiadol yn y maes hwn. Arhosais i ddilyn cwrs PhD mewn Geneteg a lle yr oedd Dr Jim a Dr Liz Parry yn ymgymryd ag ymchwil chwyldroadol ddiddorol iawn ar atgyweirio DNA.

Beth oeddech chi’n mwynhau fwyaf am eich cwrs ym Mhrifysgol Abertawe?

Yr addysgu ardderchog, y staff agos-atoch a’r oruchwyliaeth neilltuol a brwd yn ystod fy astudiaethau PhD.

Beth yw eich gyrfa erbyn hyn? 

Yn ddiweddar, ymddeolais o’m rôl fel athro ymchwil mewn Astudiaethau Canser yn yr Ysgol Feddygol, ym Mhrifysgol Caerdydd.

Sut y mae Prifysgol Abertawe a’ch cwrs wedi’ch helpu chi o ran eich llwybr gyrfa?

Cynigiodd Prifysgol Abertawe gyfleusterau a hyfforddiant ardderchog a oedd yn sail imi dderbyn gwobr ôl-ddoethurol urddasol gan Fudiad Bioleg Moleciwlaidd Ewrop a ddilynais yn Fondation Curie, Orsay, Ffrainc. Gosododd y wobr hon, ynghyd â’r ail wobr ôl-ddoethurol urddasol a enillais i ymuno â Labordy Cenedlaethol Oak Ridge yn UDA, y seiliau ar gyfer fy ngyrfa. Cychwynnodd hyn pan gefais fy mhenodi ar ddarlithyddiaeth mewn Geneteg yn Abertawe yn hwyr yn 1978. Dilynwyd hyn gan ddyrchafiad i bennaeth yr Ysgol Gwyddorau Biolegol cyn i’m grŵp ymchwil a minnau adleoli i’r Ysgol Feddygol yng Nghaerdydd yn 2001.

Beth yw rhannau mwyaf heriol eich swydd?

Y rhannau mwyaf heriol oedd rheoli grŵp ymchwil mawr, sicrhau ein bod yn gweithio fel tîm, cyhoeddi ymchwil dda ac ennill cyllid ymchwilio gan gyrff ariannu, yn bennaf gan y Cyngor Ymchwil Feddygol.

Beth yw rhannau mwyaf buddiol eich swydd?

Roeddwn i’n arfer gwasanaethu ar fwrdd meddyginiaethau moleciwlaidd y Cyngor Ymchwil Feddygol ac roeddwn i’n ddirprwy gadeirydd ar Bwyllgor Agweddau Meddygol ar Belydriad yn yr Amgylchedd Llywodraeth y DU. Yma, ysgogais yr adroddiad i’r Llywodraeth ar Ddeddfwriaeth Gwelyau Haul a arweiniodd at ddeddfwriaeth i reoli eu defnydd er mwyn lleihau’r perygl o ddatblygu canser y croen.

Yn rheolaidd, agweddau mwyaf buddiol fy swydd oedd gweld fy staff a’m myfyrwyr yn ennill eu plwyf fel gwyddonwyr llwyddiannus.

Beth oedd y cyngor gyrfaol gorau a roddwyd i chi?

Anelwch yn uchel, gweithiwch yn galed a mwynhewch eich swydd.

Pa gyngor sydd gyda chi ar gyfer myfyrwyr presennol a graddedigion newydd? 

Gofynnwch am gyngor gan gynghorwyr gyrfaol a’ch darlithwyr. Peidiwch â gadael gwneud penderfyniadau tan y funud olaf pan efallai na fydd dewisiadau brys yn newisiadau cywir ar eich cyfer chi.

Beth yw’ch cynlluniau ar gyfer y dyfodol?

Rwy’n gadeirydd anrhydeddus ar Ysgolion Meddygol Caerdydd ac Abertawe. Mae’r swyddi hyn yn fy ngalluogi i barhau i gyhoeddi, cynghori cydweithwyr a chadw fy niddordebau mewn atgyweirio DNA yn ymwneud â strwythur cromosomau.

Beth ydych chi wedi ei wneud sydd yn eich gwneud chi’n hynod falch ohono?

Roeddwn i’n gadeirydd ar is-grŵp Pwyllgor Agweddau Meddygol ar Belydriad yn yr Amgylchedd a luniodd yr adroddiad i’r Llywodraeth gan felly sicrhau bod defnydd gwelyau haul, o’r diwedd, yn cael ei reoleiddio yn y DU. Bydd hyn yn lleihau achosion o’r canser mwyaf aml (canser y croen) ymhlith oedolion ifainc yn y DU.

Dywedwch wrthym am eich amser yn byw ac yn astudio yn Abertawe. Beth yw’ch hoff atgofion am eich blynyddoedd yn y brifysgol yn Abertawe?

Treuliais 6 mlynedd yn Abertawe a mwynheais i’n fawr iawn.

Galluogodd yr agweddau academaidd imi gyflwyno traethawd ymchwil fy PhD mewn 2 flynedd a hanner ond roedd modd imi gydbwyso hyn â chwarae rygbi dros dîm y Brifysgol. Ffurfiais gyfeillgarwch cryf â’m cyd-fyfyrwyr a’r staff academaidd yn Abertawe sy’n parhau hyd heddiw.

Diddordebau a Gweithgareddau Hamdden

Teulu, atgyweirio DNA, rygbi, beicio a cherdded. Bwyd a gwin da – ar hyn o bryd rwy’n Gadeirydd ar glwb ciniawa Prifysgol Abertawe.

Yn olaf, disgrifiwch eich hun mewn ychydig o eiriau…

Wedi’m hysgogi, siarad yn blaen, di-lol