Canghennau Rhyngwladol y Cyn-fyfyrwyr
Mae gan Brifysgol Abertawe rwydwaith cynyddol o gyn-fyfyrwyr sy'n byw ac yn gweithio dramor ac rydym am gadw perthynas agos â chi. Drwy Ganghennau Rhyngwladol y Cyn-fyfyrwyr rydym am sicrhau eich bod yn cadw eich cysylltiad â'r Brifysgol ac yn datblygu cysylltiadau â graddedigion eraill o Brifysgol Abertawe yn eich ardal.
- Mae buddion ymuno â Changen yn cynnwys:
- Cynnal cysylltiadau cryf gyda'r Brifysgol, ble bynnag yr ydych yn y byd;
- Derbyn y newyddion diweddaraf am ddatblygiadau yn y Brifysgol - ac yn eich maes pwnc;
- Adeiladu rhwydwaith defnyddiol o gysylltiadau cymdeithasol a busnes;
- Cysylltu â chyn-fyfyrwyr yn eich dinas a’ch gwlad sydd o’r un meddylfryd â chi a rhannu’ch profiadau â nhw;
- Datblygu cysylltiadau â staff Prifysgol Abertawe sy'n ymweld â'ch ardal;
- Cyfle i recriwtio graddedigion hyfedr i weithio yn eich cwmni.