Carl Neale

Enw: Carl Neale

Cwrs: Peirianneg Fecanyddol yn cynnwys blwyddyn yn Ewrop

Blwyddyn raddio: 1994

Pam dewisoch chi astudio ym Mhrifysgol Abertawe?

Yr ateb gwleidyddol gywir yw am fod yr Adran Peirianneg Fecanyddol yn cynnig gradd o safon uchel a chefnogaeth dda gan ddiwydiannau lleol.

Y bachyn go iawn oedd yr ymweliad derbyn gwybodaeth 2 ddydd â’r Brifysgol cyn fy arholiadau Safon A a oedd yn cynnwys taith o amgylch y Brifysgol, gweithdai ymarferol yn yr Adran Peirianneg Fecanyddol, aros dros nos yn Neuaddau Clyne, a thaith gerdded ar hyd yr arfordir rhwng Bae Langland a Bae Caswell. Yn wir, dim ond un dewis ar gyfer Prifysgol oedd, yn dilyn y penwythnos hwnnw!

Roedd gan Abertawe, ac mae’n dal i fod ganddi, lawer i gynnig i fyfyrwyr, o fywyd dinas i draethau tywod euraidd. I fi, hwn oedd fy newis cyntaf ac roeddwn yn ddigon ffodus i ennill lle ym Mhrifysgol Abertawe.

Beth oeddech chi’n mwynhau fwyaf am eich cwrs?

Os ydyn ni’n siarad am y cwrs yn unig, yn amlwg, heb os y flwyddyn ym Mannheim, yr Almaen oedd yr uchafbwynt ond hefyd yr amrywiaeth o bynciau, yn cynnwys themâu nad oeddent yn ymwneud â pheirianneg fel y gyfraith a chyfrifeg a oedd hefyd yn gwneud i’r cwrs fod yn bleserus iawn.

Cwrddais â phobl anhygoel a phob un â phrofiad magwraeth gwahanol i fy un i. Yn edrych yn ôl nawr ar ôl bron 25 o flynyddoedd, caniataodd fy mywyd yn Abertawe imi dyfu lan mewn amgylchedd wedi’i amddiffyn a rhoi lle imi ddod o hyd i bwy oeddwn i a’r hyn yr oeddwn am ei wneud yn fy mywyd. Hefyd rhoddodd olwg gwbl wahanol o’r byd i mi gan ehangu fy ngorwelion y tu hwnt i unrhyw beth y gallwn fod wedi’i ddychmygu. Rwy wedi fy argyhoeddi pe na bawn i wedi cael cyfle i astudio yn Abertawe, ni fyddai fy mywyd hanner cystal ag yw e heddiw. Hefyd Abertawe oedd ble y cwrddais â’m gwraig, a’r mwyafrif o’m ffrindiau gorau yn dal i fod y rhai y cwrddais â nhw yn Abertawe. Er ein bod ar wasgar dros y byd, rydym yn ceisio trefnu aduniad y flwyddyn nesaf i ddathlu bod yn ffrindiau ers 25 o flynyddoedd!

Beth ydych chi’n teimlo oedd y peth mwyaf i chi ennill o’ch amser dramor?

Ble ddylwn i ddechrau? Sgiliau cyfathrebu, sgiliau ieithyddol, hunanhyder, hunanddibyniaeth, golwg o’r byd, mae’r rhestr yn un hirfaith!

Roeddwn i’n 20 oed, yn eithaf swil heb unrhyw sgiliau ieithyddol o gwbl pan laniais i yn Heidelberg ar gyfer cwrs iaith 4 wythnos ym mis Medi 1992. Pan ddaeth fy rhieni i’m casglu ym mis Gorffennaf 1993, roeddwn i’n berson hyderus, 21 oed nad oedd yn wir am adael yr Almaen.

Roedd fy sgiliau Almaeneg yn dal i fod yn eithaf gwael ond, dros y flwyddyn, dysgais sut i gyfathrebu sydd, i fi, yn llawer pwysicach na siarad iaith i lefel uchel. Daeth yr hyder trwy sylweddoli fy mod wedi llwyddo i fyw a gweithio mewn gwlad dramor am bron blwyddyn gan drefnu popeth o rentu fflat i agor cyfrif banc. Roeddwn i’n arfer dweud wrthyf fy hun, “os oes modd i ti wneud hyn oll mewn gwlad dramor, mae modd i ti wneud unrhyw beth gartref!”

Ydy eich profiad o astudio dramor wedi helpu eich llwybr gyrfaol?

Yn sicr! Mwynheais fy mlwyddyn yn yr Almaen cymaint newidiodd fy ngôl mewn bywyd i geisio dod o hyd i ffordd o fynd yn ôl i’r Almaen i weithio ac, os yn bosib, i fyw yno. O ganlyniad i amgylchiadau teuluol, cymerodd ychydig o amser cyn imi gychwyn ar gyflawni fy ngôl. Fodd bynnag, yn 1999, llwyddais i ennill swydd yn Bosch, y cwmni peirianneg enwog o’r Almaen, ym Meisgyn ger Caerdydd, yn rhannol o ganlyniad imi astudio yn yr Almaen am flwyddyn.

Gweithiais am rai blynyddoedd yn yr adran datblygu prosesau gan, yn aml, weithio yn Stuttgart ar brosiectau newydd. Gadewais Bosch am bron 2 flynedd i weithio i gwmni arall o’r Almaen yn y DU fel peiriannydd gwerthiannau a gwasanaethau cyn dychwelyd yn ystod 2003 i weithio fel rheolwr prosiect. Yn 2006, cynigiwyd Aseiniad Cyfnod Byr imi yn Bühl, yr Almaen sef lleoliad y pencadlys rhanbarthol. Ar ôl trafod y cyfle hwn yn helaeth gyda’m gwraig a’n teuluoedd, penderfynasom fynd amdani gan adael ar gyfer ein bywyd newydd yn yr Almaen. Roedd y swydd newydd hon yn cynnwys llawer o deithio, ar gyfartaledd roeddwn i’n eistedd mewn maes awyr bob pythefnos ond roedd y cyfle i ddarganfod y byd yn fendigedig. Teithiais i Dde Affrica, Tsieina, De Korea, Hwngari, Sbaen, Gwlad Belg ac UDA. Mae’r profiad hwn o weithio mewn gwledydd gwahanol a phrofi diwylliannau gwahanol wedi bod o help mawr i’m gyrfa. Er bod fy holl deithio yn anodd i’m gwraig a oedd gartref gyda’n 2 fab ifanc heb unrhyw aelodau teulu na chyfeillion, syrthiasom mewn cariad â Bühl yn gyflym iawn. Mae’n dref brydferth iawn ar ymyl y Fforest Ddu wedi’i hamgylchynu gan winllannau a pherllannoedd. Yn gyflym iawn, dechreuasom feddwl am ymestyn ein hamser yn yr Almaen ac ar ôl i gyfnod 3 blynedd yr Aseiniad Cyfnod Byr ddod i ben llwyddais i ennill cytundeb cenedlaethol. Rwy wedi treulio’r blynyddoedd diwethaf yn gweithio i ddatblygu cysyniadau gweithgynhyrchiol ar gyfer cynnyrch newydd.

Beth ydych chi’n gwneud nawr?

Yn fy mywyd proffesiynol, rwy’n dal i weithio yn Bühl fel “Pencampwr Ansawdd Rhanbarthol”. Fi yw’r person cyswllt ar gyfer nifer o gwsmeriaid os oes ganddynt unrhyw broblemau yn ymwneud ag ansawdd ein cynnyrch dros y byd i gyd. Fy mhrif rôl yw cysylltu â’n holl safleoedd gweithgynhyrchu ar draws y byd i sicrhau ein bod yn datrys unrhyw broblemau efallai sydd gan y cwsmer yn gyflym ac yn effeithlon. Ar hyn o bryd, rwy mewn cyswllt dyddiol â Tsieina, Hwngari, Brasil ac, wrth gwrs, yr Almaen.

Yn fy mywyd preifat, fel imi sôn eisoes, yn 2009 penderfynasom aros yn yr Almaen ac adeiladu tŷ yn yr un pentref yr oeddem yn llogi tŷ ynddo o’r blaen. Trwy ein plant mae gennym ni rwydwaith eang o gyfeillion ac yn rhan o nifer o glybiau yn cynnwys bod yn gadeirydd ar glwb Carnifal bychan yn y pentref. 

Mae gennym ni fywyd gwych mewn ardal brydferth a diogel o’r Almaen lle bod gan y plant y rhyddid i fod yn blant. Mae nifer o glybiau ar gael iddynt ymuno â nhw ac ar hyn o bryd maent yn rhan o glybiau pêl-droed, pêl foli a drymio. Erbyn hyn, mae’r ddau ohonynt yn astudio mewn ysgol yn yr Almaen sydd yn cyfateb i ysgol Ramadeg (Gymnasium) ac mae fy ngwraig a finnau yn falch iawn o hyn. Yn amlwg rydym yn gweld eisiau ein teulu ond mae ehediadau dyddiol o’n maes awyr lleol i Stansted ac ond yn cymryd 10 awr i yrru o’n cartref ni i gartref rhieni fy ngwraig yn Surrey.

Beth yw rhan fwyaf buddiol eich swydd?

Efallai ei bod yn swnio’n wirion ond mae’r gallu i sgwrsio â’m cydweithwyr o’r Almaen drwy gyfrwng Almaeneg yn rhywbeth fy mod o hynod falch ohono o hyd. Pan oeddwn yn ddisgybl yn yr ysgol, nid oedd ieithoedd yn un o’m cryfderau gan arwain imi roi’r gorau iddynt cyn gynted â phosib. Mae’r gallu i gael sgwrs gyda rhywun mewn iaith arall yn anhygoel!

Peth gwych arall am fy swydd yw’r cyswllt dyddiol â phobl o wledydd a diwylliannau gwahanol. Mae Bosch yn gwmni rhyngwladol mawr iawn ac, yn fy adran flaenorol, roedd gennyf gydweithwyr o Hwngari, Brasil, Tsieina, Mecsico, India, yr Almaen a’r DU a phob un yn eistedd yn fy swyddfa.

A wnewch chi roi manylion am eich hanes gyrfaol ac unrhyw gyflawniadau proffesiynol?

Yn ei hanfod, rwy wedi bod yn gweithio i Bosch am y 15 mlynedd diwethaf (llai saib byr) gan dreulio’r mwyafrif o’r cyfnod hwnnw naill ai mewn maes gweithgynhyrchu neu ddatblygu.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i’n myfyrwyr presennol?

Os oes gennych chi hyd yn oed siawns fach o astudio dramor manteisiwch ar y cyfle. Efallai bod byw tramor yn bell o’ch teulu a’ch cyfeillion yn swnio’n frawychus ond mae llawer mwy o bethau cadarnhaol na phethau negyddol.

Disgrifiwch eich profiad ‘astudio dramor’ mewn ychydig o eiriau…

Profiad newid bywydau