Ysbyty, neu gartref? Mae protocol newydd ar gyfer asesu pobl hŷn sydd wedi cwympo yn ddiogel, yn rhad ac mae'n lleihau galwadau 999

Mae canllawiau i helpu parafeddygon i wneud y penderfyniad iawn ar gyfer pobl hŷn sydd wedi cwympo yn gost-effeithiol ac yn helpu i leihau galwadau 999 pellach, yn ôl ymchwil newydd dan arweiniad tîm yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe.

Mae cwympo'n broblem gyffredin iawn ymhlith pobl hŷn a gall gael canlyniadau difrifol. Derbynnir llawer o alwadau 999 ar gyfer pobl hŷn sy'n cwympo. Mae llawer ohonynt yn cwympo mwy nag unwaith.

  • Mae tua 30% o bobl dros 65 oed sy'n byw gartref yn cwympo bob blwyddyn.
  • Yn y DU, mae cwympiadau'n cyfrif am bron £1 biliwn o gyllideb y GIG.
  • Mae tua 8% o'r galwadau 999 yn y DU yn ymwneud â chwympiadau.

400 x 498Os nad yw'r person sydd wedi cwympo wedi'i anafu, gall y criw ambiwlans ei adael gartref yn hytrach na mynd ag ef i'r ysbyty. Ar gyfartaledd, mae hyn yn digwydd mewn tua 40% o achosion ar hyn o bryd.

Mewn rhai ardaloedd, mae gwasanaethau ambiwlans wedi creu cysylltiadau lleol â gwasanaethau cwympiadau. Fodd bynnag, does dim digon o dystiolaeth i ddangos a yw hyn yn ddiogel, yn effeithiol ar gyfer cleifion neu'n werth y gost.

 Dyma ble mae ymchwil Abertawe'n cyfrannu - rhan o brosiect o'r enw SAFER 2 (Cymorth ac Asesiad ar gyfer Cyfeiriadau Brys yn achos Cwympiadau).

Cynhaliodd y tîm dreial ar raddfa fawr i brofi canllawiau newydd, sef protocol i barafeddygon ei ddefnyddio i asesu pobl yn dilyn galwad 999 pan fydd rhywun wedi cwympo.

Mae'r protocol yn eu helpu i benderfynu a ddylent fynd â'r claf i'r ysbyty neu ei adael gartref gan ei gyfeirio at wasanaeth cwympiadau cymunedol os yw hynny'n briodol.

Roedd y treial yn cynnwys 105 o barafeddygon mewn 14 gorsaf ambiwlans, ar draws tri gwasanaeth ambiwlans yn y DU. Bu'r tîm yn monitro dros 4000 o bobl a ffoniodd am ambiwlans yn sgil cwympo.

Dangosodd yr ymchwil fod y protocol newydd:

  • Yn ddiogel ac yn rhad
  • Wedi arwain at ostyngiad o 11% mewn galwadau 999 pellach gan bobl sydd wedi cwympo - felly byddai 8 galwad nawr am bob 9 a wnaed o'r blaen
  • Wedi gadael llai o bobl heb ofal parhaus ar ôl cwympo
  • Heb gael unrhyw effeithiau ehangach ar dderbyniadau i Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys na chyfraddau marwolaeth
  • Wedi cael effeithiau cyfyngedig ar ansawdd bywyd neu foddhad cleifion
  • Heb gael ei ddefnyddio gan barafeddygon i’r fath raddau, neu mor gyson, ag a ddisgwyliwyd

Meddai'r Athro Helen Snooks, o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, a arweiniodd y prosiect:

"Mae'r canfyddiadau'n dangos bod y ffordd newydd hon o asesu cleifion sy'n cwympo yn ddiogel. Gall gwasanaethau ambiwlans ei chyflwyno gan wybod nad yw'n cynyddu’r risg o niwed i gleifion.

Rydym hefyd wedi dangos bod y protocol yn gysylltiedig â gostyngiad bach yn nifer y galwadau 999 gan gleifion a oedd wedi cwympo o'r blaen. Gan fod costau a phwysau mor uchel mewn gofal brys, gall hyd yn oed gostyngiad bach wneud gwahaniaeth mawr."

Darllenwch yr ymchwil

Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe