George Johnson

Graddiodd George Johnson o Brifysgol Abertawe yn 2002.   Ar hyn o bryd, mae'n athro cysylltiol mewn Geneteg yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe.

Pam penderfynoch chi astudio ym Mhrifysgol Abertawe?

Roedd y cyrsiau'n ymddangos yn dda ac Abertawe oedd y Brifysgol orau roeddwn i wedi dod ar ei thraws â lleoedd da i syrffio a pharagleidio gerllaw.

Beth gwnaethoch chi ei fwynhau fwyaf am eich cwrs yn Abertawe?

Roedd llawer o fodiwlau diddorol a dosbarthiadau ymarferol yn y labordy, ond y traethawd hir yn y flwyddyn olaf wnaeth fy narbwyllo fy mod i eisiau dilyn gyrfa mewn gwyddoniaeth. Roeddwn i'n lwcus i wneud prosiect gyda'r Athro Jim Parry a Dr Elizabeth Parry yn ymchwilio i effeithiau niweidiol bisphenol-a ar DNA. Mae'r cemegyn hwn yn cael ei ddefnyddio mewn resinau epocsi ac mewn poteli plastig clir. Mae'n achosi cellraniad anghywir gan greu nodweddion sy'n gallu achosi canser ac yn ystod fy mhrosiect gwnes i astudio hyn yn fanwl gan ddefnyddio microsgopeg fflwroleuedd. Mae adroddiadau diweddar y llywodraeth wedi dangos bod y boblogaeth ddynol yn dod i gysylltiad â lefelau isel nad ydynt yn peri llawer o bryder ond, yn ystod yr astudiaethau cynnar hyn, roedd yn brosiect cyffrous iawn i ymwneud ag ef ac roedd fy ffrindiau o'r tu allan i'r maes gwyddonol bob amser yn hoffi sgwrsio amdano hefyd. Oherwydd y perthnasedd uchel hwn, roeddwn i'n gallu cyhoeddi'r gwaith hwn ac ennill marciau uchel iawn am y gwaith ysgrifenedig. Ces i gyfle hefyd i gyflwyno fy nata mewn cynhadledd ryngwladol. Felly, gwelais hwn fel pwnc effaith uchel â chyfleoedd teithio da, felly roeddwn i'n frwdfrydig iawn amdano o hynny ymlaen.

Beth yw eich swydd heddiw?

Yn fy rôl fel Athro Cysylltiol yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, dwi'n mwynhau darlithio a thiwtora myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig, ymgymryd ag uwch rolau yn y Brifysgol fel Cyfarwyddwr Cyflogadwyedd ac Entrepreneuriaeth, ac ymchwil hefyd. Mae fy mhrosiectau ymchwil yn mynd yn dda iawn, gyda'n stori ynghylch difrod DNA a gwenwyndra amhuredd cemegol yn un o gyffuriau Hoffman-La-Roche, Viracept, yn arwain at stori effaith a gafodd radd uchel iawn yn REF 2014. Ar ben hyn, fi yw Cadeirydd Pwyllgor Technegol Gwenwyneg Enynnol Sefydliad Iechyd ac Amgylcheddol y Sefydliad Gwyddor Bywyd Rhyngwladol (ISLI-HESI GTTC) yn Washington DC. Mae'r aelodaeth yn cynnwys cwmnïau fferyllol, cosmetig, chemegol a chwmnïau eraill, yn ogystal ag arbenigwyr rheoleiddio o'r Unol Daleithiau (FDA, EPA, DA), Iechyd Canada a chyrff cyfatebol yr UE a Japan. Mae'r gwaith hwn yn caniatáu i mi deithio a chyflwyno fy ymchwil ledled y byd ac, yn ogystal â chyhoeddi'n rheolaidd, dwi'n cydweithio ar nifer o brosiectau parhaus. Ar hyn o bryd, dwi'n datblygu portffolio o waith ymgynghori â thâl lle gallaf ddefnyddio fy arbenigedd i weithio ar gynhyrchion a sefyllfaoedd go iawn.

Sut mae Prifysgol Abertawe a'ch cwrs wedi bod o gymorth yn eich gyrfa?

Roedd fy BSc yn allweddol i'r llwybr gyrfa ddewisais i ac roeddwn i'n mwynhau gweithio yma cymaint y penderfynais i aros yn Abertawe ar ôl cwblhau fy ngraddau. Mae'r bwrdd Geneteg wedi fy nghefnogi ym mhob ffordd drwy gydol fy ngyrfa, ac roeddwn i'n gallu manteisio ar nifer o gyfleoedd drwy gydol fy ngyrfa oherwydd y cymorth a'r gefnogaeth ges i gan fy narlithwyr a'm cydweithwyr. Wrth weithio yn Abertawe, dwi wedi elwa o fod yn gymrawd addysgu'r Awdurdod Addysg Uwch, rhywbeth a gyflawnais i drwy wneud cwrs ardystiedig yn Abertawe. Dwi hefyd wedi dod yn aelod o nifer o uwch bwyllgorau drwy'r Brifysgol a dwi bob amser wedi elwa o lefel uchel o gefnogaeth i'r staff iau.

Beth yw'r agweddau mwyaf heriol ar eich swydd?

Diffyg amser yn ystod y dydd. Mae hyn yn rhywbeth cyffredin ar gyfer academyddion. Rydych chi'n dwlu ar eich gwaith ac yn awyddus drwy’r amser i ddatblygu syniadau newydd, cyhoeddi papurau, cydweithio ac ymgynghori, rhoi gweithdrefnau addysgu newydd ar waith, cefnogi'ch myfyrwyr a mwy. Felly, rheoli amser yw'r agwedd fwyaf anodd ar y swydd ond mae gen i deulu hyfryd a dwi'n gaeth i syrffio, felly dwi'n sicrhau fy mod i'n neilltuo amser i greu cydbwysedd bywyd a gwaith addas hefyd.

Beth yw'r agweddau mwyaf gwobrwyol ar eich swydd?

Y rhan fwyaf gwobrwyol o addysgu yw gweld fy ngraddedigion yn gwneud yn dda yn eu dewis gyrfaoedd.

O ran ymchwil, mae siarad mewn cynadleddau rhyngwladol, cynnal gweithdai ar gyfer arbenigwyr blaenllaw a chael clod uchel am bapurau ymchwil ac am effaith gyffredinol yn wobrwyol iawn hefyd. Ar ben hyn, drwy fy rolau ymgynghori diweddar, dwi'n cael effaith ar rai cynhyrchion fferyllol a chynhyrchion eraill buddiol iawn.

Beth oedd y cyngor gorau gawsoch chi am yrfaoedd?

Byddwch chi'n treulio'r rhan fwyaf o'ch bywyd yn eich swydd, felly man a man i chi ei mwynhau! Cyn mynd i'r brifysgol, roeddwn i hefyd yn ystyried gyrfa a oedd yn ymwneud â'm diddordebau hamdden, ond dywedodd peilot paragleidio profiadol wrthyf nad oedd yn syniad da gwneud arian o'ch diddordebau gan na fydden nhw'n ddiddordebau bellach.

Pa gyngor byddech yn ei roi i fyfyrwyr presennol a graddedigion?

Byddwn i'n dweud wrth fyfyrwyr BSc a graddedigion am ymgeisio am PhD sy'n cael ei ariannu - cewch eich talu, byddwch yn dysgu llawer a chewch lwyth o gyfleoedd ar ôl gorffen.

Fy neges i fyfyrwyr PhD a graddedigion fyddai defnyddiwch eich amser fel ymchwilydd ôl-ddoethurol i deithio ychydig ac, os ydych chi'n bwriadu aros yn y byd academaidd, ystyriwch y llwybr addysgu, fel fi, gan weithio i fyny o Diwtor.

Beth yw eich cynlluniau ar gyfer y dyfodol?

Parhau i ymchwilio ac addysgu a datblygu fy ngwaith fel ymgynghorydd hefyd. Mae gen i gynlluniau i ddatblygu cwmni deillio yn seiliedig ar asesiadau risg iechyd dynol, yn ogystal â chynnal cyrsiau am sut i ddefnyddio data gwenwyndra genetig yn well er mwyn lleihau dibyniaeth ar anifeiliaid mewn ymchwil (3Rs). Yn fy ymchwil, dwi hefyd yn datblygu ymagweddau profi newydd yn rheolaidd a rywbryd, hoffwn i fasnacheiddio techneg hefyd.

O'r hyn rydych chi wedi'i gyflawni, beth sy'n rhoi'r balchder mwyaf i chi?

Goruchwylio a mentora myfyrwyr sy'n uchel eu parch yn eu meysydd gwyddonol. Drwy fy ngwaith gyda ILSI-HESI GTTC, dwi wedi arwain newid pwysig yn y ffordd o ddefnyddio data gwenwyndra genetig mewn asesiadau risg iechyd dynol, ac mae effaith hyn yn cael ei theimlo'n fyd-eang mewn nifer o ddiwydiannau a meysydd rheoleiddio gwahanol. Mae hyn wedi arwain at nifer o wobrau gwyddonydd ifanc yn ddiweddar (UKEMS ac EEMGS), ynghyd â gwobrau ar gyfer y papurau gorau ym maes datblygu asesiadau risg (RASS-SOT 2013, 2014) a nifer o wahoddiadau i siarad mewn symposia rhyngwladol pwysig.

Dros y blynyddoedd diwethaf, dwi hefyd wedi rhoi sgyrsiau mewn ysgolion a cholegau lleol, gyda'r nod o ysbrydoli'r myfyrwyr i astudio pynciau STEM, gan amlygu hefyd pa mor wobrwyol yw gwaith academydd yn y gwyddorau bywyd. O ganlyniad i hyn ac ymdrechion eraill, ces i fy enwebu am Wobr Ysbrydoli Cymru 2012 a chyrhaeddais i'r tri olaf ond collais i i'r Athro Chris McGuigan.

Dywedwch ychydig wrthym am eich amser yn byw ac yn astudio yn Abertawe. Beth yw eich hoff atgofion o'ch blynyddoedd ym Mhrifysgol Abertawe?

Roedd y cynllun gradd Geneteg yn ardderchog ac un o'r uchafbwyntiau fyddai fy nhîm yn ennill cyflwyniad poster gorau yn ystod asesiad yn y flwyddyn olaf.

Roedd llawer o uchafbwyntiau am fyw yn Abertawe. Mae'r prif rhai'n ymwneud â chwaraeon agor agored. Yn ystod fy amser fel myfyriwr, rhoddais i gynnig ar ddringo creigiau, tonfyrddio, beicio mynydd, paragleidio, arfordiro, neidio oddi ar glogwyni, ac awyrblymio a dwi hefyd yn defnyddio'r cyfleusterau chwaraeon ar y campws yn rheolaidd i chwarae pêl-fasged a phêl-droed nawr. Ar nodyn mwy cystadleuol, roeddwn i wrth fy modd yn ennill cystadleuaeth syrffio Prifysgol Abertawe un flwyddyn a hefyd yn cystadlu (ac yn cael hwyl) mewn digwyddiadau eraill yn Sir Benfro a Chernyw hefyd. Roedd paragleidio uwchben Rhosili gyda golygfeydd yn ôl dros benrhyn Gŵyr ac ymlaen i Ben Pyrod yn eithaf braf hefyd.

Mae'r bywyd nos a'r partis yn Abertawe'n llawer o hwyl hefyd ond bydd y storïau hynny'n cadw am ddiwrnod arall.

Disgrifiwch eich hun mewn 3 gair.

Gwyddonydd, syrffiwr, cystadleuol.